If you found BAILII useful today, would you consider making a contribution?
Your donation will help us maintain and extend our databases of legal information. No contribution is too small. If every visitor this month donates, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
Gwnaed
25 Ebrill 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Ebrill 2010
Yn dod i rym
20 Mai 2010
Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 16(1)(a) ac 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1) ("y Ddeddf") ac sy'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru(2).
Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi drafft a chrynodeb o'r Gorchymyn hwn yn unol ag adran 51(3)(3) (4) o'r Ddeddf a Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007(5).
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Gŵyr Abertawe (Corffori) 2010 a daw i rym ar 20 Mai 2010.
2. Ar 20 Mai 2010 sefydlir corff corfforaethol o'r enw Coleg Gŵyr Abertawe, at ddibenion sefydlu a rhedeg, o'r dyddiad gweithredu ymlaen, sefydliad addysgol newydd o'r un enw.
3. Y dyddiad gweithredu a bennwyd mewn perthynas â Coleg Gŵyr Abertawe yw 20 Awst 2010, a bydd y gorfforaeth yn rhedeg y sefydliad addysgol Coleg Gŵyr Abertawe o'r dyddiad hwnnw ymlaen.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
25 Ebrill 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu corfforaeth addysg bellach a elwir "Coleg Gŵyr Abertawe" o dan adran 16(1)(a) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ("y Ddeddf") at y diben o redeg y sefydliad addysgol sydd â'r un enw. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer pennu 20 Awst 2010 yn ddyddiad gweithredu at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf, sef y dyddiad y bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn ymgymryd â rhedeg, o hynny ymlaen, y sefydliad addysgol o'r un enw.
Mae drafft a chrynodeb o'r Gorchymyn hwn wedi eu cyhoeddi yn unol ag adran 51(3) o'r Ddeddf a Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007.
1992 p.13; diwygiwyd adran 16 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 gan adran 140(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac Atodlen 31 i'r Ddeddf honno; gan adran 111(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21); a gan adran 14 o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddi 2007 (p.25) ond adeg gwneud y Gorchymyn hwn nid oedd y ddarpariaeth honno wedi ei chychwyn. Diwygiwyd adran 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 gan adran 44(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30) a pharagraff 7 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno; a gan adran 14 o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddi 2007 ond adeg gwneud y Gorchymyn hwn nid oedd y ddarpariaeth honno wedi ei chychwyn. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 16(1)(a) ac 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
Diwygiwyd adran 51(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 gan erthygl 9(1) o Orchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S.2005/3238 (Cy. 243)) a pharagraffau 13 a 21 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw; gan adran 111(2)(a) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000; a gan adran 16(1) a (3) o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddi 2007 ond adeg gwneud y Gorchymyn hwn nid oedd y ddarpariaeth honno wedi ei chychwyn. Back [3]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 51(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [4]
O.S. 2007/854 (Cy. 78). Back [5]