Gwnaed
27 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 116(4)(b) a (7) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plismona a Throsedd 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2010 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "Deddf 2009" ("the 2009 Act") yw Deddf Plismona a Throsedd 2009,
ystyr "Deddf 2003" ("the 2003 Act") yw Deddf Trwyddedu 2003(2),
ystyr "Deddf 1982" ("the 1982 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982(3).
2. 1 Mai 2010 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf 2009 at ddibenion gwneud gorchmynion o dan baragraff 3 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno:
(a) adran 27(11) (darpariaeth ar gyfer Atodlen 3 i Ddeddf 2009 i gael effaith);
(b) paragraffau 3 a 5 o Atodlen 3 (pŵer i wneud darpariaeth drosiannol wrth fabwysiadu Atodlen 3 i Ddeddf 1982 fel y'i diwygiwyd).
3. 8 Mai 2010 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf 2009:
(a) adran 27 (rheoli lleoliadau dawnsio glin ac adloniant rhywiol arall etc) i'r graddau nad ydyw eisoes mewn grym;
(b) Atodlen 3 (lleoliadau dawnsio glin ac adloniant rhywiol arall etc: darpariaeth drosiannol) i'r graddau nad ydyw eisoes mewn grym;
(c) paragraff 23 o Atodlen 7 (diwygio Deddf 2003).
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
27 Ebrill 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed o dan Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 gan Weinidogion Cymru. Mae'n gymwys o ran Cymru.
Mae erthygl 2 yn rhestru darpariaethau'r Ddeddf sy'n dod i rym ar 1 Mai 2010 at ddibenion gwneud gorchmynion ynglŷn â lleoliadau dawnsio glin ac adloniant rhywiol arall. Mae erthygl 3 yn dwyn gweddill darpariaethau Deddf 2009 ynglŷn â lleoliadau adloniant rhywiol i rym ar 8 Mai 2010.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi'u dwyn i rym, neu i'w dwyn i rym, drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 1 | 15 Mawrth 2010 | 2010/125 |
Adran 2 | 1 Medi 2010 | 2010/999 |
Adran 3 | 19 Ebrill 2010 | 2010/999 |
Adran 4 | 19 Ebrill 2010 | 2010/999 |
Adran 5 | 12 Mawrth 2010 | 2010/507 |
Adran 6 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 7 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 8 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 9 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 10 | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 11 | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 12 | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 13 | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 14 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 15 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 16 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 17 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 18 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 19 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 20 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 21 (o ran Cymru a Lloegr) | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 22 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 23 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 24 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 25 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 26 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 27 (yn rhannol o ran Lloegr ) | 2 Mawrth 2010 | 2010/507 |
Adran 27 (yn rhannol o ran Lloegr ) | 6 Ebrill 2010 | 2010/722 |
Adran 28 | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 29 | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 30 | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 31 | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 32 | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 33 | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 51 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 61 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 62 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 64 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 67 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 68 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 69 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 70 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 71 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 72 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 73 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 74 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 75 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 76 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 77 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 78 | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 79 (o ran Cymru, Lloegr a'r Alban) | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 79 (o ran Gogledd Iwerddon) | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 80 (o ran Cymru, Lloegr a'r Alban) | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 80 (o ran Gogledd Iwerddon) | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 83 | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 84 (yn rhannol) | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 88 | 30 Tachwedd 2009 | 2009/3096 |
Adran 91 | 30 Tachwedd 2009 | 2009/3096 |
Adran 97 | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 98 | 25 Ionawr 2010 | 2010/52 |
Adran 99 | 25 Ionawr 2010 | 2010/52 |
Adran 101 | 25 Ionawr 2010 | 2010/52 |
Adran 103 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 104 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 105 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 106 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 107 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 108 2 (yn rhannol) | Mawrth 2010 | 2010/507 |
Adran 108 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 110 | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 112 (yn rhannol) | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Adran 112 (yn rhannol) | 25 Ionawr 2010 | 2010/52 |
Adran 112 (yn rhannol) | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Adran 112 (yn rhannol) | 12 Mawrth 2010 | 2010/507 |
Adran 112 (yn rhannol o ran Lloegr) | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Adran 112 (yn rhannol) | 19 Ebrill 2010 | 2010/999 |
Adran 112 (yn rhannol o ran Cymru) | 8 Mai 2010 | 2010/999 |
Atodlen 1 | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Atodlen 2 (o ran Cymru a Lloegr) | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Atodlen 3 (yn rhannol o ran Lloegr ) | 2 Mawrth 2010 | 2010/507 |
Atodlen 3 (yn rhannol o ran Lloegr ) | 6 Ebrill 2010 | 2010/722 |
Atodlen 4 | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Atodlen 6 (o ran Cymru, Lloegr a'r Alban) | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Atodlen 6 (o ran Gogledd Iwerddon) | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 12 Mawrth 2010 | 2010/507 |
Atodlen 7 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Atodlen 7 (yn rhannol o ran Lloegr) | 6 Ebrill 2010 | 2010/722 |
Atodlen 8 (yn rhannol) | 25 Ionawr 2010 | 2009/3096 |
Atodlen 8 (yn rhannol) | 25 Ionawr 2010 | 2010/52 |
Atodlen 8 (yn rhannol) | 29 Ionawr 2010 | 2010/125 |
Atodlen 8 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2010 | 2010/507 |
Atodlen 8 (yn rhannol) | 19 Ebrill 2010 | 2010/999 |
2009 p. 26. Back [1]
2003 p. 17. Back [2]
1982 p. 30. Diwygiwyd Atodlen 3 i'r Ddeddf honno gan adran 52 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p. 48) a pharagraff 7 o Atodlen 14 iddi, adran 198 o Ddeddf Trwyddedu 2003 a pharagraffau 82 ac 85 o Atodlen 5 iddi, adran 24 o Ddeddf Sinemâu 1985 (p. 13) a pharagraff 16 o Atodlen 2 iddi, adran 26(1) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (p. 60), adrannau 111 a 174 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p. 15) a pharagraff 22 o Atodlen 7 iddi, O.S. 1984/447, O.S. 2005/886 ac O.S. 2009/2999, ac o ran bwrdeistrefi penodol yn Llundain, gan adran 12 o Ddeddf Cyngor Llundain Fwyaf (Pwerau Cyffredinol) 1986 (p. iv), adran 33 o Ddeddf Awdurdodau Lleol Llundain 2007 (p. ii) ac O.S. 2005/1541. Caiff ei diwygio hefyd gan adran 27 o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26) o 6 Ebrill 2010 ymlaen o ran Lloegr ac o 8 Mai 2010 ymlaen o ran Cymru. Back [3]