Welsh Statutory Instruments
Addysg, Cymru
Gwnaed
22 Awst 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 32 o Fesur Addysg (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.-(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2013.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Daw adrannau 22 i 25 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 i rym ar 19 Medi 2013.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
22 Awst 2013
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Addysg (Cymru) 2011 ("Mesur 2011"). Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 19 Medi 2013 Bennod 2 o Ran 2 o Fesur 2011. Mae Pennod 2 o Ran 2 o Fesur 2011 yn gwneud darpariaeth ynghylch hyfforddiant i lywodraethwyr a chlercod a darparu clerc i gorff llywodraethu ysgol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 1 i 9 | 16 Tachwedd 2012 | 2012/2656 (Cy.288) (C.106) |
2011 mccc 7.