Wedi'u gwneud
14 Gorffennaf 2010
Y n dod i rym
15 Gorffennaf 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan–
adrannau 93, 94 a 95 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1);
adran 62 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008(2); ac
adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3). (Mae Gweinidogion Cymru wedi' u dynodi (4) at ddibenion y Ddeddf honno o ran mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli deunydd pacio a gwastraff deunydd pacio, o ran llygrynnau organig parhaus, sylweddau, paratoadau a chemegau peryglus, o ran mesurau sy'n ymwneud ag adnoddau dŵr, ac o ran mesurau sy'n ymwneud â rheoleiddio a rheoli defnyddio llaid carthion mewn amaethyddiaeth).
Yn unol ag adran 93(2) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r cyrff a'r personau hynny y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli cyrff neu bersonau y mae'r Rheoliadau hyn yn effeithio'n sylweddol arnynt; mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni, yn unol ag adran 93(3) o'r Ddeddf honno, o ran y materion a bennir yn adran 93(6) o'r Ddeddf honno; ac mae Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer hwn yn y modd y bennir ei fod yn orau i sicrhau nad yw'n arwain at gyfyngu, aflunio neu atal cystadleuaeth yn unol ag adran 93(7) o'r Ddeddf honno.
Yn unol ag adran 66 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu yn unol â'r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o'r Ddeddf honno wrth arfer y pwerau yn y Rheoliadau hyn.
Mae drafft o'r rheoliadau hyn wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 62 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 ac adran 93(10) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(5).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2010.
2. Diwygir Rheoliadau Llaid (Ei Ddefnyddio mewn Amaethyddiaeth 1989 (6) drwy fewnosod y canlynol ar ôl rheoliad 10–
11.–(1) The Environment Agency may impose a fixed monetary penalty, variable monetary penalty, restoration notice, compliance notice or stop notice, or accept an enforcement undertaking, in relation to an offence under regulation 9 for contravening a provision in the following Table of civil sanctions, as indicated in that Table, as if it were an offence under a provision specified in relation to that sanction in Schedule 5 to the Environmental Civil Sanctions (Wales) Order 2010.
Provision of these Regulations | Fixed monetary penalty | Variable monetary penalty | Restoration notice | Compliance notice | Stop notice | Enforcement undertaking |
---|---|---|---|---|---|---|
regulation 3 | No | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
regulation 4 | Yes | Yes | No | No | Yes | Yes |
regulation 5 | Yes | Yes | No | No | No | Yes |
regulation 6(1) | No | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 7(1) | No | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 7(2) | Yes | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 8(3)(a) | No | Yes | No | No | Yes | Yes |
regulation 8(3)(b) | No | Yes | Yes | No | Yes | Yes |
regulation 8(4) | No | Yes | Yes | No | Yes | Yes |
(2) The terms used in this regulation have the same meaning as in that Order.
(3) The provisions of that Order in relation to those sanctions apply as if they were provisions of these Regulations.
(4) This regulation applies only in Wales.".
3. Diwygir Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwaredu Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus Eraill) (Cymru a Lloegr) 2000(7) drwy fewnosod y canlynol ar ôl rheoliad 13A–
13B.–(1) The Environment Agency may impose a fixed monetary penalty, variable monetary penalty or compliance notice, or accept an enforcement undertaking, in relation to an offence specified in the following Table of civil sanctions, as indicated in that Table, as if it were an offence under a provision specified in relation to that sanction in Schedule 5 to the Environmental Civil Sanctions (Wales) Order 2010.
Offence under these Regulations | Fixed monetary penalty | Variable monetary penalty | Compliance notice | Enforcement undertaking |
---|---|---|---|---|
regulation 13(1) | Yes | Yes | Yes | Yes |
regulation 13(2)(a) | Yes | Yes | Yes | Yes |
regulation 13(2)(b) | Yes | Yes | No | Yes |
regulation 13(2)(c)(i) | Yes | Yes | No | Yes |
regulation 13(2)(c)(ii) | Yes | Yes | No | Yes |
regulation 13(2)(c)(iii) | Yes | Yes | No | Yes |
regulation 13(3) | Yes | Yes | No | Yes |
regulation 13(4)(a) | No | Yes | No | No |
regulation 13(4)(b) | No | Yes | No | No |
regulation 13(4)(c) | No | Yes | No | No |
"(2) The terms used in this regulation have the same meaning as in that Order.
(3) The provisions of that Order in relation to those sanctions apply as if they were provisions of these Regulations.
(4) This regulation applies only in Wales.".
4. Diwygir Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(8) drwy fewnosod y canlynol ar ôl rheoliad 65–
65A.–(1) Caiff Asiantaeth yr Amgylchedd osod cosb ariannol newidiol, hysbysiad adfer, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop, neu dderbyn ymgymeriad gorfodi, o ran tramgwydd o dan reoliad 68 neu o dan reoliad 65 am fethu â chydymffurfio â darpariaeth (ac eithrio rheoliad 68) yn y Tabl canlynol o sancsiynau sifil, fel y nodir yn y Tabl hwnnw, fel pe bai'n dramgwydd o dan ddarpariaeth a bennir mewn perthynas â'r sancsiwn hwnnw yn Atodlen 5 i Orchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010.
Offence under these Regulations | Variable monetary penalty | Restoration notice | Compliance notice | Stop notice | Enforcement undertaking |
---|---|---|---|---|---|
regulation 19 | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
regulation 20 | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
regulation 22 | Yes | No | No | No | Yes |
regulation 34 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 35 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 36 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 37 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 38 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 39 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 40 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 41 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 42 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 43 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 44 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 46 and Schedule 7 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 47 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 48 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 49 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 50 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 51 | Yes | No | Yes | No | Yes |
regulation 53 | Yes | No | No | No | Yes |
regulation 54 | Yes | No | No | No | Yes |
regulation 55 | Yes | No | No | No | No |
regulation 62 | Yes | Yes | Yes | Yes | No |
regulation 68 | Yes | No | No | No | No |
(2) Mae i'r termau a ddefnyddir yn y rheoliad hwn yr un ystyr ag yn y Gorchymyn hwnnw.
(3) Mae darpariaethau'r Gorchymyn hwnnw'n gymwys mewn perthynas â'r sancsiynau hynny fel pe baent yn ddarpariaethau yn y Rheoliadau hyn.".
5. Diwygir Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007(9) drwy fewnosod y canlynol ar ol rheoliad 40A–
40B.–(1) The Environment Agency may impose a fixed monetary penalty or variable monetary penalty, or accept an enforcement undertaking, in relation to an offence specified in the following Table of civil sanctions, as indicated in that Table, as if it were an offence under a provision specified in relation to that sanction in Schedule 5 to the Environmental Civil Sanctions (Wales) Order 2010.
Offence under these Regulations | Fixed monetary penalty | Variable monetary penalty | Enforcement undertaking |
---|---|---|---|
regulation 40(1)(a) | Yes | Yes | Yes |
regulation 40(1)(b) | No | Yes | Yes |
regulation 40(1)(c) | Yes | No | No |
regulation 40(3) | No | Yes | Yes |
regulation 40(7) | No | Yes | No |
regulation 40(8)(a) | No | Yes | Yes |
regulation 40(8)(b) | Yes | No | No |
(2) The terms used in this regulation have the same meaning as in that Order.
(3) The provisions of that Order in relation to those sanctions apply as if they were provisions of these Regulations.
(4) This regulation applies only in Wales.".
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynalidwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
14 Gorffennaf 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys yng Nghymru, yn diwygio–
Rheoliadau Llaid (Ei Ddefnyddio mewn Amaethyddiaeth) 1989 (O.S. 1989/1263)
Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwaredu Biffenylau Polyclorinedig a Sylweddau Peryglus Eraill) (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1043)
Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1806 (Cy.138))
Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) 2007 (O.S. 2007/871)
Mae'r diwygiadau'n caniatáu i Asiantaeth yr Amgylchedd osod sancsiynau sifil penodedig mewn perthynas â rhai thoriadau o'r Rheoliadau hynny. Y sancsiynau yw'r rhai a ganiateir o dan Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008.
Paratowyd asesiad effaith ar gyfer y Rheoliadau hyn. Mae copi ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1995 p.25. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 93 i 95 cyn belled ag sy'n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Erthygl 2 o O.S. 1999/672 ac Atodlen 1 iddo. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 26 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny wedi'u breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru. Diwygiwyd adran 94 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 gan O.S. 2000/311, erthyglau 28(1) a (2) ac O.S. 2004/1261, rheoliad 5 ac Atodlen 2, paragraffau 7(1) a (2). Back [1]
2008 p.13. Back [2]
1972 p.68. Back [3]
Dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r materion hyn gan O.S. 2005/850, O.S. 2007/1349 ac O.S 2000/2812. Yn rhinwedd adran 162 a pharagraff 28(1) a 30 o atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae'r pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd y dynodiadau hyn wedi'u breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru. Back [4]
1995 Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 34 o Atodlen 11 iddi, mae adran 93(10) yn gymwys i'r modd y mae Gweinidogion Cymru yn arfer y swyddogaeth o wneud is-ddeddfwriaeth, fel petai'r cyfeiriad yn y ddarpariaeth honno at Ddau Dŵ'r Senedd yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Back [5]
O.S. 1989/1263; offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1990/880, O.S. 1996/593, O.S. 2000/656, ac O.S. 2010/1159. Back [6]
O.S. 2000/1043, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/3359, ac O.S. 2010/1159. Ceir offerynnau diwygio eraill ond nid oes un yn berthnasol. Back [7]
O.S. 2005/1806 (Cy.138); offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2007/3538, ac O.S. 2009/2861 (Cy.250). Back [8]
O.S. 2007/871, a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1159; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid oes un yn berthnasol. Back [9]