Gwnaed
17 Mai 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Mai 2010
Yn dod i rym
1 Medi 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 122(1) ac adran 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) a pharagraff 6B(1)(a) o Atodlen 26 iddi, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 77(2) a (9), adran 150 ac adran 152 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(2), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 28(1), adran 50(4) ac (8) ac adran 120(2) o Ddeddf Addysg 2005(3) a pharagraff 2(1) o Atodlen 6 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â'r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Medi 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999(4) fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 4, rhodder–
"4–(1) The Chief Inspector must secure that relevant nursery education is inspected under paragraph 6B(1)(a) of Schedule 26 to the Act–
(a) where there has been no previous inspection under that paragraph, within six years of the date on which relevant nursery education was first provided at the premises concerned, and
(b) in all other cases within six years of the date on which the last inspection was completed.
(2) For the purposes of this regulation the date on which the last inspection was completed is the date of the report of the last inspection under paragraph 6B of Schedule 26 to the Act.".
3.–(1) Diwygir Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001(5) fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2, rhodder–
"2–(1) Rhaid cynnal arolygiadau–
(a) os nad oes arolygiad blaenorol wedi ei gynnal, o fewn chwe blynedd i ddyddiad sefydlu'r sefydliad sy'n darparu addysg a hyfforddiant ac sydd i'w arolygu, a
(b) ym mhob achos arall, o fewn chwe blynedd i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.
(2) At ddiben y rheoliad hwn dyddiad yr adroddiad arolygu diwethaf yw'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.".
4.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006(6) fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 6, rhodder–
"6–(1) Rhaid i'r Prif Arolygydd sicrhau bod pob ysgol y mae adran 28 o Ddeddf 2005 yn gymwys iddi yn cael ei harolygu–
(a) yn achos ysgol nad yw wedi ei harolygu'n flaenorol, o fewn chwe blynedd i'r dyddiad y derbyniwyd disgyblion gyntaf i'r ysgol, a
(b) ym mhob achos arall, o fewn chwe blynedd i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.
(2) At ddiben y rheoliad hwn dyddiad yr arolygiad diwethaf o dan adran 28 o Ddeddf 2005 yw'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.".
5.–(1) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006(7) fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 3, rhodder–
"3–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys yn achos darparydd gwasanaeth neu ddarparydd perthnasol na chafodd ei arolygu o'r blaen o dan adrannau 55 neu 56 o Ddeddf 2005.
(2) Rhaid i'r Prif Arolygydd arolygu'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol o dan adrannau 55 neu 56 o Ddeddf 2005 (yn ôl y digwydd), o fewn chwe blynedd i'r dyddiad pryd y daeth y darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol yn ddarparydd o'r fath am y tro cyntaf.".
(3) Yn lle rheoliad 4, rhodder–
"4–(1) Ac eithrio pan fo rheoliad 3 yn gymwys, rhaid i'r Prif Arolygydd arolygu pob darparydd gwasanaeth o dan adran 55 o Ddeddf 2005 a phob darparydd perthnasol o dan adran 56 o Ddeddf 2005 o fewn chwe blynedd i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn dyddiad yr adroddiad o'r arolygiad diwethaf yw'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.".
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru
17 Mai 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio–
(a) Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999,
(b) Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,
(c) Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006, ac
(ch) Rheoliadau'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006,
er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty´s Chief Inspector of Education and Training in Wales sicrhau bod arolygiadau'n cael eu cynnal o fewn chwe blynedd i ddyddiad yr arolygiad diwethaf.
1998 p.31.Diwygiwyd adran 122(1) gan baragraff 33(1) a (3) o Atodlen 2 i Ddeddf Gofal Plant 2006 (p.21), ac yn lle paragraff 6, fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, o Atodlen 26 rhoddwyd paragraff 6B gan baragraffau 8 a 12 o Ran II o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18). Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 138 ac Atodlen 26 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]
2000 p.21. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]
2005 p.18. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [3]
O.S. 1999/1441 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1743 (Cy.182)), a chan Ddeddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2913 (Cy.210)). Back [4]
O.S. 2001/2501 (Cy.204) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/783 (Cy.80)), a Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238 (Cy.243)). Back [5]
O.S. 2006/1714 (Cy.176). Back [6]
O.S. 2006/3103 (Cy.286). Back [7]