British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021385w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1385 (Cy.135)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2002
|
Wedi'u gwneud |
16 Mai 2002 | |
|
Yn dod i rym |
17 Mai 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(6), (7), (8), (9), (10), (11) a (12), 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[
1]:
Enwi, cychwyn, a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 17 Mai 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygiad i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru)
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 [
2] fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (4) o Reoliad 5 rhowch:
"
(4) Ni chaiff eitem fusnes ei hystyried mewn cyfarfod oni bai bod -
(a) copi o'r agenda gan gynnwys yr eitem (neu gopi o'r eitem) yn agored i aelodau o'r cyhoedd ei archwilio yn unol â pharagraff (1):
(i) am o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod; neu
(ii) pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, o'r amser y bydd y cyfarfod yn cael ei gynnull; neu
(b) cadeirydd y cyfarfod o'r farn, oherwydd amgylchiadau arbennig, a fydd yn cael eu nodi yn y cofnodion, y dylai'r item gael ei thrafod yn y cyfarfod fel mater o frys.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66 (1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
J.E. Randerson
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg
16 Mai 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 o dan adrannau 22(6), (7), (8), (9), (10), (11) a (12), 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 er mwyn rheoleiddio gwahanol faterion mewn perthynas â'r busnes a weithredir gan awdurdodau lleol sydd yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth. Gwneir y Rheoliadau yma drwy ddefnyddio'r un pwerau i wneud ychwanegiad i'r Rheoliadau blaenorol hynny.
Mae Rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth i gadeirydd cyfarfod o'r weithrediaeth, neu bwyllgor o'r weithrediaeth, o awdurdod lleol wneud ychwanegiadau at agenda'r cyfarfod os yw'r person hynny o'r farn y dylid ystyried y mater ychwanegol, yn rhinwedd amgylchiadau arbennig, fel mater o frys.
Notes:
[1]
2000 p.22back
[2]
O.S.2001/2290 (Cy. 178)back
[3]
1998 p.38back
English
version
ISBN
0 11090493 1
|
Prepared
24 May 2002