Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, o ymarfer â'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 362(2) a 744 o Ddeddf Cwmnïau 1985[1], fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr laith Gymraeg 1993[2], ynghyd â phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, trwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: 1. Gellir dyfynnu'r Rheoliadau hyn fel Rheoliadau (Diwygio) (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau 2000, a deuant i rym ar 2 Hydref 2000. 2. Mae Ffurflen 363s cym a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y bydd amgylchiadau'n peri bod eu hangen, yn ffurflen ychwanegol sydd wedi ei phennu at ddibenion adran 362(2) o Ddeddf Cwmnïau 1985, lle cafodd y ffurflen ei danfon gan y cofrestrydd i gwmni y dywed ei femorandwm fod ei swyddfa gofrestredig i'w lleoli yng Nghymru, at ddibenion datganiad manylion blynyddol gan y cwmni hwnnw. Jeanne Spinks, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, Adran Masnach a Diwydiant. 6 Medi 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu Ffurflen newydd 363s cym yn cyfateb i Ffurflen 363s a bennwyd gan Reoliadau (Diwygio) (Ffurflenni) Cwmnïau 1999 (O.S. 1999/2356). Mae'r ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac fe ddaw i rym ar 2 Hydref 2000. Caiff ei rhoi gan y cofrestrydd cwmnïau i unrhyw gwmni sydd â memorandwm yn nodi ei fod i'w gofrestru yng Nghymru (o'i gwrthgyferbynnu â Chymru a Lloegr) ac sy'n hysbysu'r cofrestrydd ei fod am dderbyn honno yn lle ffurflen 363s. Fel ffurflen 363s fe gaiff ei hanfon wedi ei llenwi'n rhannol yn barod o gofnodion y cofrestrydd, a bydd modd i'r cwmni ei dychwelyd wedi ei diwygio a'i llenwi yn ôl sy'n briodol. Notes: [1] 1985 c. 6; cafodd adran 363 ei chyflwyno gan adran 139(1) o Ddeddf Cwmnïau 1989 (c. 40), a'i diwygio gan erthygl 7 o O.S. 1990/1707. Gweler diffiniad "pennu" yn adran 744.back
|