Gwnaed
24 Ebrill 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Ebrill 2010
Yn dod i rym
16 Mehefin 2010
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r Bwrdd Ystadegau yn unol ag adran 3(1A) o Ddeddf y Cyfrifiad 1920, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 3(1) o'r Ddeddf honno(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cyfrifiad (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru a deuant i rym ar 16 Mehefin 2010.
2. Mae Rheoliadau'r Cyfrifiad 2000(2) a Rheoliadau'r Cyfrifiad (Diwygio) 2000(3) wedi'u diddymu.
3.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "amlen ffurflen unigol" ("individual return envelope") yw amlen y caniateir selio holiadur I2 neu I2W ynddi ar ôl ei llenwi;
ystyr "amlen wedi'i thalu ymlaen llaw" ("reply-paid envelope") yw amlen sydd wedi'i chyfeirio ymlaen llaw ac nad oes angen i'r anfonwr dalu i'w hanfon;
ystyr "ardal cydgysylltydd" ("co-ordinator area") yw ardal a grëir o dan reoliad 4(1)(b);
ystyr "yr Awdurdod" ("the Authority") yw'r Bwrdd Ystadegau a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf 2007;
ystyr "cydgysylltydd cyfrifiad" ("census co-ordinator") yw person a benodir o dan reoliad 4(1)(b);
ystyr "y cyfrifiad" ("the census") yw'r cyfrifiad y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn cyfarwyddo ei gynnal;
ystyr "Deddf 1920" ("the 1920 Act") yw Deddf y Cyfrifiad 1920;
ystyr "Deddf 2007" ("the 2007 Act") yw Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007(4);
ystyr "dosbarth cyfrifo" ("enumeration district") yw dosbarth a grëir o dan reoliad 4(1)(c);
ystyr "etholwr" ("elector") yw person sy'n ethol llenwi ffurflen unigol yn unol â rheoliad 5(4);
ystyr "y gofrestr cyfeiriadau" ("the address register") yw'r gofrestr, a baratoir gan yr Awdurdod, sy'n cynnwys cyfeiriad pob aelwyd a phob sefydliad cymunedol yng Nghymru y mae'n ymwybodol ohonynt;
ystyr "Gorchymyn y Cyfrifiad" ("the Census Order") yw Gorchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 2009(5);
mae i "gwybodaeth bersonol" yr ystyr a roddir i "personal information" gan adran 39(2) o Ddeddf 2007;
ystyr "nodau adnabod holiadur" ("questionnaire identification marks") yw cod bar sy'n unigryw i bob holiadur penodol a rhif cyfeirnod cyfatebol y mae'r cod bar yn ei gynrychioli;
ystyr "pecyn aelwyd" ("household pack") yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(5);
ystyr "pecyn sefydliad cymunedol" ("communal establishment pack") yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(6);
ystyr "pecyn unigol rheolaidd" ("regular individual pack") yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(3);
ystyr "pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw" ("reply-paid individual pack") yw pecyn sy'n cynnwys yr eitemau a bennir yn rheoliad 6(4);
ystyr "penodai" ("appointee") yw unrhyw berson a benodir o dan reoliad 4 neu a benodir cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym at ddibenion cynnal y cyfrifiad;
ystyr "person rhagnodedig" ("prescribed person") yw person y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lenwi ffurflen neu unrhyw berson sy'n llenwi ffurflen ar ran person o'r fath yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad;
ystyr "sefydliad cymunedol" ("communal establishment") yw unrhyw sefydliad a bennir yng Ngrwpiau B i F yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad;
ystyr "swyddog cyfrifiad" ("census officer") yw swyddog a benodir o dan reoliad 4(1)(c); ac
ystyr "y system olrhain holiaduron" ("the questionnaire tracking system") yw unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod o dan reoliad 5(7).
(2) Mae i dermau y mae eu ffurfiau Saesneg wedi'u diffinio yng Ngorchymyn y Cyfrifiad yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn.
(3) Yn fersiwn Cymraeg y Rheoliadau hyn–
(a) y gair Cymraeg sy'n cyfateb i "household" yw "aelwyd"; a
(b) y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i "householder" yw "deiliad aelwyd".
(4) Yn fersiynau Cymraeg yr holiaduron–
(a) y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i "household" yw "cartref" ac "aelodau o'r cartref" (yn ôl fel y digwydd); a
(b) y geiriau Cymraeg sy'n cyfateb i "householder" yw "deiliad cartref".
(5) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at hysbysiad, holiadur neu wybodaeth arall yn dod i law'r Awdurdod yn cyfeirio at yr hysbysiad, yr holiadur neu'r wybodaeth yn dod i law swyddog cyfrifiad yn bersonol, neu'n dod i law'r Awdurdod neu unrhyw benodai drwy'r post neu'n electronig.
(6) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at holiadur lle y mae'n cael ei ddilyn yn union gan lythyren adnabod yn gyfeiriad at yr holiadur sy'n cael ei adnabod â'r llythyren honno ac y cyfeirir ato yn y tabl yn Atodlen 1 ac sydd wedi'i nodi yn unrhyw rai o Atodlenni 2 i 4 neu holiadur i'r un perwyl.
(7) Ni fydd person rhagnodedig yn torri'r Rheoliadau hyn dim ond am ei fod wedi dychwelyd fersiwn Saesneg holiadur gan ddarparu rhywfaint o'r wybodaeth y mae'r holiadur yn hwnnw'n gofyn amdani a fersiwn Cymraeg yr holiadur hwnnw gan ddarparu gweddill yr wybodaeth honno.
4.–(1) At ddibenion y cyfrifiad, rhaid i'r Awdurdod–
(a) rhannu Cymru'n ardaloedd cyfrifiad a phenodi rheolwr ardal i bob ardal gyfrifiad;
(b) rhannu pob ardal gyfrifiad yn ardaloedd cydgysylltwyr a phenodi cydgysylltydd cyfrifiad i bob ardal cydgysylltydd; ac
(c) rhannu pob ardal cydgysylltydd yn ddosbarthau cyfrifo a phenodi cynifer o swyddogion cyfrifiad y mae'n credu bod eu hangen er mwyn cynnal y cyfrifiad yn y dosbarthau hynny, yn unol â Deddf 1920 a'r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff yr Awdurdod hefyd benodi cynifer o bersonau eraill y mae'n credu bod eu hangen i gynnal y cyfrifiad.
(3) Rhaid i'r personau a benodir o dan y rheoliad hwn gyflawni'r dyletswyddau a ddyrennir iddynt o dan Ddeddf 1920 a'r Rheoliadau hyn a rhaid iddynt gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir yn unol â'r Rheoliadau hyn.
5.–(1) Dim ond pan fydd holiadur sydd wedi'i lenwi yn dod i law'r Awdurdod y bydd dyletswydd person rhagnodedig i lenwi ffurflen, sydd wedi'i nodi yng Ngorchymyn y Cyfrifiad, wedi'i chyflawni.
(2) Yr holiadur sydd i'w lenwi gan berson rhagnodedig a grybwyllir yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 1 yw'r holiadur ac iddo'r teitl a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) (fersiwn Saesneg) neu golofn (3) (fersiwn Cymraeg) o'r tabl hwnnw ac sydd wedi'i nodi o dan y teitl hwnnw yn Atodlenni 2 i 4.
(3) Rhaid i bob person rhagnodedig gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a gynhwysir yn yr holiadur sydd i'w lenwi ganddo gan ddarparu unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani yn yr holiadur ac y mae'n ofynnol iddo ei darparu o dan Orchymyn y Cyfrifiad.
(4) Caiff person sy'n bodloni'r amodau sydd wedi'u rhagnodi yn erthygl 5(5) o Orchymyn y Cyfrifiad ac sydd, drwy roi hysbysiad sy'n dod i law'r Awdurdod, yn ethol llenwi ffurflen unigol, lenwi'r ffurflen honno ar holiadur I2 neu holiadur I2W.
(5) Rhaid i bob etholwr sy'n llenwi holiadur I2 neu holiadur I2W (yn ôl fel y digwydd) gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a gynhwysir yn holiadur I2 neu holiadur I2W (yn ôl fel y digwydd) gan ddarparu'r holl wybodaeth y gofynnir amdani yn yr holiadur hwnnw.
(6) Rhaid i bob holiadur fod â'r nodau adnabod holiadur wedi'u hargraffu arno ac yn achos pob un o holiaduron H2, H2W, I2, ac I2W rhaid hefyd iddynt fod â chod mynediad rhyngrwyd wedi'i argraffu arno sy'n unigryw i bob holiadur penodol ac a ddefnyddir os bydd y person rhagnodedig yn llenwi'r wybodaeth y gofynnir amdani yn yr holiadur yn electronig.
(7) Caiff yr Awdurdod ddarparu system electronig i gadw cofnod o'r canlynol–
(a) nodau adnabod holiadur pob holiadur;
(b) cod mynediad rhyngrwyd pob holiadur H2, H2W, I2, ac I2W;
(c) yr aelwyd neu'r sefydliad cymunedol y mae pob holiadur wedi'i anfon neu wedi'i ddosbarthu iddynt yn unol â'r Rheoliadau hyn;
(ch) amgylchiadau dosbarthu pob pecyn unigol rheolaidd, pob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw, pob pecyn aelwyd a phob pecyn sefydliad cymunedol a ddosbarthwyd gan swyddog cyfrifiad;
(d) y dyddiad y daeth pob holiadur a ddaeth i law'r Awdurdod i law a thrwy ba fodd y daeth i law;
(dd) y dyddiad y cafodd unrhyw gofnod ei wneud yn unol â rheoliad 10(6) neu 13(7) a'r person rhagnodedig y cafodd ei wneud mewn perthynas ag ef; ac
(e) unrhyw wybodaeth arall y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i gynnal y cyfrifiad.
6.–(1) Rhaid i'r Awdurdod baratoi unrhyw becynnau unigol rheolaidd, pecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw, pecynnau aelwyd a phecynnau sefydliad cymunedol yn unol â'r rheoliad hwn y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad.
(2) Rhaid i gynnwys pob pecyn a baratoir yn unol â'r rheoliad hwn gael ei gynnwys mewn amlen o dan sêl ("amlen ddosbarthu"), ("delivery envelope") y gall unrhyw gyfeiriad sydd wedi'i argraffu ar yr holiadur gael ei weld drwyddi.
(3) Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn unigol rheolaidd gynnwys–
(a) copi o holiadur I2;
(b) copi o holiadur I2W;
(c) unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur I2 ac i lenwi a dychwelyd holiadur I2W; ac
(ch) amlen ffurflen unigol.
(4) Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw gynnwys–
(a) copi o holiadur I2;
(b) copi o holiadur I2W;
(c) unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur I2 ac i lenwi a dychwelyd holiadur I2W; ac
(ch) amlen wedi'i thalu ymlaen llaw.
(5) Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn aelwyd gynnwys–
(a) copi o holiadur H2;
(b) copi o holiadur H2W;
(c) unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur H2 ac i lenwi a dychwelyd holiadur H2W; ac
(ch) amlen wedi'i thalu ymlaen llaw.
(6) Rhaid i amlen ddosbarthu pecyn sefydliad cymunedol gynnwys–
(a) copi o holiadur CE1;
(b) copi o holiadur CE2W; ac
(c) unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r Awdurdod yn credu y gallai helpu i lenwi a dychwelyd holiadur CE1 ac i lenwi a dychwelyd holiadur CE2W.
7.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r Awdurdod anfon pecyn aelwyd i bob aelwyd yn y gofrestr cyfeiriadau drwy'r post cyn diwrnod y cyfrifiad.
(2) Caiff yr Awdurdod ddewis peidio ag anfon pecyn aelwyd drwy'r post, gan baratoi yn hytrach i'r cydgysylltydd cyfrifiad perthnasol drefnu dosbarthu'r pecyn hwnnw yn unol â rheoliad 8.
(3) Caiff yr Awdurdod anfon pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw at unrhyw etholwr mewn cyfeiriad yn y gofrestr cyfeiriadau drwy'r post.
(4) Mewn perthynas â phob pecyn a anfonir yn unol â pharagraff (1) neu (3), rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod cofnod yn cael ei wneud yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod y pecyn aelwyd penodol neu'r pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw penodol wedi'i anfon ac i ba gyfeiriad y mae wedi'i anfon.
8.–(1) Rhaid i'r Awdurdod ddyroddi i bob cydgysylltydd cyfrifiad–
(a) unrhyw becynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad;
(b) rhestr sy'n cynnwys cyfeiriadau pob aelwyd yn y gofrestr cyfeiriadau sydd wedi'i lleoli yn ardal y cydgysylltydd hwnnw y mae'n rhaid dosbarthu pecyn aelwyd iddynt o dan y rheoliad hwn;
(c) llyfr cofnodion cyfrifo i bob dosbarth cyfrifo yn ardal y cydgysylltydd hwnnw; ac
(ch) unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad.
(2) Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad ddynodi swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw i bob dosbarth cyfrifo.
(3) Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad roi i bob swyddog cyfrifiad a ddynodir o dan baragraff (2) gopi o'r llyfr cofnodion cyfrifo i'w ddosbarth cyfrifo ac wedyn rhaid i'r swyddog cyfrifiad ddosbarthu–
(a) pecyn aelwyd i bob aelwyd sy'n meddiannu annedd, neu ran o annedd, a grybwyllir yn y llyfr cofnodion cyfrifo;
(b) pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw i bob aelwyd sy'n cynnwys etholwr yn nosbarth cyfrifo'r swyddog cyfrifiad nad yw eisoes wedi cael pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw ac y mae'r cydgysylltydd cyfrifiad wedi rhoi gwybod amdano i'r swyddog; ac
(c) pecynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw (fel y bo'n briodol) i unrhyw aelwydydd neu etholwyr eraill y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt yn ei ddosbarth cyfrifo.
(4) Bydd dyletswydd y swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecyn o dan baragraff (3) wedi'i chyflawni mewn perthynas â phob aelwyd ac etholwr os bydd y swyddog yn trosglwyddo'r pecyn i'r deiliad aelwyd, y cyd-ddeiliad aelwyd neu, os nad oes person o'r fath ar gael, os bydd y swyddog–
(a) yn gadael pecyn gyda pherson cyfrifol sy'n honni ei fod yn gweithredu ar ran y person hwnnw; neu
(b) os nad oes person cyfrifol ar gael, yn gadael y pecyn neu'n ei anfon drwy'r post i'r cyfeiriad yn y llyfr cofnodion cyfrifo neu'r cyfeiriad y rhoddodd y cydgysylltydd cyfrifiad wybod amdano i'r swyddog.
(5) Mewn perthynas â phob pecyn aelwyd neu bob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw a ddosberthir yn unol â'r rheoliad hwn rhaid i'r swyddog cyfrifiad wneud cofnod yn y lle priodol yn y llyfr cofnodion cyfrifo.
(6) Rhaid i bob swyddog cyfrifiad roi'r cofnodion yn y llyfr cofnodion cyfrifo i'r cydgysylltydd cyfrifiad y mae'n rhaid iddo wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, i ddangos bod pecyn wedi'i ddosbarthu i bob cyfeiriad.
(7) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal swyddog cyfrifiad rhag cael ei ddynodi i ddosbarthu i fwy nag un dosbarth cyfrifo.
(8) Yn y rheoliad hwn ystyr "llyfr cofnodion cyfrifo" ("enumeration record book") yw llyfr sydd wedi'i argraffu gan yr Awdurdod ac sy'n cynnwys–
(a) cyfeiriadau aelwydydd mewn dosbarth cyfrifo y mae'n rhaid i swyddog cyfrifiad ddosbarthu pecynnau aelwyd iddynt â llaw;
(b) y nodau adnabod holiadur ar gyfer pob holiadur H2 sydd i'w ddosbarthu i'r cyfeiriadau hynny; ac
(c) lle i swyddog cyfrifiad gofnodi gwybodaeth am y canlynol–
(i) unrhyw aelwydydd ychwanegol y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt; a
(ii) dosbarthu pob pecyn aelwyd a phob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw.
9.–(1) Rhaid i'r Awdurdod ddyroddi i bob cydgysylltydd cyfrifiad–
(a) unrhyw becynnau sefydliad cymunedol, pecynnau unigol rheolaidd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad;
(b) rhestr sy'n cynnwys cyfeiriadau pob sefydliad cymunedol sydd wedi'i leoli yn ardal y cydgysylltydd hwnnw y mae'n rhaid dosbarthu pecynnau iddynt o dan y rheoliad hwn;
(c) llyfr cofnodion cyfrifo arbennig i bob dosbarth cyfrifo yn ardal y cydgysylltydd hwnnw; ac
(ch) unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad.
(2) Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad ddynodi swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecynnau sefydliad cymunedol, pecynnau unigol rheolaidd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw i bob dosbarth cyfrifo.
(3) Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad roi i bob swyddog cyfrifiad a ddynodir o dan baragraff (2) gopi o'r llyfr cofnodion cyfrifo arbennig i'w ddosbarth cyfrifo a chyfarwyddo'r swyddog cyfrifiad i ddosbarthu–
(a) pecyn sefydliad cymunedol i bob sefydliad cymunedol a grybwyllir yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig;
(b) nifer digonol o becynnau unigol rheolaidd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw i bob un o'r sefydliadau hynny at ddibenion y cyfrifiad; ac
(c) pecynnau sefydliad cymunedol, pecynnau unigol rheolaidd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw i unrhyw sefydliadau cymunedol eraill yn eu dosbarth cyfrifo y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt.
(4) Bydd dyletswydd y swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecynnau wedi'i chyflawni mewn perthynas â phob sefydliad cymunedol os caiff y pecynnau eu dosbarthu i'r person sydd am y tro â gofal y sefydliad cymunedol neu, os nad oes person o'r fath ar gael, os bydd y swyddog–
(a) yn eu gadael gyda pherson cyfrifol sy'n honni ei fod yn gweithredu ar ran y person hwnnw; neu
(b) os nad oes person cyfrifol ar gael, yn eu gadael yn y cyfeiriad sydd wedi'i nodi yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig.
(5) Rhaid i'r person y dosbarthir pecynnau iddo o dan baragraff (3) drosglwyddo pecyn unigol rheolaidd neu becyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw i'r canlynol–
(a) pob person sydd fel arfer yn preswylio yn y fangre neu'r llong y mae'n ymddangos iddo eu bod yn gallu llenwi holiadur; neu
(b) i berthynas neu berson arall a fydd yn llenwi'r holiadur ar ran person sy'n dod o dan is-baragraff (a) ond nad yw'n gallu llenwi'r holiadur yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad.
(6) Mewn perthynas â phob pecyn sefydliad cymunedol a phob pecyn unigol rheolaidd neu bob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw a ddosbarthir yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i'r swyddog cyfrifiad wneud cofnod yn y lle priodol yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig.
(7) Rhaid i bob swyddog cyfrifiad roi'r cofnodion yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig i'r cydgysylltydd cyfrifiad y mae'n rhaid iddo wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, i ddangos bod pecyn wedi'i ddosbarthu i bob cyfeiriad.
(8) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal swyddog cyfrifiad rhag cael ei ddynodi i ddosbarthu i fwy nag un dosbarth cyfrifo.
(9) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 11, ystyr "llyfr cofnodion cyfrifo arbennig" ("special enumeration record book") yw llyfr sydd wedi'i argraffu gan yr Awdurdod ac sy'n cynnwys–
(a) cyfeiriad pob sefydliad cymunedol mewn dosbarth cyfrifo y mae'n rhaid i swyddog cyfrifiad ddosbarthu pecynnau sefydliad cymunedol a phecynnau unigol rheolaidd neu becynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw iddynt â llaw;
(b) y nodau adnabod holiadur ar gyfer pob holiadur CE1 sydd i'w ddosbarthu mewn dosbarth cyfrifo;
(c) y nodau adnabod holiadur ar gyfer pob holiadur I2 sydd i'w ddosbarthu i sefydliad cymunedol penodol mewn dosbarth cyfrifo; ac
(ch) lle i swyddog cyfrifiad gofnodi gwybodaeth am y canlynol–
(i) unrhyw sefydliadau cymunedol ychwanegol y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt;
(ii) dosbarthu pob pecyn sefydliad cymunedol, pob pecyn unigol rheolaidd a phob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw; a
(iii) casglu holiaduron.
10.–(1) Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecyn aelwyd wedi'i ddosbarthu iddo neu y derbyniwyd dosbarthiad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol–
(a) llenwi'r copi o holiadur H2 neu holiadur H2W a gynhwyswyd yn y pecyn, ei osod yn yr amlen wedi'i thalu ymlaen llaw a ddarparwyd ac anfon yr holiadur i'r Awdurdod drwy'r post; neu
(b) dychwelyd yr wybodaeth y gofynnir amdani gan holiadur H2 neu holiadur H2W yn electronig drwy ddefnyddio unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod at y diben hwn a hynny yn unol â'r cyfarwyddiadau a gynhwysir yn y pecyn sy'n cyd-fynd â'r holiadur.
(2) Caiff pob etholwr y mae pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw wedi'i ddosbarthu iddo neu y derbyniwyd dosbarthiad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn, drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol–
(a) llenwi'r copi o holiadur I2 neu holiadur I2W a gynhwyswyd yn y pecyn, ei osod yn yr amlen wedi'i thalu ymlaen llaw a ddarparwyd ac anfon yr holiadur i'r Awdurdod drwy'r post; neu
(b) dychwelyd yr wybodaeth y gofynnir amdani gan holiadur I2 neu holiadur I2W yn electronig drwy ddefnyddio unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod at y diben hwn a hynny yn unol ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a gynhwysir yn y pecyn sy'n cyd-fynd â'r holiadur.
(3) Cyn gynted â phosibl ar ôl i bob holiadur I2 neu I2W, neu H2 neu H2W sydd wedi'u llenwi ddod i law'r Awdurdod, rhaid i'r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod yr holiadur perthnasol wedi'i ddychwelyd.
(4) Ar ôl i holiadur I2 neu I2W, neu H2 neu H2W sydd wedi'u llenwi ddod i law'r Awdurdod yn electronig, rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod cadarnhad ei fod wedi dod i law yn cael ei anfon yn electronig at y person sy'n dychwelyd yr holiadur.
(5) Pan fo penodai yn fodlon, ar ôl siarad â pherson rhagnodedig at ddibenion erthyglau 5(1) neu (3) o Orchymyn y Cyfrifiad, nad yw'r person rhagnodedig o dan sylw–
(a) yn gallu llenwi holiadur a'i ddychwelyd; a
(b) yn alluog i awdurdodi unrhyw berson i weithredu ar ei ran,
yna caiff y penodai, yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud ymholiadau ynghylch y manylion y byddai'n ofynnol o dan Orchymyn y Cyfrifiad i'r person rhagnodedig hwnnw eu rhoi a chofnodi'r atebion i'r ymholiadau hynny y caniateir iddynt gael eu defnyddio at ddibenion y cyfrifiad.
(6) Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai wneud cofnod yn unol â pharagraff (5), rhaid i'r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o dan baragraff (5) wedi'i wneud mewn perthynas â'r person rhagnodedig hwnnw.
11.–(1) Rhaid i bob person rhagnodedig y mae pecynnau wedi'u dosbarthu iddo mewn sefydliad cymunedol neu y derbyniwyd dosbarthiad ar ei ran o dan y Rheoliadau hyn lenwi holiadur CE1 neu holiadur CE2W drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(2) Rhaid i bob person rhagnodedig y trosglwyddwyd pecyn unigol rheolaidd neu becyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw iddo o dan reoliad 9(4) drannoeth diwrnod y cyfrifiad neu cyn gynted wedyn ag y bo'n rhesymol ymarferol–
(a) llenwi holiadur I2 neu holiadur I2W, ei osod yn yr amlen ffurflen unigol a ddarparwyd a'i throsglwyddo i'r person sy'n llenwi holiadur CE1 neu holiadur CE2W mewn perthynas â'r sefydliad cymunedol;
(b) llenwi holiadur I2 neu holiadur I2W, ei osod yn yr amlen wedi'i thalu ymlaen llaw (os oes un wedi'i darparu) ac anfon yr holiadur i'r Awdurdod drwy'r post; neu
(c) dychwelyd yr wybodaeth y gofynnir amdani gan holiadur I2 neu holiadur I2W yn electronig drwy ddefnyddio unrhyw system electronig a ddarperir gan yr Awdurdod at y diben hwn a hynny yn unol ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a gynhwysir yn y pecyn sy'n cyd-fynd â'r holiadur.
(3) Rhaid i'r person sy'n llenwi holiadur CE1 neu holiadur CE2W mewn perthynas â sefydliad cymunedol gasglu pob copi o holiadur I2 neu holiadur I2W a drosglwyddwyd yn unol â pharagraff (2)(a) a'u cadw'n ddiogel, ynghyd â'r holiadur CE1 neu'r holiadur CE2W sydd wedi'u llenwi, nes i'r holiaduron gael eu casglu gan swyddog cyfrifiad yn unol â pharagraff (4).
(4) Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad wneud trefniadau i swyddog cyfrifiad gasglu'r copïau o holiadur I2 neu I2W ac CE1 neu CE2W sydd wedi'u llenwi o bob sefydliad cymunedol.
(5) Mewn perthynas â phob holiadur I2 neu I2W ac CE1 neu CE2W a gesglir yn unol â'r rheoliad hwn rhaid i'r swyddog cyfrifiad wneud cofnod yn y lle priodol yn y llyfr cofnodion cyfrifo arbennig ar gyfer y dosbarth cyfrifo hwnnw.
(6) Rhaid i'r swyddog cyfrifiad drosglwyddo'r holiaduron a gesglir o dan baragraff (4) a'r cofnodion a baratoir o dan baragraff (5) i'r cydgysylltydd cyfrifiad y mae'n rhaid iddo wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron, yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, i dangos bod holiaduron wedi dod i law o'r cyfeiriad hwnnw.
(7) Pan fo holiadur I2 neu I2W sydd wedi'i lenwi wedi dod i law'r Awdurdod yn electronig, rhaid i'r Awdurdod sicrhau bod cadarnhad ei fod wedi dod i law yn cael ei anfon yn electronig at y person sy'n dychwelyd yr holiadur.
12. Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud trefniadau yn ei ardal cydgysylltydd–
(a) i holiadur I2 neu I2W gael ei lenwi a'i ddychwelyd gan neu ar ran y personau rhagnodedig yng Ngrŵp G yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad yn ardal y cydgysylltydd hwnnw; a
(b) i holiadur CE1 neu CE2W gael ei lenwi mewn perthynas ag unrhyw grŵp o bersonau rhagnodedig yng Ngrŵp G y dychwelir holiaduron ganddynt neu ar eu rhan o dan baragraff (a).
13.–(1) Rhaid i'r Awdurdod wirio'r cofnodion yn y system olrhain holiaduron i weld a yw pob holiadur a anfonwyd neu a ddosbarthwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn wedi dod i law'r Awdurdod.
(2) Wedyn rhaid i'r Awdurdod ddyroddi rhestr i bob cydgysylltydd cyfrifiad a honno'n cynnwys y cyfeiriadau ym mhob dosbarth cyfrifo yn ei ardal cydgysylltydd y cafodd holiadur ei anfon neu ei ddosbarthu iddynt heb ei ddychwelyd.
(3) Rhaid i bob cydgysylltydd cyfrifiad roi i'r swyddogion cyfrifiad a benodir i weithredu yn eu hardal cydgysylltydd gopïau o'r rhestr a grëir o dan baragraff (2) a chyfarwyddo'r swyddogion cyfrifiad hynny i wneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn rhesymol gydag unrhyw berson er mwyn sicrhau'r manylion y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson rhagnodedig eu darparu.
(4) Pan fo swyddog cyfrifiad wedi gwneud ymholiadau o dan baragraff (3) gyda pherson rhagnodedig nad oes holiadur wedi dod i law mewn perthynas ag ef caiff y swyddog–
(a) casglu holiadur wedi'i lenwi;
(b) cytuno y caniateir i'r holiadur wedi'i lenwi gael ei ddychwelyd drwy ei bostio yn yr amlen wedi'i thalu a ddarparwyd; neu
(c) dosbarthu holiadur newydd a gwneud unrhyw drefniadau i gasglu'r holiadur y mae'r swyddog yn credu eu bod yn addas.
(5) Pan fo holiadur yn dod i law'r Awdurdod yn dilyn ymholiadau o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod holiadur wedi dod i law.
(6) Pan fo holiadur yn dod i law'r Awdurdod ond nad yw'n cynnwys rhai neu'r cyfan o'r manylion y mae'n ofynnol o dan Orchymyn y Cyfrifiad i'r person rhagnodedig eu darparu yna caiff penodai, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, wneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn rhesymol gydag unrhyw berson er mwyn sicrhau'r manylion coll a chofnodi'r atebion i'r ymholiadau hynny y caniateir eu defnyddio at ddibenion y cyfrifiad.
(7) Cyn gynted â phosibl ar ôl i benodai wneud cofnod yn unol â pharagraff (6), rhaid i'r Awdurdod wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron i ddangos bod cofnod o'r fath wedi'i wneud mewn perthynas â'r person rhagnodedig hwnnw.
14.–(1) Rhaid i bob person y mae ffurflen i'w llenwi mewn perthynas ag ef o dan Orchymyn y Cyfrifiad roi i'r person rhagnodedig sy'n atebol am lenwi ffurflen unrhyw wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, y mae'n rhesymol i'r person rhagnodedig ofyn amdani er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i bob person rhagnodedig roi i unrhyw benodai unrhyw wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, y mae'n rhesymol i'r penodai ofyn amdani i gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i berson y rhoddir gwybodaeth bersonol iddo yn unol â'r Rheoliadau hyn beidio â gwneud y canlynol heb awdurdod cyfreithlon–
(a) defnyddio'r wybodaeth honno; na
(b) ei chyhoeddi na'i mynegi i unrhyw berson arall.
15.–(1) Rhaid i unrhyw berson sydd, boed ar ei ran ei hun ynteu ar ran unrhyw berson arall, yn cadw holiaduron neu ddogfennau eraill (gan gynnwys dogfennau electronig) sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'r cyfrifiad gadw'r dogfennau hynny mewn modd sy'n atal unrhyw berson diawdurdod rhag eu cyrchu.
(2) Pan gyfarwyddir unrhyw benodai i wneud hynny gan yr Awdurdod, rhaid iddo anfon i'r Awdurdod yr holl gofnodion ym meddiant y penodai hwnnw (gan gynnwys unrhyw gofnod electronig) sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'r cyfrifiad.
(3) Rhaid i'r Awdurdod drefnu storio holiaduron, dyfeisiau storio electronig, neu ddogfennau eraill sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'r cyfrifiad yn ddiogel.
16.–(1) Rhaid i bob penodai y bydd yr Awdurdod yn rhoi caniatâd iddo olygu, copïo neu dynnu data o'r storfeydd data electronig roi datganiad statudol yn y ffurf yn Atodlen 5, yn unol â'r trefniadau a wneir gan yr Awdurdod, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael ei benodi gan yr Awdurdod neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, p'un bynnag fydd olaf.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i bob penodai nad yw'n ofynnol iddo gwblhau datganiad statudol o dan baragraff (1) lenwi ffurflen yr ymrwymiad a nodir yn Atodlen 6, yn unol â'r trefniadau a wneir gan yr Awdurdod, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael ei benodi neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, p'un bynnag fydd olaf.
(3) Ni fydd yn ofynnol i unrhyw benodai a benodwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a lenwodd ffurflen ymrwymiad sydd yr un fath neu sydd i'r un perwyl â'r ymrwymiad yn Atodlen 6, lenwi ymrwymiad arall yn rhinwedd y rheoliad hwn.
(4) At ddibenion paragraff (1), ystyr "storfeydd data electronig" ("electronic data repositories") yw unrhyw rai o'r systemau electronig a ddefnyddir er mwyn storio'r manylion a gofnodir yn yr holl holiaduron a fydd yn dod i law'r Awdurdod a ddynodir gan yr Awdurdod.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, un o Weinidogion Cymru
24 Ebrill 2010
Rheoliad 5(2)
(1) | (2) | (3) |
---|---|---|
Personau rhagnodedig | Teitl fersiwn Saesneg yr holiadur | Teitl fersiwn Cymraeg yr holiadur |
Y person sydd am y tro â gofal unrhyw fangre neu long a grybwyllir yng Ngrŵp B i F yn Atodlen Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad. | Yr holiadur o dan y teitl "CE1 Communal Establishment Questionnaire England and Wales" yn Atodlen 2. | Yr holiadur o dan y teitl "CE2W Holiadur i Sefydliadau Cymunedol – Cymru" yn 2. |
Y deiliad aelwyd neu'r cyd-ddeiliaid aelwyd, neu yn absenoldeb unrhyw berson o'r fath sy'n gallu llenwi ffurflen unrhyw berson sy'n gweithredu ar eu rhan, ym mhob aelwyd yng Nghymru. | Yr holiadur o dan y teitl "H2 Household Questionnaire – Wales" yn Atodlen 3. | Yr holiadur o dan y teitl "H2W Holiadur y Cartref – Cymru" yn Atodlen 3. |
Pan fo erthygl 5(8) o Orchymyn y Cyfrifiad yn gymwys, y person sy'n gyfrifol o dan yr erthygl honno am lenwi ffurflen yng Nghymru. | ||
Pob preswylydd arferol a bennir yng ngholofn (2) yng Ngrŵp B i F yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad neu unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y person hwnnw, yng Nghymru. | Yr holiadur o dan y teitl "I2 Individual Questionnaire - Wales" yn Atodlen 4. | Yr holiadur o dan y teitl "I2W Holiadur i Unigolion - Cymru" yn Atodlen 4. |
Pob person a bennir yng ngholofn (2) o Grŵp G yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad neu unrhyw berson sy'n gweithredu ar eu rhan, yng Nghymru. | ||
Unrhyw etholwr yng Nghymru sy'n llenwi ffurflen unigol yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad. |
Rheoliad 5(2)
Rheoliad 5(2)
Rheoliad 5(2)
Rheoliad 16(1)
Rheoliad 16(2)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r trefniadau manwl sy'n angenrheidiol er mwyn cynnal yng Nghymru y cyfrifiad y cyfarwyddwyd ei gynnal ar 27 Mawrth 2011 gan Orchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 2009 ("Gorchymyn y Cyfrifiad"). Maent hefyd yn diddymu darpariaethau Rheoliadau'r Cyfrifiad 2000 (O.S. 2000/1473) a Rheoliadau'r Cyfrifiad (Diwygio) 2000 (O.S. 2000/3351) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer rhannu Cymru'n ardaloedd cyfrifiad, ardaloedd cydgysylltwyr a dosbarthau cyfrifo. Mae'n darparu hefyd ar gyfer penodi personau i gyflawni'r dyletswyddau a ddyrennir iddynt o dan y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 5 yn darparu y bydd person y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lenwi ffurflen yn y cyfrifiad yn cyflawni ei gyfrifoldeb pan fydd yr holiadur perthnasol (sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg), a bennir yn Atodlen 1 ac sydd wedi'i nodi'n llawn yn Atodlenni 2 i 4 i'r Rheoliadau hyn, wedi dod i law Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig ("yr Awdurdod"). Mae rheoliadau 6 i 12 yn darparu trefniadau manwl ar gyfer dosbarthu'r holiaduron, eu llenwi a'u dychwelyd.
Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer camau dilynol i'w cymryd os na fydd holiadur a anfonwyd neu a ddosbarthwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn yn cael ei ddychwelyd neu os bydd yn cael ei ddychwelyd yn anghyflawn.
Mae rheoliadau 14 a 15 yn gwneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi i berson rhagnodedig neu swyddog cyfrifiad. Maen nhw'n gwneud darpariaeth hefyd i atal gwybodaeth a sicrheir at ddibenion y cyfrifiad rhag cael ei defnyddio, ei chyhoeddi a'i mynegi heb awdurdod ac i sicrhau bod ffurflenni a dogfennau'n cael eu cadw'n ddiogel.
Mae rheoliad 16 yn darparu ar gyfer rhoi naill ai datganiad statudol neu ymrwymiad ynglŷn â chyfrinachedd gwybodaeth a sicrheir o ganlyniad i'r cyfrifiad gan bersonau a fydd yn cael gweld yr wybodaeth honno.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnesau, llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol wedi'i atodi i'r memorandwm esboniadol.