Gwnaed
30 Mehefin 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Gorffennaf 2010
Yn dod i rym
25 Gorffennaf 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 13, 56(1), 60 a 61(5) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cyfnod Rhagnodedig a Swyddog Priodol) (Cymru) (Dirymu) 2010 a deuant i rym ar 25 Gorffennaf 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Dirymir Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cyfnod Rhagnodedig a Swyddog Priodol) (Cymru) 2010(2).
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
30 Mehefin 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 ("Deddf 2006") yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol i gynllun fetio a gwahardd newydd ar gyfer y bobl sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion hyglwyf. Mae adran 13 o Ddeddf 2006 yn gwneud yn ofynnol bod gwiriad yn cael ei gynnal ar unrhyw berson a benodir i gorff llywodraethu sefydliad addysgol. Mae Rheoliadau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (Cyfnod Rhagnodedig a Swyddog Priodol) (Cymru) 2010 ("rheoliadau 2010") yn rhagnodi, at ddibenion adran 13, y cyfnod y bydd yn rhaid cyflawni'r gwiriad ynddo, a'r swyddog priodol a fydd yn gyfrifol am gyflawni'r gwiriad.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn cynnal adolygiad o'r cynllun fetio a gwahardd. O ganlyniad i'r adolygiad hwnnw, ni fydd adran 13 o Ddeddf 2006 yn cael ei chychwyn yn llawn ar 26 Gorffennaf 2010. O ganlyniad, mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu rheoliadau 2010 cyn iddynt ddod i rym ar 26 Gorffennaf 2010.