Gwnaed
22 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7, 8 a 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2010. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
2. Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "anifeiliaid" ("animals") yw gwartheg (ond heb gynnwys buail ac iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;
ystyr "crynhoad anifeiliaid" ("animal gathering") yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi ynghyd at un neu fwy o'r dibenion canlynol–
gwerthiant, sioe neu arddangosfa;
casglu i draddodi llwyth o anifeiliaid ymlaen o fewn Prydain Fawr;
arolygiad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol;
mae "cyfarpar" ("equipment") yn cynnwys llociau a chlwydi;
ystyr "diheintydd a gymeradwywyd" ("approved disinfectant") yw diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007(2);
ystyr "mangre drwyddedig" ("licensed premises") yw mangre a drwyddedwyd o dan erthygl 5(1);
ystyr "man i anifeiliaid" ("animal area") yw unrhyw fan ar y fangre drwyddedig y caniateir i'r anifeiliaid fynd iddo mewn crynhoad anifeiliaid;
ystyr "palmantog" ("paved") yw wedi ei balmantu â sment, concrit, asffalt neu ddeunydd anhydrin caled arall y gellir ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol;
mae "trwyddedai" ("licensee") yn berson a drwyddedwyd o dan erthygl 5(1).
3. O ran unrhyw hysbysiadau, trwyddedau neu awdurdodiadau a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol o dan y Gorchymyn hwn–
(a) rhaid iddynt fod mewn ysgrifen;
(b) caniateir iddynt gael eu diwygio, eu hatal dros dro neu eu dirymu; ac
(c) cânt fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a gofynion sydd ym marn yr arolygydd milfeddygol yn angenrheidiol i atal clefyd rhag cael ei gyflwyno i'r fangre drwyddedig neu i gael ei ledaenu o fewn y fangre honno neu ohoni.
4. Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn unrhyw un o'r sefyllfaoedd canlynol–
(a) os yr un person sy'n berchen ar yr holl anifeiliaid y daethpwyd â hwy i'r crynhoad anifeiliaid;
(b) os yw'r holl anifeiliaid yn dod o un set o fangreoedd y mae Gweinidogion Cymru wedi ei hawdurdodi fel grŵp meddiannaeth unigol o dan Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(3); neu
(c) os yw'r crynhoad anifeiliaid yn cael ei gynnal ar fangre y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arni neu'n ei meddiannu.
5.–(1) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw fangre ar gyfer crynhoad anifeiliaid oni bai bod y fangre honno wedi ei thrwyddedu i'r perwyl hwnnw gan arolygydd milfeddygol.
(2) Rhaid i gais am drwydded fod mewn ysgrifen.
(3) Rhaid i drwydded gynnwys–
(a) enw'r trwyddedai;
(b) y fangre lle y caniateir crynhoad anifeiliaid; ac
(c) manylion sy'n dynodi'r man i anifeiliaid.
6. Ni chaiff neb ganiatáu i grynhoad anifeiliaid gael ei gynnal ar fangre drwyddedig lle y mae anifeiliaid wedi cael eu cadw hyd nes y bydd 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio er y diwrnod–
(a) y gadawodd yr anifail olaf y fangre drwyddedig; a
(b) y cafodd yr holl gyfarpar yr oedd modd i'r anifeiliaid fynd ato ei lanhau o unrhyw halogiad gweladwy, wedi i'r anifail olaf adael y fangre drwyddedig.
7.–(1) Nid yw'r cyfyngiad yn erthygl 6 yn gymwys pan fo'r holl fannau i anifeiliaid ar y fangre drwyddedig wedi eu palmantu, a bod y mannau hynny (ac unrhyw gyfarpar sydd arnynt) wedi eu crafu'n lân, eu hysgubo, eu glanhau drwy olchi ac yna eu diheintio â diheintydd a gymeradwywyd cyn y crynhoad anifeiliaid nesaf.
(2) O ran y gwaith crafu, ysgubo, glanhau a diheintio sy'n ofynnol ym mharagraff (1)–
(a) dim ond pan fo'r anifeiliaid wedi gadael y man sydd i'w drin felly y caniateir i'r gwaith hwnnw ddechrau; a
(b) rhaid ei orffen ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre drwyddedig.
(3) Caiff arolygydd milfeddygol ddyroddi awdurdodiad i drwyddedai gynnal crynhoad anifeiliaid sy'n esempt rhag y cyfyngiad yn erthygl 6 yn ddarostyngedig i ofynion sy'n wahanol i'r rhai sydd wedi eu cynnwys ym mharagraffau (1) a (2).
(4) Os, ar ôl y tro diwethaf y cafodd unrhyw fan palmantog i anifeiliaid ei drin yn unol â'r erthygl hon, caiff unrhyw ran o'r man hwnnw ei ailhalogi â thom anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n dod o anifeiliaid neu unrhyw halogyn sy'n tarddu o anifeiliaid, yna rhaid i'r rhan ailhalogedig honno gael ei chrafu'n lân, ei hysgubo, ei glanhau drwy olchi ac wedyn ei diheintio cyn caniatáu i unrhyw anifeiliaid gael mynd i'r fangre drwyddedig ar gyfer y crynhoad anifeiliaid nesaf.
8.–(1) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod yr holl fwydydd anifeiliaid yr oedd modd i'r anifeiliaid fynd atynt, a'r holl sarn, y dom, y deunydd arall sy'n dod o anifeiliaid a'r halogion eraill sy'n tarddu o anifeiliaid sydd yn y man i anifeiliaid–
(a) yn cael eu distrywio;
(b) yn cael eu trin er mwyn dileu'r risg o drosglwyddo clefyd; neu
(c) yn cael eu gwaredu i sicrhau na fydd modd i anifeiliaid fynd atynt.
(2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw ddeunydd y mae'n ofynnol ei waredu o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006(4).
9.–(1) Ni chaiff neb ddod ag unrhyw anifail, na chaniatáu i unrhyw anifail fynd, i mewn i fangre a ddefnyddir ar gyfer crynhoad anifeiliaid ar ôl i'r crynhoad fod yn agored i dderbyn anifeiliaid am gyfnod o 48 awr.
(2) Caiff arolygydd milfeddygol estyn drwy hysbysiad y cyfnod pryd y caniateir i anifeiliaid fynd i mewn i grynhoad anifeiliaid.
(3) At ddiben yr erthygl hon, pan fo mwy nag un crynhoad anifeiliaid yn cael ei gynnal ar yr un fangre drwyddedig a bod anifeiliaid yn bresennol ar bob adeg ar y fangre honno yn ystod y cyfryw grynoadau, mae'r crynoadau hynny i'w trin fel un crynhoad anifeiliaid, a bydd y cyfnod o 48 awr i'r fangre fod yn agored i dderbyn anifeiliaid yn gymwys i'r crynhoad hwnnw.
10. Yn achos unrhyw grynhoad anifeiliaid sydd i'w ddefnyddio at ddiben gwerthiant (p'un a yw gwerthu'n unig ddiben ai peidio) neu gasgliad, rhaid i'r trwyddedai wneud y canlynol o leiaf 14 o ddiwrnodau ymlaen llaw–
(a) rhoi cyhoeddusrwydd i'r amserau pan fydd y fangre drwyddedig yn agored i dderbyn anifeiliaid ac i ddiben y crynhoad anifeiliaid (gan gynnwys gwerthiant neu gasgliad a nodir yn erthygl 11, os yw'n briodol); a
(b) hysbysu Gweinidogion Cymru a'r awdurdod lleol o'r wybodaeth hon.
11.–(1) Ni chaiff neb gynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig onid yw ar fan palmantog i anifeiliaid.
(2) Ni chaiff neb gynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig fel rhan o grynhoad anifeiliaid sy'n cael ei gynnal at unrhyw ddiben arall.
(3) Yn yr erthygl hon–
(a) ystyr "casgliad cigydda dynodedig" ("dedicated slaughter collection") yw crynhoad anifeiliaid at ddibenion eu traddodi ymlaen yn uniongyrchol i'w cigydda ym Mhrydain Fawr; a
(b) ystyr "gwerthiant cigydda dynodedig" ("dedicated slaughter sale") yw crynhoad anifeiliaid at ddibenion gwerthiant cyn eu traddodi ymlaen yn uniongyrchol i'w cigydda ym Mhrydain Fawr.
12.–(1) Mae darpariaethau'r erthygl hon yn gymwys pan fo'r anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi gadael y fangre drwyddedig.
(2) Ni chaiff neb ganiatáu i anifeiliaid fynd ar y fangre drwyddedig at unrhyw ddiben hyd nes y bydd pob cyfarpar yr oedd modd i'r anifeiliaid fynd ato yn ystod crynhoad anifeiliaid wedi ei lanhau o unrhyw halogiad gweladwy.
(3) Yn sgil crynhoad anifeiliaid, dim ond os yw'r canlynol wedi digwydd y caiff person symud o'r fangre drwyddedig unrhyw gyfarpar yr oedd modd i'r anifeiliaid fynd ato–
(a) os yw'r cyfarpar wedi ei grafu'n lân, ei ysgubo, ei lanhau drwy olchi ac yna ei ddiheintio â diheintydd a gymeradwywyd; neu
(b) os yw cyfnod o 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio er pan y gadawodd yr anifail olaf y fangre drwyddedig.
(4) Pan na fo unrhyw gyfleuster priodol i lanhau a diheintio'r cyfarpar yn gywir ar y fangre drwyddedig yn unol â'r gofyniad ym mharagraff 3(a), yna caniateir i'r cyfarpar gael ei symud i'r cyfleuster priodol agosaf lle bydd yn rhaid ei lanhau a'i ddiheintio.
13.–(1) Rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, o ran achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, mai Gweinidogion Cymru, ac nid yr awdurdod lleol, sydd i gyflawni'r swyddogaeth orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan yr erthygl hon.
14.–(1) Mae Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2007(5) wedi ei ddirymu.
(2) Ymdrinnir â thrwydded a roddwyd o dan y Gorchymyn hwnnw a oedd mewn grym yn union cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym fel trwydded a roddwyd o dan erthygl 5(1).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn ailddeddfu, gyda diwygiadau, Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2425 (Cy.201)) ("Gorchymyn 2007").
Rhaid cael trwyddedau yn unol ag erthygl 5(1) os yw unrhyw berson am gynnal crynhoad anifeiliaid nad yw wedi ei esemptio gan erthygl 4. O dan Orchymyn 2007 yr oedd arwerthiannau defaid magu yn yr hydref yn esempt ond rhaid iddynt gael eu trwyddedu bellach o dan y Gorchymyn hwn.
Ac eithrio pan fo'r crynhoad anifeiliaid yn digwydd ar unrhyw fan palmantog i anifeiliaid, mae cyfyngiad ar nifer y diwrnodau y mae'n rhaid iddynt fynd heibio cyn y caniateir i grynhoad arall gael ei gynnal ar fangre drwyddedig (erthyglau 6 a 7).
Mae erthygl 8 yn ymdrin â distrywio, trin neu waredu bwydydd anifeiliaid a deunyddiau eraill.
Dim ond yn ystod cyfnod o hyd at 48 awr o ddechrau'r crynhoad y caniateir dod ag anifeiliaid i grynhoad anifeiliaid (erthygl 9). Rhaid rhaghysbysu o'r cyfnod hwn o 48 awr ar gyfer dod ag anifeiliaid i grynhoad a rhoi cyhoeddusrwydd i'r cyfnod hwnnw (erthygl 10).
Dim ond ar fangre sydd â mannau palmantog i anifeiliaid y caniateir i werthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig gael ei gynnal (erthygl 11).
Rhaid i bob cyfarpar gael ei lanhau cyn y crynhoad anifeiliaid nesaf, ac mae cyfyngiadau cyn y caniateir i gyfarpar gael ei symud o'r fangre drwyddedig (erthygl 12).
Caiff y Gorchymyn ei orfodi gan yr awdurdod lleol (erthygl 13). Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p. 22).
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol wedi ei baratoi.
1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [1]
O.S. 2007/2803 (Cy.236). Back [2]
O.S. 2003/1966 (Cy.211) (fel y'i diwygiwyd). Back [3]
O.S. 2006/1293 (Cy.127). Back [4]
O.S. 2007/2425 (Cy.201). Back [5]