Gwnaed
1 Mai 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Mai 2010
Yn dod i rym
26 Mai 2010
Dynodir Gweinidogion Cymru(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas ag ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu ar gyfer ei ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adrannau 67, 77(3) a (4) a 213(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(4).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 26 Mai 2010.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010(5) fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 4, mewnosoder-
4A. Rhaid i unrhyw gynnyrch neu sylwedd a ddefnyddir mewn cyflenwad preifat wedi 26 Mai 2010 fod yn gynnyrch neu sylwedd y caniateid ei ddefnyddio mewn cyflenwad dŵr o dan reoliad 31 o Reoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010(6).".
(3) Yn lle rheoliad 5(1) rhodder–
"Pan fo diheintio yn rhan o baratoi neu ddosbarthu dŵr, rhaid i'r person perthnasol (fel y'i diffinnir yn adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991)–
cynllunio, gweithredu a chynnal y broses ddiheintio er mwyn cadw presenoldeb sgil-gynhyrchion diheintio mor isel ag y bo modd heb beryglu effeithiolrwydd y diheintio;
sicrhau y cynhelir effeithiolrwydd y broses ddiheintio,
cadw cofnodion o'r gwaith cynnal a monitro a gyflawnwyd, er mwyn gwirio effeithiolrwydd y broses ddiheintio, ac
cadw copïau o'r cofnodion hynny ar gael i'w harchwilio gan yr awdurdod lleol, am gyfnod o bum mlynedd.".
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
1 Mai 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl (OJ Rhif L330, 5.12.1998, t.32), mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat.
Maent yn diwygio Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010 drwy fewnosod rheoliad 4A sy'n rheoleiddio'r defnydd o gynhyrchion a sylweddau mewn cyflenwadau dŵr preifat. Rheoliad 31 o Reoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010 sy'n pennu pa gynhyrchion a sylweddau y caniateir eu defnyddio.
Maent hefyd yn diwygio Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010, drwy amnewid rheoliad 5(1). Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol, yn ei hanfod, pan fo diheintio yn cael ei wneud, ei fod yn cael ei wneud mewn modd sy'n cadw lefel y sylweddau a ffurfir ar ôl ychwanegu'r diheintydd (y cyfeirir atynt fel "sgil-gynhyrchion diheintio") mor isel ag y bo modd, heb beryglu ar effeithiolrwydd y diheintio.
Mae'r rheoliad 5(1) a amnewidiwyd yn dileu'r term "halogi" ac yn gwneud mân newidiadau eraill, gan gynnwys cyfuno'r darpariaethau a wnaed yn flaenorol yn rheoliad 5(1)(a) a (b).
Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o'r Rheoliadau hyn mewn drafft, yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC.
Paratowyd asesiad effaith llawn ar gyfer Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010 a gellir cael copïau ohono gan yr Is-adran Newid yn yr Hinsawdd a Dŵr, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Nid oes asesiad effaith ar wahân wedi ei baratoi.
O.S 2004/3328, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/850, O.S. 2007/1349 ac O.S. 2008/301. Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy gyfrwng y Gorchymyn hwnnw bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno. Back [1]
1972 p.68. Back [2]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Back [3]
1991 p.56. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 67 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("Y Cynulliad") – (a) ar gyfer gwneud rheoliadau ynghylch dŵr a gyflenwir drwy ddefnyddio system gyflenwi ymgymerwr dŵr, mewn perthynas â system gyflenwi unrhyw ymgymerwr dŵr sydd â'i ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru a (b) ar gyfer gwneud rheoliadau ynghylch dŵr a gyflenwir ac eithrio drwy ddefnyddio system gyflenwi ymgymerwr dŵr, mewn perthynas â Chymru, gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ("y Gorchymyn") ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 77 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 i'r Cynulliad o ran Cymru, gan yr un darpariaethau o'r Gorchymyn; yr oedd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 213 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn arferadwy gan y Cynulliad i'r un graddau ag y gwnaed y pwerau y mae'r adran honno'n gymwys iddynt yn arferadwy gan y Cynulliad, yn rhinwedd yr un ddarpariaeth o'r Gorchymyn; gweler y cofnod ar gyfer Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn fel y'i hamnewidiwyd gan baragraff (e) o Atodlen 3 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) ac y'i diwygiwyd gan adran 100(2) o Ddeddf Dŵr 2003 (p.37); y mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol. Diwygiwyd adran 213 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 gan adrannau 58 a 101(1) o Ddeddf Dŵr 2003 a pharagraff 39 o Atodlen 7 iddi a pharagraffau 2, 19 a 49 o Atodlen 8 iddi. Mae adran 100(6) o Ddeddf Dŵr 2003 yn trin y cyfeiriadau at adrannau penodol o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn fel pe baent yn gyfeiriadau at yr adrannau hynny fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003. Am ddiffiniad o "system gyflenwi" gweler y diffiniad o "supply system" yn adran 219(4A) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, fel y'i mewnosodwyd gan adran 101(1) o Ddeddf Dŵr 2003 a pharagraffau 2 a 50 o Atodlen 8 iddi. Am ddiffiniad o "cyflenwr dŵr trwyddedig" gweler y diffiniad o "licensed water supplier" yn adran 219(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 fel y'i diwygiwyd gan adran 101(1) o Ddeddf Dŵr 2003. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i'r Cynulliad bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [4]
O.S. 2010/66 (Cy.16) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/147 (Cy.22). Back [5]
O.S. 2010/994 (Cy.99). Back [6]