Gwnaed
11 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mawrth 2010
Yn dod i rym
9 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraffau 1 a 4(b) o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 9 Ebrill 2010.
2. Diwygir Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007(4) yn unol â rheoliadau 3 to 10.
3. Ym mharagraff (1) of reoliad 2 (dehongli)–
(a) yn union ar ôl y diffiniad o "techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn" mewnosoder y diffiniad canlynol–
"ystyr "triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig" ("authorised activated alumina treatment") yw–
triniaeth i ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid ohono, sydd wedi ei hawdurdodi yn unol ag Atodlen 1A; neu
yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr ffynnon a ddygir i mewn i Gymru o ran arall o'r Deyrnas Unedig neu o wladwriaeth arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, triniaeth sy'n cydymffurfio ag Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010;";
(b) yn union ar ôl y diffiniad o "potel" mewnosoder y diffiniad canlynol–
"ystyr "Rheoliad 115/2010" ("Regulation 115/2010") Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 115/2010 sy'n pennu'r amodau ar gyfer defnyddio alwmina actifedig i dynnu fflworid o ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon(5);";
(c) yn y diffiniad o "techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn" yn lle'r geiriau ""techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn"" rhodder ""techneg ocsidio awdurdodedig gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn"
4. Yn lle paragraff (1) o reoliad 6 (triniaethau i ddŵr mwynol naturiol ac ychwanegiadau ato) rhodder y paragraff canlynol–
"(1) O ran dŵr mwynol naturiol yn ei gyflwr wrth y tarddiad, ni chaiff neb–
(a) roi iddo unrhyw driniaeth ac eithrio –
(i) techneg ocsidio awdurdodedig gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn,
(ii) gwahanu ei elfennau ansefydlog, megis cyfansoddion haearn a sylffwr, drwy hidlo neu ardywallt, pa un a ocsigeneiddir ef yn gyntaf ai peidio, i'r graddau nad yw'r driniaeth yn newid cyfansoddiad y dŵr o ran yr ansoddau hanfodol sy'n rhoi iddo ei briodoleddau,
(iii) dileu'r carbon deuocsid rhydd yn llwyr neu'n rhannol drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol, neu
(iv) triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig; neu
(b) ychwanegu dim ato ac eithrio cyflwyno neu ailgyflwyno carbon deuocsid i gynhyrchu dŵr mwynol naturiol eferw.".
5. Yn union ar ôl paragraff (2) o reoliad 10 (potelu dŵr ffynnon a datblygu ffynhonnau dŵr ffynnon) mewnosoder y paragraff canlynol–
"(2A) Ni chaiff neb beri i unrhyw ddŵr, a driniwyd ag alwmina actifedig i dynnu fflworid ohono, gael ei botelu mewn potel sydd wedi'i marcio neu'i labelu fel "dŵr ffynnon" onid yw'r driniaeth honno yn driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig.".
6. Yn lle paragraff (3) o reoliad 16 (gorfodi) rhodder y paragraffau canlynol–
"(3) Rhaid i bob awdurdod perthnasol, o fewn ei ardal, gyflawni archwiliadau cyfnodol ar unrhyw driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig, y rhoddwyd yr awdurdodiad ar ei chyfer gan yr awdurdod hwnnw yn unol ag Atodlen 1A er mwyn sicrhau y parheir i fodloni gofynion yr Atodlen honno.
(4) Rhaid i bob awdurdod bwyd, o fewn ei ardal, weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(5) At y dibenion o gyflawni'r swyddogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (4) mewn perthynas â dŵr yfed a dŵr ffynnon wedi'i botelu, rhaid i bob awdurdod bwyd–
(a) yn ddarostyngedig i baragraff (6), fonitro ansawdd unrhyw ddŵr o'r fath yn rheolaidd, er mwyn gwirio–
(i) a yw'n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 98/83,
(ii) a yw'n cynnwys crynodiad neu werth ar gyfer unrhyw baramedr sydd uwchlaw'r crynodiad neu'r gwerth rhagnodedig,
(iii) a yw'n cynnwys crynodiad neu werth ar gyfer priodwedd, elfen, sylwedd neu organeb a bennir yn Atodlen 9 (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno) sydd uwchlaw'r crynodiad neu'r gwerth a bennir yn yr Atodlen honno mewn perthynas â'r briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb dan sylw, fel y'i mesurir yn ôl yr uned mesur a bennir felly,
(iv) pan fo awdurdod bwyd, yn unol ag is-baragraff (iii), yn canfod bod y dŵr dan sylw yn cynnwys crynodiad neu werth ar gyfer Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) sydd uwchlaw'r crynodiad neu'r gwerth a bennir mewn perthynas ag ef yn Atodlen 9 (fel y'i darllenir ynghyd â Nodyn 2 i'r Atodlen honno), a oes unrhyw berygl i iechyd dynol, sy'n codi o bresenoldeb micro-organebau pathogenig yn y dŵr, a
(v) pan fo diheintio yn rhan o baratoi neu ddosbarthu'r dŵr dan sylw, a yw'r driniaeth ddiheintio a roddir yn effeithlon, ac a gedwir yr halogi gan sgil-gynhyrchion diheintio mor isel ag y bo modd heb amharu ar effaith y diheintio.
(b) er mwyn cydymffurfio ag is-baragraff (a)–
(i) monitro yn rheolaidd drwy wiriadau y paramedrau, priodweddau, elfennau, sylweddau ac organebau a bennir yn Atodlen 10, (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno), a
(ii) monitro drwy archwiliad mewn perthynas ag unrhyw baramedr a'r priodweddau, elfennau, sylweddau ac organebau a bennir yn Atodlen 9, (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno);
(c) at ddibenion is-baragraff (b), cyflawni unrhyw samplu a dadansoddi yn unol â'r amlderau lleiaf perthnasol a bennir yn Atodlen 11; ac
(ch) cyflawni monitro ychwanegol mewn perthynas ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb nad yw'n baramedr nac yn briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb a bennir yn Atodlen 9, os oes rheswm gan yr awdurdod bwyd i amau y gall fod yn bresennol yn y dŵr dan sylw mewn maint neu nifer sy'n achosi perygl posibl i iechyd dynol.
(6) Rhaid cyflawni'r gwiriadau a'r monitro y cyfeirir atynt ym mharagraff (5)(a), (b) ac (ch) gan ddefnyddio samplau sy'n gynrychiadol o ansawdd y dŵr dan sylw a ddefnyddir drwy gydol y flwyddyn y cymerir y samplau ynddi.".
7. Yn lle rheoliad 20 (tramgwyddau a chosbau) rhodder y rheoliad canlynol–
20.–(1) Mae person yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os yw'r person hwnnw–
(a) yn mynd yn groes i reoliad 5, 6(1), 7(1), (3) neu (4), 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15 neu 22(3);
(b) yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o Reoliad 115/2010 a bennir ym mharagraff (2); neu
(c) yn cyflawni triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig sydd â'i heffaith yn ddiheintiol.
(2) Y darpariaethau yw–
(a) Erthygl 1.2 (gofyniad bod triniaethau awdurdodedig ag alwmina actifedig yn cael eu cyflawni yn unol â'r gofynion technegol a bennir yn yr Atodiad);
(b) y frawddeg gyntaf o Erthygl 2 (gofyniad bod maint y gweddillion a ryddheir i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr ffynnon o ganlyniad i unrhyw driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig mor isel ag y bo'n ddichonadwy yn dechnegol yn unol â'r arferion gorau, ac nad yw'n achosi risg i iechyd y cyhoedd);
(c) yr ail frawddeg o Erthygl 2 (gofyniad bod gweithredwyr, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r frawddeg gyntaf o Erthygl 2, yn cyflawni ac yn monitro'r camau prosesu critigol a bennir yn yr Atodiad);
(ch) Erthygl 3.1 (gofyniad i hysbysu'r awdurdodau cymwys ynghylch gweithredu triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig, dri mis, o leiaf, cyn defnyddio'r driniaeth); a
(d) Erthygl 4 fel y'i darllenir ynghyd ag ail baragraff Erthygl 5 (gofyniad, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol, bod y label ar ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr ffynnon y rhoddwyd unrhyw driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig iddo, yn cynnwys gwybodaeth benodedig, yn agos at y datganiad o'r cyfansoddiad dadansoddol).".
8. Yn union ar ôl Atodlen 1 (amodau ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn), mewnosoder yr Atodlen a bennir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
9. Yn union ar ôl Atodlen 8 (Mynegiadau labelu ar gyfer dŵr mwynol naturiol a meini prawf ar gyfer eu defnyddio) ychwaneger yr Atodlenni a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
10. Diwygir testun Cymraeg y prif Reoliadau fel a ganlyn–
(1) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o "dŵr yfed", yn lle'r geiriau ""dŵr ffynnon"" yn is-baragraff (b) rhodder y geiriau ""spring water"";
(2) Yn rheoliadau 2(1), 6(1)(a)(i), 8(2)(ch), 10(2), 11(3)(c) ac 16(2), yn lle'r geiriau "techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn" ym mha le bynnag y digwyddant, rhodder y geiriau "techneg ocsidio awdurdodedig gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn";
(3) Yn rheoliad 8(1)(dd), yn lle'r geiriau ""gall fod yn ddiwretig"" rhodder ""may be diuretic"" ac yn lle'r geiriau ""gall fod yn garthydd"" rhodder ""may be laxative"";
(4) Yn rheoliad 8(1)(e), yn lle'r geiriau ""mae'n ysgogi treuliad"" rhodder ""stimulates digestion"", ac yn lle'r geiriau ""gall hyrwyddo'r swyddogaethau hepato-bustlog"" rhodder ""may facilitate the hepato-biliary functions"";
(5) Yn rheoliad 9(1), yn lle'r cyfeiriad cyntaf at y geiriau ""dŵr mwynol naturiol"" rhodder y geiriau ""natural mineral water"";
(6) Yn rheoliad 10(1), yn lle'r geiriau "neu "dŵr ffynnon"" rhodder ""spring water"";
(7) Yn rheoliad 11(1), (2), (3) yn lle'r geiriau ""dŵr ffynnon"" rhodder y geiriau ""spring water"" ym mha le bynnag y digwyddant ac eithrio ym mhennawd y rheoliad;
(8) Yn rheoliad 12 yn lle ""dŵr ffynnon"" rhodder y geiriau ""spring water"" ym mha le bynnag y digwyddant ac eithrio ym mhennawd y rheoliad;
(9) Yn rheoliad 14(a)(ii) a (b)(ii), yn lle'r geiriau ""dŵr mwynol"" rhodder ""mineral water"";
(10) Ym mharagraff 5(3) o Atodlen 4 yn lle'r geiriau ""dŵr ffynnon"" rhodder ""spring water"".
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2010
Rheoliad 8
Rheoliadau 2(1) ac 16(3)
1. Rhaid i berson sy'n ceisio cael awdurdodiad ar gyfer triniaeth i ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid ohono–
(a) gwneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol yr echdynnir y dŵr yn ei ardal;
(b) caniatáu i gynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw archwilio'r dull o drin arfaethedig, a lleoliad y driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi yn unol â rheoliad 17; ac
(c) darparu pa bynnag wybodaeth, i gefnogi'r cais, y gofynnir amdani gan yr awdurdod perthnasol.
2. Rhaid i'r awdurdod perthnasol asesu'r cais ac unrhyw wybodaeth sydd yn ei feddiant a rhaid iddo awdurdodi'r driniaeth os bodlonir ef–
(a) y cydymffurfir ag Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010 mewn perthynas â'r driniaeth; a
(b) nad yw'r driniaeth yn cael effaith ddiheintiol.
3. Os bydd yr awdurdod perthnasol yn penderfynu awdurdodi triniaeth yn unol â pharagraff 2, rhaid iddo hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen a datgan y dyddiad pan fydd yr awdurdodiad ar gyfer defnydd masnachol o'r driniaeth yn effeithiol.
4. Os bydd yr awdurdod perthnasol yn gwrthod awdurdodi triniaeth yn unol â pharagraff 2, rhaid iddo hysbysu'r ceisydd mewn ysgrifen, gan ddatgan ei resymau.
5. Pan fo triniaeth wedi ei hawdurdodi yn unol â pharagraff 2, rhaid i'r person sy'n cyflawni'r driniaeth, er mwyn galluogi'r awdurdod perthnasol i asesu a yw'r amodau ym mharagraff (2) yn parhau i gael eu bodloni–
(a) caniatáu i gynrychiolwyr yr awdurdod archwilio'r dull o gyflawni'r driniaeth, a lleoliad y driniaeth a chymryd samplau ar gyfer eu dadansoddi yn unol â rheoliad 17; a
(b) darparu pa bynnag wybodaeth i gefnogi'r cais, y gofynnir amdani gan yr awdurdod perthnasol.
6. Os bodlonir yr awdurdod perthnasol nad yw'r amodau a bennir ym mharagraff 2 bellach yn cael eu cyflawni, caiff dynnu'n ôl awdurdodiad o driniaeth drwy roi i'r person sy'n gweithredu'r driniaeth honno hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y rhesymau dros dynnu'n ôl.
7. Pan fo'r awdurdod perthnasol wedi hysbysu ceisydd o dan baragraff 4 o'i wrthodiad i awdurdodi triniaeth o dan baragraff 2, neu os yw'n tynnu awdurdodiad o driniaeth yn ôl o dan baragraff 6, caniateir i'r person sy'n dymuno cyflawni'r driniaeth wneud cais i'r Asiantaeth am adolygiad o'r penderfyniad hwnnw.
8. Pan ddaw cais am adolygiad i law'r Asiantaeth rhaid iddi –
(a) wneud pa bynnag ymholiad ynglŷn â'r mater ag a fydd yn ymddangos yn briodol i'r Asiantaeth; a
(b) ar ôl ystyried canlyniadau'r ymholiad hwnnw ac unrhyw ffeithiau perthnasol a ddatgelir yn ei sgil, naill ai cadarnhau'r penderfyniad, neu gyfarwyddo'r awdurdod perthnasol i ganiatáu neu adfer, yn ôl fel y digwydd, awdurdodiad ar gyfer y driniaeth y gwnaed y cais ynglŷn â hi.
9. Yn achos cyfarwyddyd o'r fath, rhaid i'r awdurdod perthnasol gydymffurfio â'r cyfarwyddyd hwnnw.".
Rheoliad 9
Rheoliad 16(5)(a)(iii), (b)(ii) ac (ch)
Priodwedd, elfen, sylwed neu organeb | Crynodiad neu werth | Uned | Nodiadau |
---|---|---|---|
Amoniwm | 0.50 | mg/l | |
Clorid | 250 | mg/l | Nodyn 1 |
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) | 0 | nifer/ 100 ml | Nodyn 2 |
Dargludedd | 2500 | μS cm-1 ar 20oC | Nodyn 1 |
Haearn | 200 | μg/l | |
Ocsidiadwyedd | 5.0 | mg/ l O2 | Nodyn 3 |
Bacteria colifform | 0 | nifer/ 250 ml | |
Cyfanswm carbon organig (CCO) | Dim newid annormal | Nodyn 4 |
Nodyn 1: | Ni ddylai'r dŵr fod yn ymosodol. |
Nodyn 2: | Nid oes angen mesur y paramedr hwn ac eithrio pan fo'r dŵr yn tarddu o ddŵr wyneb neu y dylanwadwyd arno gan ddŵr wyneb |
Nodyn 3: | Nid oes angen mesur y paramedr hwn os dadansoddir y paramedr CCO. |
Nodyn 4: | Nid oes angen cymhwyso'r paramedr hwn yn achos cyflenwadau o lai na 10000 m3 /diwrnod. |
Rheoliad 16(5)(b)(i)
Alwminiwm (Nodyn 1)
Amoniwm
Lliw
Dargludedd
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) (Nodyn 2)
Escherichia coli (E. Coli)
Crynodiad ïonau hydrogen
Haearn (Nodyn 1)
Nitraid (Nodyn 3)
Arogl
Pseudomonas aeruginosa
Blas
Cyfrifau cytrefi ar 22°C a 37°C
Bacteria colifform
Cymylogrwydd
Nodyn 1: Angenrheidiol yn unig pan ddefnyddir ef fel clystyrydd
Nodyn 2: Angenrheidiol yn unig os yw'r dŵr yn tarddu o ddŵr wyneb neu y dylanwadwyd arno gan ddŵr wyneb
Nodyn 3: Angenrheidiol yn unig pan ddefnyddir cloramineiddio i ddiheintio
Rheoliad 16(5)(c)
Cyfaint y dŵr a gynhyrchir i'w gynnig ar werth mewn poteli neu gynwysyddion bob diwrnod a m3 | Monitro drwy wiriadau: nifer o samplau bob blwyddyn | Monitro drwy archwiliad: nifer o samplau bob blwyddyn |
---|---|---|
a
Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaleddau dros flwyddyn galendr. |
||
≤ 10 | 1 | 1 |
> 10 ≤ 60 | 12 | 1 |
> 60 | 1 am pob 5m3 a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint | 1 am pob 100m3 a rhan o hynny yn y cyfanswm cyfaint |
.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3165 (Cy. 276)), ("y prif Reoliadau") (fel y'i diwygiwyd eisoes).
1. Mae'r Rheoliadau hyn–
(a) yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi, o ran Cymru, Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 115/2010 sy'n pennu'r amodau ar gyfer defnyddio alwmina actifedig i dynnu fflworid o ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon (OJ Rhif L37, 10.2.2010 t.13); a
(b) yn gweithredu, o ran Cymru, Erthygl 7.1 i 3 a 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC sy'n ymwneud ag ansawdd dŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl (OJ Rhif L330, 3.11.98, t.32).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau drwy–
(a) mewnosod diffiniadau o "triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig", "Rheoliad 115/2010" ac amnewid rhai geiriau yn y diffiniad o "techneg ocsidio awdurdodedig gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn" ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) (rheoliad 3);
(b) rhoi fersiwn ddiwygiedig yn lle paragraff (1) o reoliad 6 (triniaethau i ddŵr mwynol naturiol ac ychwanegiadau ato) er mwyn ychwanegu triniaethau awdurdodedig ag alwmina actifedig at y rhestr o driniaethau y ceir eu rhoi yn gyfreithlon i ddŵr ffynnon naturiol (rheoliad 4);
(c) ychwanegu paragraff at reoliad 10 (potelu dŵr ffynnon a datblygu ffynhonnau dŵr ffynnon) sy'n gwahardd potelu dŵr, a driniwyd ag alwmina actifedig i dynnu fflworid ohono, mewn potel sydd wedi'i marcio neu'i labelu fel "dŵr ffynnon" onid yw'r driniaeth yn driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig (rheoliad 5);
(ch) yn lle paragraff (3) o reoliad 16 (gorfodi), gosod paragraffau (3) i (6) newydd er mwyn–
(i) gwneud yn ofynnol bod awdurdodau perthnasol yn cyflawni gwiriadau cyfnodol ar y triniaethau awdurdodedig ag alwmina actifedig a awdurdodwyd ganddynt yn unol â'r Atodlen 1A newydd, er mwyn sicrhau y parheir i fodloni gofynion yr Atodlen honno,
(ii) gwneud yn ofynnol bod awdurdodau bwyd yn monitro ansawdd dŵr yfed a dŵr ffynnon sydd wedi ei botelu, yn rheolaidd at ddibenion penodedig,
(iii) er mwyn cydymffurfio â'r gofyniad hwnnw, gwneud yn ofynnol bod awdurdodau bwyd–
(aa) yn monitro drwy wiriadau rheolaidd mewn perthynas â'r paramedrau, priodweddau, elfennau, sylweddau ac organebau yn yr Atodlen 10 newydd,
(bb) yn monitro drwy archwiliad mewn perthynas ag unrhyw baramedr a'r priodweddau, elfennau, sylweddau ac organebau yn yr Atodlen 9 newydd, ac
(cc) at y diben hwnnw, cyflawni unrhyw samplu a dadansoddi yn unol â'r amlderau lleiaf perthnasol a bennir yn yr Atodlen 11 newydd, a
(iv) gwneud yn ofynnol bod awdurdodau bwyd yn cyflawni monitro ychwanegol mewn perthynas ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb nad yw'n baramedr nac yn briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb a bennir yn yr Atodlen 9 newydd, os oes rheswm i amau y gall fod yn bresennol yn y dŵr dan sylw mewn maint neu nifer sy'n achosi perygl posibl i iechyd dynol (rheoliad 6);
(d) rhoi rheoliad diwygiedig yn lle rheoliad 20 (tramgwyddau a chosbau) er mwyn gwneud yn dramgwydd peidio â chydymffurfio â darpariaethau penodedig o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 115/2010 neu gyflawni triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig sydd â'i heffaith yn ddiheintiol (rheoliad 7);
(dd) mewnosod Atodlenni 1A, 9, 10 ac 11 newydd (rholiadau 8 a 9); ac
(e) mewnosod disgrifiadau labeli Saesneg mewn amryw rannau o'r fersiwn Gymraeg o'r prif Reoliadau (rheoliad 10).
3. Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, oherwydd na ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau cyhoeddus na gwirfoddol.
1990 p. 16; disodlwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o "bwyd") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), "Deddf 1999". Cafodd adran 48 hefyd ei diwygio gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p. 40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [2]
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 202/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch nifer ac enwau Panelau Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L60, 5.3.2008, t.17). Back [3]
O.S.2007/3165 (Cy.276), fel y'i diwygiwyd gan. O.S. 2009/1897 (Cy.170). Back [4]
OJ Rhif L 37, 10.2.2010 t.13. Back [5]