Gwnaed
25 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Mawrth 2010
Yn dod i rym
20 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), (26)(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) (Diwygio) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Ebrill 2010.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Rheoliadau 2009" ("the 2009 Regulations") yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 2009(4).
3.–(1) Diwygir Rheoliadau 2009 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 (Tabl o'r cofnodion i'w rhoi yn lle'r cofnodion presennol yn Nhabl B (mwynau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) yn Atodlen 6, Rhan II, i Reoliadau Labelu Bwyd 1996), yng Ngholofn 2, gyferbyn â "Potassium" yng Ngholofn 1, yn lle "200 mg" rhodder "2000 mg".
Gwenda Thomas
Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Ebrill 2010 ac y maent yn gymwys i Gymru. Maent yn cywiro gwall argraffyddol yn Atodlen 2 i Reoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2705 (Cy.224)).
1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), ("Deddf 1999"). Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990. Back [1]
Mae'r swyddogaethau a arferid gynt gan "y Gweinidogion" (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn ymwneud, yn eu trefn, â bwyd ac iechyd yng Nghymru ac ag iechyd yn Lloegr, ac, o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol) bellach yn arferadwy o ran Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau "y Gweinidogion", i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a throsglwyddwyd hwy wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Mae'r swyddogaethau hynny, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran yr Alban, wedi eu trosglwyddo i Weinidogion yr Alban gan adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (1998 p. 46) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(2) o Ddeddf 1999. Back [2]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 202/2008 (OJ Rhif L60, 5.3.2008, t.17). Back [3]
O.S 2009/2705 (Cy.224). Back [4]