Offerynnau Statudol
BWYD, CYMRU
Gwnaed
15 Medi 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Medi 2010
Yn dod i rym
20 Hydref 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a), 2(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), fel y'u darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at un o offerynnau'r UE neu at Atodiad i un o offerynnau'r UE a bennir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn neu'r Atodiad hwnnw fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1.-(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2010, a deuant i rym ar 20 Hydref 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.-(1) Yn y Rheoliadau hyn-
mae i -awdurdod bwyd- yr un ystyr ag sydd i -food authority- yn adran 5(1A) o'r Ddeddf ond nid yw'n cynnwys awdurdod iechyd porthladd;
ystyr -awdurdod iechyd porthladd- (-port health authority-), o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(5), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
ystyr -caen cellwlos atgynyrchiedig- (-regenerated cellulose film-) yw deunydd haenen denau a gafwyd o gellwlos a goethwyd sy'n deillio o bren neu gotwm nas ailgylchwyd, gydag ychwanegiad o sylweddau addas neu beidio, naill ai yn y m s neu ar un arwyneb neu'r ddau arwyneb, ond nad yw'n cynnwys casinau synthetig o gellwlos atgynyrchiedig;
ystyr -Cyfarwyddeb 2002/72/EC- (-Directive 2002/72/EC-) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(6);
ystyr -Cyfarwyddeb 2007/42/EC- (-Directive 2007/42/EC-) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau a wnaed o gaen cellwlos atgynyrchiedig ac y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(7);
ystyr -y Ddeddf- (-the Act-) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
mae -gwerthu- (-sell-) yn cynnwys cynnig neu roi nwydd ar ddangos i'w werthu, neu fod mewn meddiant arno er mwyn ei werthu, a dylid dehongli -gwerthiant- (-sale-) yn unol â hynny;
ystyr -mewnforio- (-import-) yw mewnforio yn ystod busnes, o fan heblaw Gwladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ;
mae -paratoad- (-preparation-) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar driniaeth neu broses, a dylid dehongli -paratoi- (-prepare-) yn unol â hynny;
ystyr -plastigion- (-plastics-) yw'r deunyddiau a'r eitemau hynny y mae Cyfarwyddeb 2002/72/EC yn gymwys iddynt;
ystyr -Rheoliad 1935/2004- (-Regulation 1935/2004-) yw Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC(8);
ystyr -Rheoliad 2023/2006- (-Regulation 2023/2006-) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(9);
ystyr -Rheoliad 450/2009- (-Regulation 450/2009-) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(10);
ystyr -Rheoliadau 2009- (-the 2009 Regulations-) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2009(11); ac
ystyr -swyddog awdurdodedig- (-authorised officer-) yw unrhyw berson, boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio, sydd â chyfrifoldeb dros weithredu a gorfodi o dan reoliad 14, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006 neu Reoliad 450/2009 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliadau hynny.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad 2023/2006 neu at Atodiad i Gyfarwyddeb 2002/72/EC neu i Gyfarwyddeb 2007/42/EC yn gyfeiriad at y Rheoliad hwnnw neu'r Atodiad hwnnw fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.
3. Nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r deunyddiau a'r eitemau hynny sydd wedi eu nodi yn is-baragraffau (a), (b) ac (c) o Erthygl 1(3) o Reoliad 1935/2004.
4. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a gynhwysir yn Erthygl 27 o Reoliad 1935/2004, bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau a ganlyn yn y Rheoliad hwnnw yn euog o dramgwydd-
(a)Erthygl 3 (gofynion cyffredinol);
(b)Erthygl 4 (gofynion penodedig ar gyfer deunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus);
(c)Erthygl 11(4) a (5) (darpariaethau'n ymwneud ag awdurdodaeth ar lefel yr UE);
(ch)Erthygl 15(1), (3), (4), (7) ac (8) (labelu);
(d)Erthygl 16(1) (datganiad cydymffurfio); neu
(dd)Erthygl 17(2) (y gallu i olrhain).
5. Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â gofynion Erthygl 4 (cydymffurfio ag arfer gweithgynhyrchu da) yn Rheoliad 2023/2006 yn euog o dramgwydd.
6. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a gynhwysir yn Erthygl 14 o Reoliad 450/2009, bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau a ganlyn yn y Rheoliad hwnnw yn euog o dramgwydd-
(a)Erthygl 4 (gosod deunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus ar y farchnad);
(b)Erthygl 5(1) (rhestr o sylweddau y caniateir eu defnyddio mewn elfennau gweithredol a deallus) fel y'i darllenir gydag Erthygl 5(2);
(c)Erthygl 9(1) (sy'n ymwneud â chategorïau penodol o sylweddau nad ydynt ar y rhestr a awdurdodwyd), fel y'i darllenir gydag Erthygl 9(2) a (3);
(ch)Erthygl 10(1) (sy'n ymwneud â chategorï o sylweddau nad ydynt ar y rhestr a awdurdodwyd), fel y'i darllenir gydag Erthygl 10(2);
(d)Erthygl 11(1) a (2) (rheolau ar labelu);
(dd)Erthygl 12 (datganiad cydymffurfio yn ofynnol); neu
(e)Erthygl 13 (gofynion yn ymwneud â dogfennau atodol).
7.-(1) Y cyrff canlynol a ddynodir fel yr awdurdodau cymwys at y dibenion yn narpariaethau Rheoliad 1935/2004 a nodir isod-
(a)mewn cysylltiad ag Erthyglau 9 a 13, yr Asiantaeth Safonau Bwyd; a
(b)mewn cysylltiad ag Erthyglau 16(1) a 17(2), yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod sydd â chyfrifoldeb am orfodi yn unol â rheoliad 14(1).
(2) Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6(2) a 7(3) o Reoliad 2023/2006 yw pob awdurdod bwyd yn ei ardal.
(3) Yr awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 13 o Reoliad 450/2009 yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod sydd â chyfrifoldeb am orfodi yn unol â rheoliad 14(1).
8.-(1) O ran deunyddiau ac eitemau a weithgynhyrchir â pholymerau neu gydbolymerau finyl clorid-
(a)rhaid iddynt beidio â chynnwys monomer finyl clorid mewn mesur sy'n fwy nag 1 miligram y cilogram o'r deunydd neu eitem fel y'i mesurir drwy'r dull dadansoddi a bennir yn rheoliad 9(1); a
(b)rhaid iddynt gael eu gweithgynhyrchu yn y fath fodd nad ydynt yn trosglwyddo i fwydydd y maent mewn cysylltiad â hwy unrhyw fesur o finyl clorid sy'n fwy na 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd fel y'i mesurir drwy'r dull dadansoddi a bennir yn rheoliad 9(2).
(2) Ni chaiff neb-
(a)gwerthu;
(b)mewnforio; nac
(c)defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,
unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â pharagraff (1).
9.-(1) Y dull a ddefnyddir wrth ddadansoddi unrhyw sampl i bwrpas canfod faint o fonomer finyl clorid sydd yn bresennol yn y deunydd neu eitem, er mwyn dyfarnu a yw'n cydymffurfio â rheoliad 8(1)(a), yw'r dull a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 80/766/EEC sydd yn pennu dull y Gymuned o ddadansoddi er mwyn rheoli'n swyddogol lefel y monomer finyl clorid mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(12).
(2) Y dull a ddefnyddir wrth ddadansoddi unrhyw fwyd i bwrpas canfod faint o finyl clorid sydd yn bresennol yn y bwyd, er mwyn dyfarnu a yw deunydd neu eitem sydd mewn cysylltiad â'r bwyd, neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r bwyd, yn cydymffurfio â rheoliad 8(1)(b), yw'r dull a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 81/432/EEC sydd yn pennu dull y Gymuned o ddadansoddi er mwyn rheoli'n swyddogol y finyl clorid a ryddheir i fwydydd gan ddeunyddiau ac eitemau(13).
10.-(1) Mae'r Rhan hon yn gymwys i gaen cellwlos atgynyrchiedig-
(a)sydd ynddo'i hun yn ffurfio cynnyrch gorffenedig; neu
(b)sy'n rhan o gynnyrch gorffenedig sy'n cynnwys deunyddiau eraill,
ac y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, neu sydd, drwy gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw, yn dod i gysylltiad â bwyd.
(2) Ac eithrio ym mharagraff (4), mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at Atodiad II yn gyfeiriad at Atodiad II i Gyfarwyddeb 2007/42/EC.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliad 12, ni chaiff unrhyw berson, wrth weithgynhyrchu unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, ddefnyddio unrhyw sylwedd neu grŵp o sylweddau heblaw'r sylweddau a enwir neu a ddisgrifir-
(a)yng ngholofn gyntaf (enwau) Atodiad II (rhestr o sylweddau a awdurdodwyd wrth weithgynhyrchu caen cellwlos atgynyrchiedig) yn achos-
(i)caen heb ei araenu; neu
(ii)caen wedi ei araenu os yw'r araen yn deillio o gellwlos;
(b)yng ngholofn gyntaf Rhan Gyntaf Atodiad II (caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen) yn achos caen sydd i'w araenu, pan fydd yr araen yn cynnwys plastigion,
ac ym mhob achos, mewn unrhyw fodd nad yw'n unol â'r amodau a'r cyfyngiadau a nodir yn y cofnod cyfatebol yn ail golofn y Rhan briodol o Atodiad II, fel y'i darllenir gyda'r rhaglith i'r Atodiad hwnnw.
(4) Yn ddarostyngedig i reoliad 12, ni chaiff unrhyw berson, wrth weithgynhyrchu unrhyw araen sydd i'w rhoi ar gaen y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b), ddefnyddio unrhyw sylwedd neu grŵp o sylweddau ar wahân i'r rhai a restrir yn Atodiad II, III neu IV i Gyfarwyddeb 2002/72/EC, ac ni chaiff eu defnyddio mewn unrhyw ddull nad yw'n unol â'r gofynion, y cyfyngiadau a'r manylion priodol a gynhwysir yn yr Atodiadau hynny ac yn Rheoliadau 2009.
(5) Caniateir defnyddio sylweddau heblaw'r rhai a restrir yn Atodiad II fel lliwyddion neu adlynion wrth weithgynhyrchu unrhyw gaen y mae paragraff (3)(a) yn gymwys iddo, ar yr amod bod caen o'r fath yn cael ei weithgynhyrchu yn y fath fodd ag i beidio â throsglwyddo unrhyw liwydd neu adlyn i fwyd mewn unrhyw faint canfyddadwy.
(6) Yn ddarostyngedig i reoliad 12 ni chaiff neb-
(a)gwerthu;
(b)mewnforio; na
(c)defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,
unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig a weithgynhyrchwyd yn groes i ofynion paragraffau (3) neu (4), neu sy'n methu â chydymffurfio â pharagraff (8).
(7) Ni chaiff neb, wrth gynnal busnes, ddefnyddio mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd-
(a)pan fo'r bwyd yn cynnwys dŵr sydd yn ffisegol rydd ar yr wyneb, unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig sy'n cynnwys ether bis(2-hydrocsiethyl) neu ethanedïol; neu
(b)unrhyw gaen gellwlos atgynyrchiedig yn y fath fodd fel y bydd unrhyw wyneb printiedig o'r caen hwnnw'n dod i gysylltiad â'r bwyd.
(8) Yn ystod unrhyw gam marchnata heblaw'r cam adwerthu, rhaid i unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig, oni bai ei fod wedi ei fwriadu o ran natur i ddod i gysylltiad â bwyd, ddod gyda datganiad ysgrifenedig sydd yn ardystio ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys iddo.
11.-(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff unrhyw berson weithgynhyrchu neu fewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion ac-
(a)y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd; a
(b)y gellir trosglwyddo eu cyfansoddion i fwyd mewn meintiau sy'n fwy na therfyn ymfudo cyffredinol o 10 miligram y decimetr sgwâr o arwyneb y deunydd neu'r eitem sydd mewn cysylltiad â bwyd.
(2) Yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed â chaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion-
(a)sydd yn gynhwysydd, neu'n debyg i gynhwysydd, neu y gellir ei lenwi i gynhwysedd o ddim llai na 500 mililitr a dim mwy na 10 litr;
(b)y gellir ei llenwi a'i bod yn anymarferol i amcangyfrif arwynebedd yr wyneb mewn cysylltiad â bwyd; neu
(c)sy'n gap, gasged, caead neu ddyfais debyg ar gyfer selio,
y terfyn ymfudo cyffredinol fydd 60 miligram o gyfansoddion yn cael eu trosglwyddo ar gyfer pob cilogram o fwyd.
(3) Ni chaiff unrhyw berson weithgynhyrchu neu fewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig sydd wedi ei araenu â phlastigion a weithgynhyrchwyd ag unrhyw sylwedd a restrir yn Adran A neu B o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/72/EC (monomerau a awdurdodir, a sylweddau cychwyn eraill) ac-
(a)y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd; a
(b)y gellir trosglwyddo eu cyfansoddion i fwyd mewn meintiau sy'n fwy na'r terfynau ymfudo penodol a restrir yng ngholofn 4 o'r Adrannau hynny, fel y'u darllenir gyda'r rhagarweiniad cyffredinol i'r Atodiad hwnnw.
(4) Pan fo'r terfyn ymfudo penodedig ar gyfer sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn cael ei fynegi mewn miligramau fesul cilogram, yn achos caen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion-
(a)sydd yn gynhwysydd, neu'n debyg i gynhwysydd, neu y gellir ei lenwi i gynhwysedd o lai na 500 mililitr neu fwy na 10 litr; neu
(b)na ellir ei lenwi neu ei bod yn anymarferol i amcangyfrif y berthynas rhwng arwynebedd wyneb y caen a maint y bwyd sydd mewn cysylltiad ag ef,
mae'r terfyn ymfudo i gael ei rannu â'r ffactor trawsnewid o 6 er mwyn ei fynegi mewn miligramau o gyfansoddion a drosglwyddir fesul decimetr sgwâr o'r deunydd neu'r eitem sydd mewn cysylltiad â bwyd.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae'r gwiriad o gydymffurfiad â therfynau ymfudo i'w gynnal yn unol â darpariaethau Atodlenni 2 a 3 i Reoliadau 2009, fel y'u darllenir gyda rheoliad 13 o'r Rheoliadau hynny ac at ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at ddeunydd neu eitem blastig i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at gaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastig.
(6) Nid yw paragraff (5) yn gymwys mewn unrhyw amgylchiad y mae rheoliad 9 yn gymwys iddo.
12. Mewn unrhyw achos am dramgwydd o fynd yn groes i reoliad 10(3), (4), (6) neu (7), neu reoliad 11(1) neu (3) y mae profi'r canlynol yn amddiffyniad-
(a)digwyddodd y weithred sy'n ffurfio'r tramgwydd mewn cysylltiad â deunydd neu eitem a wnaed â chaen cellwlos atgynyrchiedig a gafodd ei weithgynhyrchu yn yr Undeb Ewropeaidd neu ei mewnforio iddo cyn 29 Ionawr 2006; a
(b)ni fyddai'r weithred sy'n ffurfio'r tramgwydd wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987(14) fel yr oeddynt yn union cyn i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005 ddod i rym(15).
13.-(1) Mae unrhyw berson-
(a)sydd yn mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 8, 10(3), (4), (6), (7) neu (8) neu 11(1) neu (3);
(b)sydd yn rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sy'n gweithredu i gyflawni Rheoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006, Rheoliad 450/2009 neu'r Rheoliadau hyn, neu'n methu heb esgus rhesymol â darparu unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw'n eu ceisio'n rhesymol; neu
(c)sydd yn darparu'n ymwybodol neu'n fyrbwyll wybodaeth sydd yn anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol, mewn cydymffurfiad honedig ag unrhyw ofyniad a grybwyllir yn is-baragraff (b),
yn euog o dramgwydd.
(2) Mae unrhyw berson sydd yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored-
(a)yn achos tramgwydd a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) neu (c) neu yn rheoliad 4, 5 neu 6-
(i)o'i gollfarnu drwy dditiad, i ddirwy, neu i garchariad am dymor o ddim mwy na dwy flynedd, neu'r ddau, neu
(ii)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na'r uchafswm statudol, neu i dymor yng ngharchar o ddim mwy na 6 mis, neu'r ddau; a
(b)yn achos tramgwydd a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) o'i gollfarnu'n ddiannod i dymor yng ngharchar o ddim mwy na 3 mis, neu i ddirwy o ddim mwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu'r ddau.
(3) Nid oes unrhyw beth ym mharagraff (1)(b) i'w ddehongli fel gofyniad ar unrhyw berson i ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os gallai ei hunan-argyhuddo drwy wneud hynny.
14.-(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ddosbarth weithredu a gorfodi-
(a)y darpariaethau yn Rheoliad 1935/2004 a bennir yn rheoliad 4;
(b)y darpariaethau yn Rheoliad 450/2009 a bennir yn rheoliad 6; ac
(c)ac eithrio mewn perthynas â'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3), y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd weithredu a gorfodi darpariaethau-
(a)Erthyglau 16(1) a 17(2) o Reoliad 1935/2004; a
(b)Erthygl 13 o Reoliad 450/2009.
(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi'r darpariaethau yn Rheoliad 2023/2006 a bennir yn rheoliad 5.
15.-(1) Pan brofir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol-
(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforaethol, neu
(b)unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,
bernir bod y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i achos cyfreithiol ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.
(2) Pan brofir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner, neu ei bod i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i achos cyfreithiol ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.
16. Pan fo unrhyw berson yn cyflawni tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred unrhyw berson arall, y person arall hwnnw sydd yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gyhuddo a'i gollfarnu o'r tramgwydd p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf ai peidio.
17. Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i dair blynedd fynd heibio ers cyflawni'r tramgwydd neu ar ôl i un flwyddyn fynd heibio ers i'r erlynydd ganfod y tramgwydd, p'un bynnag yw'r cynharaf.
18.-(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, mae'n amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), i'r person a gyhuddir (-y cyhuddedig-) brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi ymarfer pob diwydrwydd dyladwy er mwyn osgoi cyflawni'r tramgwydd ganddo neu gan berson a oedd dan ei reolaeth.
(2) Heb ragfarnu cyffredinolrwydd paragraff (1), cymerir bod person a gyhuddir o dramgwydd o dan reoliad 4, 6(a) i (dd) neu 13(1)(a) ac-
(a)na wnaeth baratoi'r deunydd neu eitem yr honnir i'r tramgwydd gael ei gyflawni mewn cysylltiad ag ef; ac na wnaeth ychwaith
(b)ei fewnforio i'r Deyrnas Unedig,
wedi sefydlu'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (1) os yw gofynion paragraffau (3) neu (4) wedi'u bodloni.
(3) Mae gofynion y paragraff hwn wedi'u bodloni os profir-
(a)bod y tramgwydd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred unrhyw berson arall nad oedd dan reolaeth y cyhuddedig, neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;
(b)naill ai-
(i)bod y cyhuddedig wedi cyflawni pob gwiriad, ar y deunydd neu eitem dan sylw, a oedd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu
(ii)ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i'r cyhuddedig ddibynnu ar wiriadau a wnaed gan y person a gyflenwodd y deunydd hwnnw neu'r eitem honno i'r cyhuddedig; ac
(c)nad oedd y cyhuddedig yn gwybod, ac nad oedd ganddo, ar adeg cyflawni'r tramgwydd, reswm dros amau y byddai'r weithred neu'r anwaith yn ffurfio tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Mae gofynion y paragraff hwn wedi'u bodloni os mai gwerthu yw'r tramgwydd ac os profir-
(a)bod y tramgwydd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred unrhyw berson arall nad oedd dan reolaeth y cyhuddedig, neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson o'r fath;
(b)nad oedd y gwerthiant oedd yn ffurfio'r tramgwydd yn werthiant o dan enw neu nôd y cyhuddedig; ac
(c)nad oedd y cyhuddedig yn gwybod ac na ellid yn rhesymol ddisgwyl iddo wybod ar adeg cyflawni'r tramgwydd y byddai'r weithred neu'r anwaith yn ffurfio tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
(5) Os digwydd mewn unrhyw achos bod yr amddiffyniad a ddarperir gan y rheoliad hwn yn golygu honni bod y tramgwydd wedi ei gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu oherwydd dibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y cyhuddedig yr hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, heb ganiatâd y llys, oni bai iddo-
(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a
(b)pan fo wedi ymddangos gerbron y llys eisoes mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn mis i'w ymddangosiad cyntaf,
fod wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi pa bynnag wybodaeth a oedd yn ei feddiant ar y pryd oedd yn enwi'r person arall hwnnw neu'n cynorthwyo i'w adnabod.
19.-(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig sydd wedi cael gafael ar sampl o dan adran 29 o'r Ddeddf, ac sydd o'r farn y dylid ei dadansoddi, rannu'r sampl yn dair rhan.
(2) Os yw'r sampl yn cynnwys cynwysyddion wedi'u selio, a phe bai eu hagor yn rhwystro dadansoddiad cywir ym marn y swyddog awdurdodedig, rhaid i'r swyddog awdurdodedig rannu'r sampl yn rhannau drwy roi'r cynwysyddion mewn tair cyfran, a rhaid i bob cyfran gael ei thrin fel pe bai'n rhan.
(3) Mae'r swyddog awdurdodedig-
(a)os bydd angen gwneud hynny, i osod pob rhan mewn cynhwysydd addas a'i selio;
(b)i farcio pob rhan neu bob cynhwysydd;
(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, i roi un rhan i'r perchennog, a'i hysbysu yn ysgrifenedig y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi;
(ch)i gyflwyno un rhan i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; a
(d)i gadw un rhan i'w gyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 20.
20.-(1) Pan fydd sampl wedi ei chadw o dan reoliad 19 ac-
(a)y bwriedir codi achos neu fod achos wedi cychwyn yn erbyn person am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn; a
(b)bod yr erlyniad yn bwriadu cyflwyno canlyniad y dadansoddiad a grybwyllir uchod fel tystiolaeth,
mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.
(2) O ran y swyddog awdurdodedig-
(a)caiff, o'i wirfodd ei hun; neu
(b)rhaid iddo-
(i)os bydd yr erlynydd yn gofyn iddo wneud hynny (os person ac eithrio'r swyddog awdurdodedig yw'r erlynydd),
(ii)os bydd y llys yn gorchymyn hynny, neu
(iii)(yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os bydd y diffynnydd yn gofyn iddo wneud hynny,
anfon y rhan o'r sampl y daliwyd gafael ynddi at Gemegydd y Llywodraeth i'w dadansoddi.
(3) Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi'r rhan a anfonwyd ato o dan baragraff (2) ac anfon at y swyddog awdurdodedig dystysgrif sy'n nodi canlyniadau'r dadansoddiad.
(4) Rhaid i unrhyw dystysgrif o ganlyniadau'r dadansoddiad sy'n cael ei throsglwyddo gan Gemegydd y Llywodraeth fod wedi ei llofnodi ganddo ef neu ar ei ran, ond caiff unrhyw berson sydd dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif gynnal y dadansoddiad.
(5) Rhaid i'r swyddog awdurdodedig roi copi o dystysgrif dadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth i'r erlynydd (os yw hwnnw'n berson heblaw'r swyddog awdurdodedig) ac i'r diffynnydd ar unwaith pan dderbynio hi.
(6) Os gwneir cais o dan baragraff (2)(b)(iii) caiff y swyddog awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig i'r diffynnydd yn gofyn iddo dalu ffi a bennir yn yr hysbysiad i dalu rhan neu'r cyfan o ffi Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni'r swyddogaethau o dan baragraff (3), ac os na fydd y diffynnydd yn cytuno i dalu'r ffi a bennir yn yr hysbysiad caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â'r cais.
(7) Yn y rheoliad hwn mae -diffynnydd- yn cynnwys darpar ddiffynnydd.
21.-(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad fod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn-
(a)adran 2 (ehangu ystyr -sale- etc.);
(b)adran 30(8) (sy'n ymdrin â thystiolaeth ddogfennol).
(2) Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae'r cyfeiriad yn y Ddeddf at is-adran (1) i'w ddehongli fel un sydd yn cynnwys cyfeiriad at Reoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006 neu Reoliad 450/2009 fel y bo'n briodol.
(3) Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf yn cael ei ddehongli fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at Reoliad 1935/2004, Rheoliad 2023/2006, neu Reoliad 450/2009, fel y bo'n briodol, at ac at y Rheoliadau hyn-
(a)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i'w fwyta gan bobl) gyda'r addasiadau y bernir bod y cyfeiriadau at -sold- a -sale- yn rhai sy'n cynnwys cyfeiriadau at -placed on the market- a -placing on the market- yn ôl eu trefn;
(b)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
22. Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(16), yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt) yn lle enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007 rhodder enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn.
23.-(1) Diwygir Rheoliadau 2009 yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) hepgorer y diffiniad o -the 2007 Regulations-.
(3) Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 13 (dull o brofi gallu deunyddiau neu eitemau plastig i drosglwyddo cyfansoddion, a dulliau dadansoddi), yn lle'r ymadrodd -regulation 9(2) of the 2007 Regulations- rhodder -regulation 9(2) of the Materials and Articles in Contact with Food (Wales) Regulations 2010-.
24.-(1) Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(17) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle'r diffiniad o -ingredient- rhodder y diffiniad a ganlyn-
--ingredient- means-
any substance, including any additive or food enzyme and any constituent of a compound ingredient, which is used in the preparation of a food and which is still present in the finished product, even if in altered form; or
any released active substance within the meaning of Article 3(f) of Commission Regulation (EC) No. 450/2009 on active and intelligent materials and articles intended to come into contact with food,
and a -compound ingredient- is composed of two or more such substances;-.
25. Dirymir Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007(18).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3252 (Cy. 287)) fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2009/481 (Cy. 49) ac O.S. 2009/3105 (Cy. 271) (-Rheoliadau 2007-) ac yn ailddeddfu, gyda diwygiadau penodol sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus, darpariaethau a gynhwyswyd yn y Rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglŷn â deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC (OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4) (-Rheoliad 1935/2004-).
2. Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer-
(a)gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2023/2006 ar arfer gweithgynhyrchu da ar gyfer deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75) (-Rheoliad 2023/2006-);
(b)gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2007/42/EC sydd yn ymwneud â deunyddiau ac eitemau sydd wedi eu gwneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig ac y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71) (-Cyfarwyddeb 2007/42-). Yr oedd y Gyfarwyddeb hon yn diddymu ac yn cydgrynhoi Cyfarwyddeb y Comisiwn 93/10/EEC (OJ Rhif L93, 17.4.1993. t.27) fel y cafodd ei diwygio ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC (OJ Rhif L27, 30.1.2004, t.48); ac
(c)gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 450/2009 ar ddeunyddiau ac eitemau gweithredol a deallus y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3) (-Rheoliad 450/2009-).
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod cyfeiriadau at offeryn UE penodedig neu at rannau penodedig ohono i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn, neu at rannau ohono, fel y caiff ei ddiwygio o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(3)).
4. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddeunyddiau neu eitemau y tu allan i gwmpas Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 3). Y deunyddiau sy'n cael eu nodi yn y Rheoliad hwnnw fel rhai sydd y tu allan i'w gwmpas yw deunyddiau ac eitemau sy'n cael eu cyflenwi fel hynafolion, gorchudd neu ddeunyddiau araenu sydd yn rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta gydag ef, ac offer sefydlog cyhoeddus neu breifat ar gyfer cyflenwi dŵr.
5. Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn drosedd i fynd yn groes i ofynion penodol yn Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 4), Rheoliad 2023/2006 (rheoliad 5) a Rheoliad 450/2009 (rheoliad 6). Rheoliad 1935/2004 yw'r prif Reoliad fframwaith ynglŷn â deunyddiau ac eitemau sydd mewn cysylltiad â bwyd.
6. Mae Rhan 2 yn darparu hefyd ar gyfer dynodi'r awdurdodau cymwys at y gwahanol ddibenion sydd wedi eu nodi yn Rheoliadau 1935/2004, 2023/2006 a 450/2009 (rheoliad 7).
7. Mae Rhan 3 yn cynnwys rheoliadau sydd yn ailddeddfu, heb ddiwygiadau, ddarpariaethau Rheoliadau 2007 o ran finyl clorid (rheoliadau 8 a 9).
8. Mae Rhan 4 yn cynnwys rheoliadau sydd yn ailddeddfu, heb ddiwygiadau, ddarpariaethau o Reoliadau 2007 sy'n ymwneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig (-RCF-) (rheoliadau 10, 11 a 12).
9. Yn neilltuol, mae rheoliad 10 o'r Rheoliadau hyn-
(a)yn rheoli pa sylweddau y ceir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu RCF, a all amrywio yn ôl a gaiff ei araenu â phlastigion ai peidio (paragraff (3));
(b)yn rheoleiddio pa sylweddau y ceir eu defnyddio i weithgynhyrchu araenau plastig ar gyfer RCF, ac o dan ba amodau (paragraff (4));
(c)yn creu rhanddirymiad amodol rhag paragraff (3) o ran sylweddau a ddefnyddir fel lliwyddion neu ludyddion wrth weithgynhyrchu RCF heb ei araenu â phlastig (paragraff (5));
(ch)yn creu troseddau o ran gwerthu, mewnforio neu ddefnydd busnes o RCF nad yw'n cydymffurfio (paragraffau (6) a (7)); a
(d)yn creu gofyniad amodol bod datganiad o gydymffurfedd deddfwriaethol gyda'r RCF pan gaiff ei marchnata cyn y cyfnod adwerthu (paragraff (8)).
10. Mae rheoliad 11 yn cymhwyso, i RCF sydd wedi ei araenu â phlastig, y rheolaethau presennol (sydd yn deillio o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC) ynglŷn ag ymfudo cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig i fwyd, yn neilltuol drwy-
(a)pennu terfynau ymfudo cyffredinol ar gyfer RCF sydd wedi ei araenu â phlastig (paragraffau (1) a (2));
(b)cymhwyso i RCF sydd wedi ei araenu â phlastig y terfynau ymfudo penodedig sy'n gymwys i sylweddau penodol a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig (paragraffau (3) a (4)); ac
(c)cymhwyso'r dulliau a'r gweithdrefnau a ragnodwyd ar gyfer gwirio cydymffurfedd â therfynau ymfudo (paragraffau (5) a (6)).
11. Mae rheoliad 12 yn cynnwys darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol sydd-
(a) yn darparu amddiffyniad mewn perthynas ag RCF a gafodd ei weithgynhyrchu yn y Gymuned Ewropeaidd, neu ei fewnforio iddi, cyn 29 Ionawr 2006; a
(b) yn cadw'r amddiffyniadau sydd ar gael o dan Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987 (O.S. 1987/1523) ar gyfer unrhyw RCF a gafodd ei weithgynhyrchu cyn 29 Ebrill 1994 ac sy'n dal mewn cylchrediad.
12. Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaethau gweinyddol a darpariaethau gorfodi cyffredinol sydd-
(a) yn pennu cosb am fynd yn groes i'r Rheoliadau hyn neu am beri rhwystr i rai sydd yn eu gorfodi (rheoliad 13);
(b) yn dynodi awdurdodau gorfodi ar gyfer amrywiol swyddogaethau o dan y Rheoliadau (rheoliad 14);
(c)yn darparu bod modd i unigolion sy'n gyfrifol am weithredoedd corff corfforaethol neu bartneriaeth Albanaidd gael eu herlyn ar y cyd am droseddau sydd wedi eu cyflawni gan y corff neu bartneriaeth hwnnw (rheoliad 15);
(ch)yn darparu ar gyfer erlyn person sydd yn peri i drosedd gael ei chyflawni gan berson arall, boed achos cyfreithiol yn cael ei ddwyn yn erbyn y troseddwr gwreiddiol ai peidio (rheoliad 16);
(d)yn pennu terfyn amser ar gyfer cychwyn erlyniad (regulation 17);
(dd)yn darparu ar gyfer amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy yn erbyn cyhuddiad o drosedd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 18);
(e)yn pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth anfon sampl i'w dadansoddi (rheoliad 19);
(f)yn darparu ar gyfer dadansoddiad o sampl gyfeiriol gan Labordy Cemegydd y Llywodraeth (rheoliad 20);
(ff)yn cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 21);
(g)yn gwneud newid canlyniadol i Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 (O.S. 1990/2463; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2007/3252 (Cy. 287)) (rheoliad 22);
(ng)yn gwneud newid canlyniadol i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/481 (Cy. 49)) (rheoliad 23);
(h)yn diwygio'r diffiniad o -ingredient- yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2009/3377 (Cy. 299)) (rheoliad 24); ac
(i)yn dirymu Rheoliadau 2007 (rheoliad 25).
13. Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.
1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o -food-) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), -Deddf 1999-. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.
Trosglwyddwyd swyddogaethau oedd gynt yn arferadwy gan -the Ministers- (sef, mewn perthynas â Chymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog dros Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwledig sydd â chyfrifoldeb yn eu tro dros iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru, ac, mewn perthynas â'r Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol), i'r graddau maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac a drosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).
1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006, p.51) ac fe'i diwygiwyd gan Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (2008 p.7).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468 mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu - Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).
1984 t.22.
OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18. Cafodd y Gyfarwyddeb hon ei chywiro gan gorigendwm (OJ Rhif L39, 13.2.2003, t.1), a chafodd ei diwygio gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2004/1/EC (OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45), 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8), 2005/79/EC (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.35), 2007/19/EC (a gyhoeddwyd mewn ffurf ddiwygiedig a chywiriedig yn OJ Rhif L97, 12.4.2007, t.50), 2008/39/EC (OJ Rhif L63, 7.3.2008, t.6) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 975/2009 (OJ Rhif L274, 20.10.2009, t.3).
OJ Rhif L172, 30.6.2007, t.71. Yr oedd y Gyfarwyddeb hon yn diddymu ac yn cydgrynhoi a hynny heb ddiwygio pellach Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/10/EEC fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC.
OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).
OJ Rhif L384, 29.12.2006, t.75, a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2008 (OJ Rhif L86, 28.3.2008, t.9).
OJ Rhif L135, 30.5.2009, t.3.
O.S. 2009/481 (Cy. 49).
OJ Rhif L213, 16.8.80, t.42.
OJ Rhif L167, 24.6.81, t.6.
O.S. 1987/1523.
O.S. 2005/1647 (Cy. 128). Cafodd y Rheoliadau hynny eu diwygio'n ddiweddarach gan O.S. 2005/3254 (Cy. 247) ac O.S. 2006/2982 (Cy. 273), ond ni wnaeth yr un o'r offerynnau hynny ddiwygiadau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth hon.
O.S. 1990/2463, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/3252 (Cy. 287); y mae yna offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol. Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan O.S. 1990/2463, i'r graddau maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 1996/1499. Diwygiwyd y diffiniad o -ingredient- yn flaenorol gan O.S. 2009/3377 (Cy. 299).
O.S. 2007/3252 (Cy. 287), a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/481 (Cy. 49) ac O.S. 2009/3105 (Cy. 271).