Gwnaed
16 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Medi 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 45D o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol â pharagraff 35(3), Tabl 1 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe'i cymeradwywyd drwy benderfyniad y Cynulliad.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Diddymu) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 1 Medi 2010.
2. Diddymir adrannau 45AB a 45AC(4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(3) mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2011 neu wedi hynny.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
16 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu adrannau 45AB a 45AC(4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Deddf 1998). Mewnosodwyd yr adrannau hynny gan Ddeddf Addysg 2005 ac roeddent yn ailddeddfu'r gofyniad ar awdurdodau lleol yng Nghymru i benderfynu ar eu cyllideb ysgolion yn flynyddol. Penderfynodd Gweinidogion Cymru ddefnyddio'u pwerau o dan adran 45AC o Ddeddf 1998 (fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf Addysg 2005) i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol osod eu cyllideb ysgolion mewn rheoliadau yn hytrach na dibynnu ar adran 45AB o Ddeddf 1998. Fe ddiddymir, felly, y darpariaethau hynny yn Neddf 1998 sy'n cynnwys y gofyniad i osod cyllidebau ysgolion yn flynyddol.