Gwnaed
20 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Gorffennaf 2010
Y n dod i rym
13 Awst 2010
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy gan adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2( 2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriad at yr offeryn UE yn y Rheoliadau hyn gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Deuant i rym ar 13 Awst 2010.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008(3) yn unol â pharagraff (2) o'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (Dehongli) yn y diffiniad o "samplau rheoli swyddogol"–
(i) hepgorer "neu" ar ddiwedd paragraff (b);
(ii) hepgorer yr atalnod llawn ar ddiwedd paragraff (c) a rhodder "; neu" yn ei le;
(iii) ar ôl paragraff (c) mewnosoder–
"(ch) pwynt 1(b)(iii) o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 584/2008 sy'n gweithredu Rheoliad 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn tyrcwn(4), fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.".
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
20 Gorffennaf 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Milheintiau a Sgilgyn-hyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/2716) (Cy. 245). Maent yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru godi ffioedd am gymryd samplau swyddogol, neu am oruchwylio'r broses o'u cymryd, ac am gynnal profion sy'n ofynnol o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 584/2008 (OJ Rhif L 162, 21.6.2008, t. 3).
Mae asesiad effaith rheoleiddiol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol wedi ei baratoi a gellir cael copïau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.