Gwnaed
23 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 40(2)(a) o Ddeddf Iechyd 2009(1).
Yn unol ag adran 40(13) o'r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol.
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Iechyd 2009.
2. 1 Ebrill 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym–
(a) paragraffau 14 i 17 o Atodlen 3 (penodiadau'r GIG a phenodiadau iechyd eraill: atal dros dro);
(b) paragraffau 18 ac 19 o Atodlen 3 ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â diwygiadau i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ac
(c) adran 19 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 3 y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b).
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r gorchymyn cychwyn cyntaf mewn cysylltiad â Deddf Iechyd 2009 ("y Ddeddf ").
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2010 baragraffau penodol yn Atodlen 3 i'r Ddeddf sy'n cynnwys diwygiadau i ddarparu ar gyfer pwerau atal dros dro mewn perthynas â chyrff penodol GIG a chyrff eraill sy'n ymwneud ag iechyd (erthygl 2(a) i (c)).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2010/30 (p.5).
2009 p.21. Back [1]