Gwnaed
13 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Gorffennaf 2010
Y n dod i rym
9 Awst 2010
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliadau y maent yn eu diwygio, Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a GrantiauAmaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 ("y prif Reoliadau"), yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae cyfeiriadau at offerynnau'r UE yn yr Atodlen i'r prif Reoliadau. Mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad yn y prif Reoliadau at offerynnau'r UE gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, a deuant i rym ar 9 Awst 2010.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006(3) yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1) ac yn yr Atodlen disodler cyfeiriadau at "y ddeddfwriaeth Gymunedol" gyda chyfeiriadau at "deddfwriaeth yr UE".
(3) Yn rheoliad 2(2) yn lle'r cyfeiriad at "offeryn Cymunedol" rhodder cyfeiriad at "offeryn UE".
(4) Yn yr Atodlen ar ôl paragraff (12) ychwaneger–
"13. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1857/2006 dyddiedig 15 Rhagfyr 2006 ar gymhwysiad Erthyglau 87 ac 88 o'r Cytuniad at gymorth Gwladwriaethol i fentrau bychain a chanolig eu maint sy'n weithgar yn cynhyrchu cynnyrch amaethyddol ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 70/2001(4).
14. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 dyddiedig 19 Ionawr 2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr(5).
15. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1120/2009 dyddiedig 29 Hydref 2009 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cynllun y taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Nheitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr(6).
16. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1121/2009 dyddiedig 29 Hydref 2009 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 parthed y cynlluniau cymorth i ffermwyr y darperir ar eu cyfer yn Nheitlau IV a V o'r Rheoliad hwnnw(7).
17. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1122/2009 dyddiedig 30 Tachwedd 2009 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 parthed traws-gydymffurfio, modiwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli, o dan y cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr a ddarperir ar gyfer y Rheoliad hwnnw, yn ogystal ag ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 parthed traws-gydymffurfio o dan y cynllun cymorth a ddarperir ar gyfer y sector win(8).".
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006, O.S. 2006/3342 (Cy. 303). Mae'r diwygiadau yn disodli'r cyfeiriadau at "y ddeddfwriaeth Gymunedol" gyda chyfeiriadau at "deddfwriaeth yr UE"(deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd), ac yn diweddaru'r rhestr o'r cyfryw ddeddfwriaeth yn O.S. 2006/3342 (Cy. 303) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/2900 (Cy. 251).
Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol gan mai ymwneud â'r trefniadau presennol ar gyfer apelau y mae'r diwygiadau a gwmpesir gan y Rheoliadau hyn.
O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]
1972 p.68. Back [2]
O.S. 2006/3342 (Cy.303) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/2900 (Cy. 251). Back [3]
O.J. Rhif L 358, 16.12.2006, t.3. Back [4]
O.J. Rhif L 30, 31.1.2009, t.16. Back [5]
O.J. Rhif L 316, 2.12.2009, t.1. Back [6]
O.J. Rhif L 316, 2.12.2009, t. 27. Back [7]
O.J. Rhif L 316, 2.12.2009, t. 65. Back [8]