Gwnaed
23 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Mawrth 2010
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 124 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym yn syth ar ôl i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2010(2) ddod i rym.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989(3).
2. Yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau mewnosoder y geiriau canlynol yn y lle priodol o ran trefn yr wyddor–
"Isle of Man".
3. Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2010(4) wedi eu dirymu.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (O.S.1989/306) ("Rheoliadau 1989"). Mae'r Rheoliadau'n ychwanegu Ynys Manaw at y rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dod i gytundeb cilyddol â hwy yn Atodlen 2 i Reoliadau 1989.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2010 (O.S.2010/730 (Cy.71)).