Offerynnau Statudol Cymru
Diogelu'r Amgylchedd, Cymru
Llygredd Morol, Cymru
Tribiwnlysoedd Ac Ymchwiliadau, Cymru
Gwnaed
29 Mawrth 2017
Yn dod i rym
1 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 108 o'r Ddeddf honno.
Yn unol ag adran 316(6)(b) a (7)(f) o'r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe'i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer(2).
3. Mae rheoliad 3 (apelau yn erbyn amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwydded forol) o Reoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) 2011(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn-
(a)ar ôl paragraff (1) mewnosoder-
"(1A) Caiff person y dyroddwyd hysbysiad iddo o dan-
(a)adran 72A(7) o Ddeddf 2009 (ffioedd pellach a godir os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod codi taliadau priodol); neu
(b)adran 107A(4) o Ddeddf 2009 (blaendaliadau ar gyfrif ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru);
apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn yr hysbysiad.";
(b)ym mharagraff (2) ar ôl "mharagraff (1)" mewnosoder "neu baragraff (1A)";
(c)ym mharagraff (3) ar ôl "mharagraff (1)" mewnosoder "neu baragraff (1A)".
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2017
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/923 (Cy. 132)) ("y Prif Reoliadau"), sy'n darparu ar gyfer gwneud apelau i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn hysbysiadau penodol a ddyroddir o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 ("Deddf 2009").
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Prif Reoliadau i ddarparu ar gyfer gwneud apelau i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn hysbysiadau sy'n amrywio, yn atal dros dro neu'n dirymu trwydded forol a ddyroddir o dan adrannau 72A(7) a 107A(4) o Ddeddf 2009.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad rheoleiddiol o'r costau a'r manteision sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2009 p. 23; diwygiwyd gan Ran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3), mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.
Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir wrth gyflawni gweithgareddau morol trwyddedadwy o ran Cymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adran 113(4)(a) a (5) o'r Ddeddf honno. Gweler adran 322(1) o'r Ddeddf honno i gael diffiniad o "Welsh inshore region".