Gwnaed
30 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 11 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), a pharagraff 22 o Atodlen 2 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall–
ystyr "y BILl" ("the LHB") yw Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009(2);
ystyr "cyn Gomisiwn Iechyd Cymru" ("the former Health Commission Wales") yw Comisiwn Iechyd Cymru a oedd yn gyfrifol hyd 31 Mawrth 2010 am arfer swyddogaethau comisiynu Gweinidogion Cymru yng Nghymru mewn perthynas â gwasanaethau gofal arbenigol a thrydyddol a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddiadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 a wnaed ar 1 Hydref 2009;
ystyr "y dyddiad trosglwyddo" ("the transfer date") yw 1 Ebrill 2010; ac
ystyr "swyddfa CIC" ("the HCW office") yw Uned 3a Parc Busnes Caerffili, Caerffili, CF83 3ED.
3. Yn ddarostyngedig i erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn, mae holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Gweinidogion Cymru sy'n ymwneud â gweithgareddau cyn Gomisiwn Iechyd Cymru yn cael eu trosglwyddo i'r BILl ac yn cael eu breinio ynddo ar y dyddiad trosglwyddo.
4. Nid yw'r eiddo, yr hawliau a'r rhwymedigaethau a grybwyllir yn erthyglau 3 a 5 yn cynnwys unrhyw un neu ragor o eiddo, hawliau neu rwymedigaethau Gweinidogion Cymru–
(a) mewn perthynas ag un o fuddiannau lesddaliadol swyddfa CIC yn unol â les ddyddiedig 4 Awst 2003 rhwng (1) Anthony Record ac I.P.M SIPP Cyf a (2) Cynulliad Cenedlaethol Cymru; neu
(b) mewn perthynas â chyfarpar neu raglenni technoleg gwybodaeth, systemau ffôn neu lungopïwr yn swyddfa CIC neu o dan unrhyw gontract ar gyfer cyflenwi, defnyddio neu gynnal a chadw unrhyw gyfarpar neu raglenni technoleg gwybodaeth, systemau ffôn neu lungopïwr yn swyddfa CIC.
5. Yn ddarostyngedig i erthygl 4, mae unrhyw hawl a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn orfodadwy gan Weinidogion Cymru neu yn eu herbyn mewn perthynas â chyn Gomisiwn Iechyd Cymru yn orfodadwy, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, gan y BILl neu yn ei erbyn.
6.–(1) Mae unrhyw beth a wnaed ar neu cyn 31 Mawrth 2010 gan Weinidogion Cymru neu mewn perthynas â hwy ac sy'n ymwneud â chyn Gomisiwn Iechyd Cymru yn cael ei drin fel pe bai wedi ei wneud gan y BILl neu mewn perthynas ag ef.
(2) Bydd unrhyw apêl neu fater arall a oedd ar neu cyn 31 Mawrth 2010 yn cael ei ystyried gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chyn Gomisiwn Iechyd Cymru yn cael ei ystyried gan y BILl yn unol ag unrhyw Gyfarwyddiadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
7. Bydd yr eiddo ym mhob dogfen (gan gynnwys dogfennau ar ffurf electronig) sydd ym meddiant Gweinidogion Cymru neu o dan eu rheolaeth mewn perthynas â chyn Gomisiwn Iechyd Cymru yn trosglwyddo i'r BILl ac yn cael ei freinio ynddo ar y dyddiad trosglwyddo.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig neilltuol, mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo, ar 1 Ebrill 2010, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chyn Gomisiwn Iechyd Cymru i Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf.