Gwnaed
9 Ebrill 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Ebrill 2010
Yn dod i rym
12 Ebrill 2010
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 12 Ebrill 2010.
2. Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 2007" ("the 2007 Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(3).
3.–(1) Mae Rheoliadau 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yng Ngholofn 2 o Dabl A yn Atodlen 1 (addasiadau i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yn lle'r addasiad i baragraff (1A) o reoliad 53 (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf) o'r Rheoliadau hynny rhodder "Hepgorer paragraff 1A".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Ebrill 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 ("y prif Reoliadau"). Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu am dalu treuliau teithio a pheidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar, ymhlith pobl eraill, bersonau sydd ar incwm isel, drwy gyfeirio at derfynau ar eu hincwm a'u cyfalaf.
Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes gan berson hawl i beidio â thalu taliadau GIG a thalu treuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
Mae Rheoliad 3 yn newid yr addasiad i reoliad 53 o Reoliadau 1987 drwy hepgor paragraff (1A). Yn gyffredinol, effaith hyn yw na fydd rhan o gyfalaf ceisyddion sy'n byw mewn mathau neilltuol o lety gofal preswyl, fel a bennir ym mharagraff (1B), yn cael ei thrin mwyach fel incwm at ddibenion cyfrifo hawl ceisyddion o dan y prif Reoliadau. Bydd y terfyn cyfalaf rhagnodedig (sy'n £22,000 ar hyn o bryd) yn dal i fod yn gymwys i'r cyfryw geisyddion.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 2007/1104 (Cy.116). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2008/1480 (Cy.153), 1879 a 2568 (Cy.226); a 2009/709 (Cy. 61). Back [3]