Wedi'u gwneud | 28 Medi 2004 | ||
Yn dod i rym | 29 Medi 2004 |
Awdurdodau perthnasol a ragnodwyd
3.
Mae awdurdodau tân wedi'u rhagnodi yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1)(b) a (d) o Ddeddf 2000.
(2) Pan fo cynllun i'w ddirymu yn unol â rheoliad 6, rhaid i'r awdurdod tân, cyn i'r dirymiad ddod yn effeithiol, wneud cynllun pellach am y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r dirymiad yn effeithiol.
Diwygio cynlluniau
6.
- (1) Caniateir diwygio neu ddirymu cynllun a wneir o dan y Rhan hon ar unrhyw adeg.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), canateir i gynllun a wneir o dan y ddarpariaeth hon ddarparu ar gyfer addasu lwfansau yn flynyddol, a hynny o ran y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 a'r blynyddoedd dilynol.
(3) Rhaid i addasiad blynyddol a wneir gan awdurdod tân -
(4) Pan fo addasiad i'w wneud i gynllun a fydd yn effeithio ar y lwfans sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn y gwneir yr addasiad, caiff y cynllun ddarparu bod yr hawl i gael y lwfans sydd wedi'i addasu yn gymwys o ddechrau'r flwyddyn y gwneir yr addasiad ynddi.
(5) Pan nad yw cynllun yn darparu bod yr hawl i gael lwfans sydd wedi'i addasu yn gymwys o ddechrau blwyddyn, fel a ddisgrifir ym mharagraff (4) -
Lwfansau awdurdod tân
7.
- (1) Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu bod lwfans awdurdod tân yn cael ei dalu, am bob blwyddyn y mae'r cynllun yn ymwneud â hi, i bob aelod o'r awdurdod tân, a rhaid i swm y lwfans hwnnw fod yr un fath â'r swm a delir i bob aelod.
(2) At ddibenion y flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005, ni fydd cyfanswm y lwfans awdurdod tân sy'n daladwy i bob aelod o dan y cynllun yn fwy na £505.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3)(a), (4) a (5) o reoliad 6, ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006, ni fydd cyfanswm y lwfans awdurdod tân sy'n daladwy i bob aelod o dan y cynllun yn fwy na £1,002.
(4) At ddibenion y blynyddoedd sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny, ni fydd cyfanswm y lwfans awdurdod tân sy'n daladwy i bob aelod o dan y cynllun (yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3)(a), (4) a (5) o reoliad 6) yn fwy na chyfanswm y lwfans a oedd yn daladwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.
(5) Os bydd cyfnod swydd aelod yn para am ran o flwyddyn yn unig, rhaid i'r cynllun ddarparu y bydd hawl yr aelod hwnnw yn hawl i gael tâl am y gyfran honno o'r lwfans awdurdod tân hwnnw sy'n cyfateb i nifer y dyddiau y mae cyfnod swydd yr aelod o'i chymharu â nifer y dyddiau yn y cyfnod hwnnw.
(6) Pan fo aelod yn cael ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol[10] o gyfrifoldebau a dyletswyddau'r aelod hwnnw yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno[11], rhaid i'r cynllun bennu y caiff yr awdurdod tân wrthod talu'r gyfran honno o'r lwfans awdurdod tân sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn perthynas â'r cyfnod pan ataliwyd yr aelod dros dro neu ataliwyd ef dros dro yn rhannol.
(7) Rhaid i gynllun a baratoir o dan y Rhan hon ddarparu na fydd mwy nag un lwfans awdurdod tân yn daladwy i aelod.
Lwfansau cadeirydd a lwfansau is-gadeirydd awdurdod tân
8.
- (1) Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu ar gyfer talu, am bob blwyddyn y mae'r cynllun yn ymwneud â hi, lwfans cadeirydd awdurdod tân a lwfans is-gadeirydd awdurdod tân.
(2) At ddibenion y flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005, ni fydd cyfanswm -
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3)(b), (4) a (5) o reoliad 6, ni fydd cyfanswm -
(4) At ddibenion y blynyddoedd sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny, ni fydd cyfanswm -
(5) Pan fo cyfnod swydd aelod o awdurdod tân fel cadeirydd (neu is-gadeirydd) yn para am ran o flwyddyn yn unig, rhaid i'r cynllun ddarparu y bydd hawl yr aelod hwnnw yn hawl i gael ei dalu'r gyfran honno o lwfans cadeirydd awdurdod tân (neu lwfans is-gadeirydd awdurdod tân) sy'n cyfateb i nifer y dyddiau y mae'r aelod yn dal y swydd yn ystod y flwyddyn o'i chymharu â nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.
(6) Pan fo aelod wedi'i atal dros dro neu wedi'i atal dros dro yn rhannol o'i gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau fel cadeirydd neu is-gadeirydd yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno, rhaid i'r cynllun bennu y bydd yr awdurdod tân yn cael gwrthod talu'r gyfran honno o lwfans cadeirydd awdurdod tân neu lwfans is-gadeirydd awdurdod tân sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn perthynas â'r cyfnod yr ataliwyd ef dros dro, neu yr ataliwyd ef dros dro yn rhannol.
Adennill lwfansau
10.
Pan dalwyd lwfans yn barod o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hyn o ran unrhyw gyfnod pan fo'r aelod dan sylw -
caiff cynllun ddarparu y caiff yr awdurdod tân ofyn am gael adennill y gyfran honno o'r lwfans sy'n ymwneud ag unrhyw gyfnod felly (a chaiff dull yr adennill gynnwys bod yr awdurdod tân yn peidio â thalu swm o'r lwfans perthnasol i'r aelod yn y dyfodol, boed yn rhannol neu'n gyfan).
Peidio â derbyn lwfans
11.
Rhaid i gynllun o dan Ran 2 ddarparu y caiff aelod, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i swyddog priodol yr awdurdod tân, ddewis peidio â derbyn unrhyw gyfran neu'r holl gyfran o hawl yr aelod hwnnw i gael lwfans o dan y cynllun.
Hawliadau a thaliadau
12.
Caiff cynllun o dan Ran 2 ddarparu bod lwfansau yn cael eu talu ar yr adegau hynny a bennir ynddo, a chaniateir pennu amserau gwahanol i lwfansau gwahanol.
(3) At ddibenion y flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, ac sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005 -
(4) Yn ddarostyngedig i reoliad 14, ni fydd cyfanswm y lwfans gofal sy'n daladwy -
(5) At ddibenion y blynyddoedd sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny, ni fydd cyfanswm y lwfans gofal sy'n daladwy i gadeirydd, is-gadeirydd neu aelod (yn ddarostyngedig i reoliad 14) yn fwy na chyfanswm y lwfans hwnnw a oedd yn daladwy i'r swydd honno yn y flwyddyn flaenorol.
(6) Pan fo cyfnod swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod yn para am ran o flwyddyn yn unig, bydd hawl y cadeirydd, yr is-gadeirydd neu'r aelod yn hawl i gael tâl am y gyfran honno o'r lwfans gofal sy'n daladwy i'r swydd honno sy'n cyfateb i nifer y dyddiau y daliwyd y swydd honno yn ystod y flwyddyn o'i chymharu â nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.
(7) Pan fo aelod yn cael ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o'i gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau fel cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod, yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno, ni fydd yr awdurdod tân yn talu'r lwfans gofal sy'n daladwy i'r swydd honno am y cyfnod yr oedd y cadeirydd, yr is-gadeirydd neu'r aelod wedi'i atal dros dro, neu wedi'i atal dros dro yn rhannol.
14.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff awdurdod tân ddarparu ar gyfer addasiad blynyddol i lwfans gofal am y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006 a blynyddoedd dilynol.
(2) Ni fydd addasiad blynyddol i lwfans gofal sy'n daladwy gan awdurdod tân i gadeirydd, is-gadeirydd neu aelod yn fwy na'r cyfanswm sy'n cynrychioli cyfartaledd yr holl addasiadau blynyddol a wnaed (os gwnaed addasiadau) gan ei awdurdodau cyfansoddol i'r lwfans gofal[12] sy'n daladwy gan yr awdurdodau hynny y flwyddyn honno o dan Reoliadau 2002.
(3) Pan fo awdurdod tân i addasu swm lwfans gofal, caiff yr awdurdod hwnnw ddarparu bod yr hawl i'r lwfans fel y'i addaswyd yn gymwys o ddechrau'r flwyddyn y gwneir yr addasiad ynddi.
(4) Pan nad yw awdurdod tân yn darparu bod yr hawl i gael lwfans gofal sydd wedi'i addasu yn gymwys o ddechrau blwyddyn, fel a ddisgrifir ym mharagraff (3) -
Lwfansau teithio a chynhaliaeth
15.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd gan aelod hawl i gael taliadau ar ffurf lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth yn ôl cyfraddau y penderfynir arnynt gan yr awdurdod tân ar gyfer pob blwyddyn pan fydd gwariant ar deithio neu gynhaliaeth yn cael ei dynnu o raid gan yr aelod hwnnw wrth iddo gyflawni dyletswydd a gymeradwywyd fel aelod.
(2) Rhaid i gyfraddau'r lwfans a benderfynir am flwyddyn o dan baragraff (1) ar gyfer teithio mewn cerbyd modur preifat beidio â bod yn fwy na chyfraddau'r lwfansau cyfatebol sy'n daladwy am y flwyddyn honno i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3) Rhaid i dderbynebau sy'n profi beth oedd y gwariant gwirioneddol fynd gydag unrhyw hawliad am lwfansau teithio a chynhaliaeth o dan y Rhan hon (ac eithrio hawliadau am deithio mewn cerbyd modur preifat) ac, yn ogystal, rhaid cydymffurfio ag unrhyw ofyniad neu gyfyngiad a benderfynir gan awdurdod.
(4) Pan fo aelod yn cael ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o gyfrifoldebau a dyletswyddau'r aelod hwnnw yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000, neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno, caiff yr awdurdod tân wrthod talu'r gyfran honno o'r lwfans teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn perthynas â'r cyfnod yr ataliwyd ef dros dro neu ataliwyd ef dros dro yn rhannol.
Adennill lwfansau
16.
Pan dalwyd lwfans yn barod o dan y Rhan hon o ran unrhyw gyfnod pan fo'r aelod dan sylw -
caiff yr awdurdod tân ddarparu y caiff ofyn am gael adennill y gyfran honno o'r lwfans sy'n ymwneud ag unrhyw gyfnod felly (a chaiff dull yr adennill gynnwys bod yr awdurdod tân yn peidio â thalu swm o'r lwfans perthnasol i'r aelod yn y dyfodol, boed yn rhannol neu'n gyfan).
i aelodau'r awdurdod hwnnw.
Mae'r pŵer hwn bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.
Mae adran 100 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("Deddf 2000") yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ynglyn â lwfansau teithio a chynhaliaeth ac ad-dalu treuliau a dynnir gan aelodau unrhyw awdurdodau perthnasol a ragnodir.
Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau tân yng Nghymru wneud cynlluniau ar gyfer talu lwfans sylfaenol ("lwfans awdurdod tân") a lwfansau cyfrifoldebau arbennig ("lwfans cadeirydd awdurdod tân" a "lwfans is-gadeirydd awdurdod tân") ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ac yn y blynyddoedd wedi hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu hefyd ar gyfer talu lwfans gofal a lwfans teithio a chynhaliaeth.
Mae rheoliad 3 yn rhagnodi awdurdodau tân yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1)(b) a (d) o Ddeddf 2000.
Os dirymir cynllun a wnaed o dan y Rheoliadau hyn, mae rheoliad 5 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod sicrhau bod cynllun pellach yn barod i fod yn effeithiol o ddyddiad unrhyw ddirymiad o'r fath.
Mae rheoliad 6 yn rhoi caniatâd i ddiwygio neu i ddirymu cynllun ar unrhyw adeg, ac yn galluogi awdurdodau tân i wneud addasiadau blynyddol i'r lwfansau sy'n daladwy o dan y cynllun, a hynny o'r flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 ymlaen. Cyfyngir ar gyfanswm yr addasiad blynyddol i lwfansau awdurdodau tân, fel nad yw'n fwy na chyfartaledd unrhyw addasiadau a wnaed gan gynghorau cyfansoddol awdurdod tân i'w lwfansau sylfaenol y flwyddyn honno. Cyfyngir ar gyfanswm yr addasiad blynyddol i lwfans cadeirydd awdurdod tân neu lwfans is-gadeirydd awdurdod tân, fel nad yw'n fwy na chyfartaledd unrhyw addasiadau a wnaed gan gynghorau cyfansoddol awdurdod tân i'w lwfansau cyfrifoldebau arbennig y flwyddyn honno.
Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun gynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â lwfans awdurdod tân i bob aelod o awdurdod tân. Un lwfans awdurdod tân yn unig fesul aelod fydd yn daladwy o dan cynllun o'r fath. Mae rheoliad 7 hefyd yn rhagnodi mwyafswm y lwfans awdurdod tân ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005, ac yn darparu mwyafsymiau'r lwfans hwnnw mewn blynyddoedd dilynol. O dan reoliad 7, gall awdurdod tân wrthod talu lwfans awdurdod tân i aelod o dan amgylchiadau pan ataliwyd yr aelod dros dro, neu fe'i ataliwyd dros dro yn rhannol, yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno.
Mae Rheoliad 8 yn gofyn i awdurdodau tân ddarparu ar gyfer lwfans cadeirydd awdurdod tân a lwfans is-gadeirydd awdurdod tân. Rhagnodir mwyafswm y ddau lwfans hynny ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005, ac mae rheoliad 8 hefyd yn darparu mwyafsymiau'r lwfansau hynny mewn blynyddoedd dilynol. Fel gyda'r lwfans awdurdod tân, caiff awdurdod tân wrthod talu lwfansau cadeirydd awdurdod tân ac is-gadeirydd awdurdod tân o dan amgylchiadau penodol.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol bod cynllun o dan Ran 2 yn pennu swm lwfans awdurdod tân a swm lwfans cadeirydd awdurdod tân a lwfans is-gadeirydd awdurdod tân.
Mae rheoliad 10 yn disgrifio'r amgylchiadau pan gaiff awdurdod tân adennill lwfansau a dalwyd i aelod yr awdurdod hwnnw o dan gynllun.
Rhaid i gynllun o dan Ran 2 gynnwys darpariaeth i ganiatáu i aelod beidio â derbyn unrhyw ran o'r hyn y mae ganddo hawl iddo o dan y cynllun yn rhinwedd rheoliad 11 ac, o dan reoliad 12, caiff nodi'r amserau ar gyfer talu'r lwfansau (a all fod yn wahanol ar gyfer lwfansau gwahanol).
Mae rheoliad 13 yn rhoi'r disgresiwn i awdurdod tân dalu lwfans gofal. Mae gwahanol symiau lwfansau gofal ar gael i gadeirydd, is-gadeirydd ac aelod sy'n tynnu treuliau wrth drefnu gofal ar gyfer plant neu ddibynyddion tra bo'n ymgymryd â dyletswyddau awdurdod tân. Mae rheoliad 13 yn rhagnodi mwyafsymiau gwahanol y lwfansau gofal sydd ar gael i gadeirydd, is-gadeirydd ac aelod yn ystod y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005, ac mae'n nodi mwyafswm y lwfans gofal sy'n daladwy i'r swyddogion hynny mewn blynyddoedd dilynol. Caiff awdurdod tân wrthod talu lwfans gofal i aelod o dan amgylchiadau penodol.
Mae rheoliad 14 yn rhoi'r hawl i awdurdodau tân wneud addasiad blynyddol i swm y lwfans gofal sydd ar gael i gadeirydd, is-gadeirydd ac aelod. Cyfyngir ar gyfanswm yr addasiad.
Mae rheoliad 15 yn darparu ar gyfer talu lwfans costau teithio neu gynhaliaeth i aelodau, yn ôl cyfraddau sydd i'w penderfynu bob blwyddyn. Mae'r cyfraddau hynny i'w cysylltu â'r cyfraddau sy'n daladwy i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau na chaniateir iddynt fod yn fwy na'r cyfraddau y mae Aelodau'r Cynulliad yn eu cael. Mae hawliadau teithio a chynhaliaeth (ac eithrio hawliadau sy'n ymwneud â theithio mewn cerbyd modur preifat) i'w gwneud ar sail "wirioneddol", rhaid bod derbynebau perthnasol am y gwariant a dynnwyd yn mynd gyda hwy, ac, yn ogystal, rhaid iddynt gydymffurfio ag unrhyw ofyniad neu gyfyngiad a benderfynir gan awdurdod. Caiff awdurdod tân wrthod talu lwfans teithio neu gynhaliaeth i aelod o dan amgylchiadau penodol.
Mae rheoliad 16 yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff awdurdod tân adennill lwfansau gofal, teithio neu gynhaliaeth a dalwyd i aelod yr awdurdod hwnnw.
Mae rheoliad 17 yn darparu bod yn rhaid i hawliadau gan aelodau awdurdod tân yn unol â'r Rheoliadau hyn gael eu talu gan awdurdod tân y mae'r ceisydd yn aelod ohono. Mae rheoliad 17 hefyd yn darparu bod yn rhaid cynnwys datganiad nad yw'r ceisydd wedi gwneud, ac na fydd yn gwneud, unrhyw hawliad arall ynglyn â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef gyda phob hawliad a wneir am lwfans gofal, lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth.
Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod tân gadw cofnod o unrhyw daliadau a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn neu unrhyw gynllun a wneir oddi tanynt, gan roi manylion am y derbynnydd a natur y taliad. Dylai'r wybodaeth honno fod ar gael i'w harchwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol yn ardal unrhyw un o awdurdodau cyfansoddol awdurdod tân. Gellir cael copïau o'r wybodaeth drwy dalu ffi resymol i'r awdurdod.
Yn unol â rheoliad 19, rhaid i unrhyw gynllun a wneir o dan y Rheoliadau hyn gael cyhoeddusrwydd yn ardal yr awdurdod cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r cynllun gael ei wneud. Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn y mae cynllun yn ymwneud â hi, rhaid i bob awdurdod gyhoeddi manylion y cyfanswm a dalwyd o dan y cynllun i bob aelod mewn perthynas â lwfans awdurdod tân, lwfans cadeirydd awdurdod tân a lwfans is-gadeirydd awdurdod tân.
Mae rheoliad 19 hefyd yn darparu bod yn rhaid i bob awdurdod tân gyhoeddi manylion y cyfanswm a dalwyd i bob aelod mewn perthynas â'r lwfans gofal.
Mae rheoliad 20 yn datgymhwyso adrannau 174 a 175 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 mewn perthynas ag awdurdodau tân.
[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[7] O.S. 2002/1895 (Cy.196).back
[8] Gweler rheoliad 7 o O.S. 2002/1895 (Cy.196).back
[9] Gweler rheoliad 8 o O.S. 2002/1895 (Cy.196).back
[10] Gweler adran 83(7) i (10) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back
[11] Gweler yn enwedig O.S. 2001/2287 (Cy.171).back
[12] Gweler rheoliad 10 o O.S. 2002/1895 (Cy.196).back