Gwnaed
11 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mawrth 2010
Yn dod i rym
2 Ebrill 2010
6. Aelodaeth panel ar gyfer adolygu penderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu
7. Aelodaeth panel ar gyfer adolygu penderfyniad ar ddatgelu
12. Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu
13. Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar ddatgelu
14. Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar faethu
24. Diwygio rheoliad 24 o'r Rheoliadau Maethu – sefydlu panel maethu
25. Diwygio rheoliad 26 o'r Rheoliadau Maethu – swyddogaethau'r panel maethu
26. Amnewid rheoliadau 28 a 29 o'r Rheoliadau Maethu – cymeradwyo rhieni maeth
27. Diwygio'r Rheoliadau Maethu – dyletswydd i anfon gwybodaeth at Weinidogion Cymru
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 9, 12 a 142(5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1), adrannau 23(2) a (9) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(2) a pharagraff 12A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno ac adrannau 22(1) a 118(1) a (5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(3), yn gwneud y Rheoliadau canlynol –
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010.
(2) Deuant i rym ar 2 Ebrill 2010.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn –
ystyr "adroddiad darpar fabwysiadydd" ("prospective adopter´s report") yw adroddiad a baratowyd yn unol â rheoliad 26 o'r Rheoliadau Asiantaethau;
ystyr "ceisydd" ("applicant")–
yn achos penderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu, yw darpar fabwysiadydd;
yn achos penderfyniad ar ddatgelu, yw person perthnasol o fewn ystyr "relevant person" yn rheoliad 13A(7) o'r Rheoliadau Datgelu;
yn achos penderfyniad ar faethu, yw person y rhoddwyd hysbysiad iddo at ddibenion rheoliad 28(6)(a) o'r Rheoliadau Maethu;
mae i "darparydd gwasanaeth maethu" ("fostering service provider") yr ystyr a roddir i "fostering service provider" yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Maethu;
ystyr "Deddf 1989" ("the 1989 Act") yw Deddf Plant 1989;
ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn wyl y banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4);
ystyr "gweithiwr cymdeithasol" ("social worker") yw person a gofrestrwyd yn weithiwr cymdeithasol ar gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol neu Gyngor Gofal Cymru o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 neu ar gofrestr gyfatebol a gynhelir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
ystyr "panel mabwysiadu" ("adoption panel") yw panel a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 3 o'r Rheoliadau Asiantaethau;
ystyr "panel" ("panel") yw panel a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 6, 7 neu 8, yn ôl fel y digwydd;
ystyr "panel maethu" ("fostering panel") yw panel a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 24 o'r Rheoliadau Maethu;
ystyr "penderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu" ("adoption suitability determination") yw penderfyniad cymhwysol a ddisgrifir yn rheoliad 3(a);
ystyr "penderfyniad ar ddatgelu" ("disclosure determination") yw penderfyniad cymhwysol a ddisgrifir yn rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu(5);
ystyr "penderfyniad ar faethu" ("fostering determination") yw penderfyniad cymhwysol o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 4;
ystyr "penderfyniad cymhwysol" ("qualifying determination") yw penderfyniad a ddisgrifir yn rheoliadau 3 a 4;
ystyr "Rheoliadau Adolygu Annibynnol 2006" ("the Independent Review Regulations 2006") yw Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006(6);
ystyr "y Rheoliadau Asiantaethau" ("the Agencies Regulation") yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(7);
ystyr "y Rheoliadau Datgelu" ("the Disclosure Regulations") yw Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005(8);
ystyr "y Rheoliadau Maethu" ("the Fostering Regulations") yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(9);
mae "y rhestr ganolog" ("the central list") i'w dehongli yn unol â rheoliad 5;
mae i "rhiant maeth" ("foster parent") yr ystyr a roddir i "foster parent" yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Maethu; ac
ystyr "sefydliad" ("organisation") yw asiantaeth fabwysiadu neu ddarparydd gwasanaeth maethu, yn ôl fel y digwydd.
3. At ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf, penderfyniad cymhwysol yw –
(a) penderfyniad a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu yn unol â'r Rheoliadau Asiantaethau fel a ganlyn –
(i) pan, yn unol â rheoliad 28(4) o'r Rheoliadau Asiantaethau, nad yw'r asiantaeth yn bwriadu cymeradwyo darpar fabwysiadydd fel un sy'n addas i fod yn rhiant mabwysiadol,
(ii) pan fo'r asiantaeth o'r farn nad yw darpar fabwysiadydd yn addas mwyach i fod yn rhiant mabwysiadol yn dilyn adolygiad o dan reoliad 30 o'r Rheoliadau Asiantaethau; neu
(b) penderfyniad a ddisgrifir yn rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu.
4. At ddibenion paragraff 12A(2)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1989, y disgrifiadau o benderfyniadau a ragnodir yw'r canlynol –
(a) penderfyniad (ac eithrio penderfyniad a wnaed yn unol â rheoliad 27(6) o'r Rheoliadau Maethu) bod y darparydd gwasanaeth maethu yn bwriadu peidio â chymeradwyo person fel un sy'n addas i fod yn rhiant maeth yn unol â rheoliad 28(6) o'r Rheoliadau Maethu, a
(b) penderfyniad (ac eithrio penderfyniad a wnaed yn unol â rheoliad 27(6) o'r Rheoliadau Maethu) bod y darparydd gwasanaeth maethu yn bwriadu terfynu, neu adolygu telerau, cymeradwyaeth person fel un sy'n addas i weithredu fel rhiant maeth yn unol â rheoliad 29(7) o'r Rheoliadau Maethu, pan roddir hysbysiad o'r penderfyniad ar neu ar ôl 2 Ebrill 2010.
5.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, ar ôl cael cais a wnaed gan geisydd yn unol â rheoliad 19, gyfansoddi panel yn unol â rheoliad 6, 7 neu 8, yn ôl fel y digwydd, at y diben o adolygu'r penderfyniad cymhwysol.
(2) Rhaid dewis aelodau'r panel oddi ar restr o bersonau (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel "y rhestr ganolog") a gedwir gan Weinidogion Cymru, o bersonau a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn addas, yn rhinwedd eu sgiliau, cymwysterau neu brofiad, i fod yn aelodau o banel.
(3) Rhaid i aelodau o'r rhestr ganolog gynnwys –
(a) gweithwyr cymdeithasol sydd â thair blynedd, o leiaf, o brofiad, ar ôl cymhwyso, o waith mabwysiadu a lleoli mewn teuluoedd;
(b) gweithwyr cymdeithasol sydd â thair blynedd, o leiaf, o brofiad ar ôl cymhwyso, o waith cymdeithasol ynglŷn â gofal plant, gan gynnwys profiad uniongyrchol o waith maethu;
(c) ymarferwyr meddygol cofrestredig; ac
(ch) personau eraill a ystyrir gan Weinidogion Cymru yn addas i fod yn aelodau o banel, gan gynnwys, pan fo'n rhesymol ymarferol, personau sydd â phrofiad personol o fabwysiadu, a phersonau sydd, neu a fu o fewn y ddwy flynedd flaenorol, yn rhiant maeth awdurdod lleol.
6. Pan fo'r penderfyniad cymhwysol a adolygir yn benderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu, y nifer o bobl y mae'n rhaid eu penodi'n aelodau o banel yw pump, a rhaid i'r panel gynnwys o leiaf –
(a) dau berson sy'n dod o fewn rheoliad 5(3)(a);
(b) un person sy'n dod o fewn rheoliad 5(3)(c); ac
(c) dau berson arall o'r rhestr ganolog, gan gynnwys pan fo'n rhesymol ymarferol, o leiaf un person sydd â phrofiad personol o fabwysiadu.
7. Pan fo'r penderfyniad cymhwysol a adolygir yn benderfyniad ar ddatgelu, y nifer o bobl y mae'n rhaid eu penodi'n aelodau o banel yw pump, a rhaid i'r panel gynnwys o leiaf –
(a) dau berson sy'n dod o fewn rheoliad 5(3)(a); a
(b) tri pherson o'r rhestr ganolog.
8. Pan fo'r penderfyniad cymhwysol a adolygir yn benderfyniad ar faethu, y nifer o bobl y mae'n rhaid eu penodi'n aelodau o banel yw pump, a rhaid i'r panel gynnwys o leiaf –
(a) dau berson sy'n dod o fewn rheoliad 5(3)(b); a
(b) tri pherson arall o'r rhestr ganolog, gan gynnwys pan fo'n rhesymol ymarferol, un person sydd, neu a fu yn ystod y ddwy flynedd flaenorol, yn rhiant maeth awdurdod lleol.
9.–(1) Rhaid i banel gael ei gynghori gan weithiwr cymdeithasol sydd â chymwysterau, sgiliau a phrofiad priodol.
(2) Caiff panel, os yw'r panel yn ystyried hynny'n briodol, ei gynghori gan –
(a) cynghorwr cyfreithiol sydd â gwybodaeth ac arbenigedd yn nefddwriaeth mabwysiadu a maethu;
(b) ymarferydd meddygol cofrestredig sydd ag arbenigedd perthnasol mewn gwaith mabwysiadu neu faethu, pan un bynnag sy'n briodol i'r penderfyniad cymhwysol dan ystyriaeth;
(c) unrhyw berson arall sydd, ym marn y panel, ag arbenigedd perthnasol i'r penderfyniad dan ystyriaeth.
(3) Rhaid i'r cynghorwyr panelau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) fod yn aelodau o'r rhestr ganolog.
10. Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person yn gadeirydd panel, sydd â'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i gadeirio panel.
11.–(1) Rhaid peidio â phenodi person ("P") yn aelod o banel –
(a) os yw'r person hwnnw'n aelod o banel mabwysiadu, neu o banel maethu, y sefydliad a wnaeth y penderfyniad cymhwysol;
(b) pan fo'r sefydliad a wnaeth y penderfyniad cymhwysol yn awdurdod lleol, os yw P ar y pryd, neu os bu yn ystod y cyfnod o un flwyddyn cyn y dyddiad pan wnaed y penderfyniad cymhwysol –
(i) yn gyflogedig gan yr awdurdod hwnnw yn eu gwasanaethau cymdeithasol plant a theuluoedd, neu
(ii) yn aelod o'r awdurdod hwnnw;
(c) pan nad yw'r sefydliad a wnaeth y penderfyniad cymhwysol yn awdurdod lleol, os yw P, ar y pryd neu os bu yn ystod y cyfnod o un flwyddyn cyn y dyddiad pan wnaed y penderfyniad cymhwysol, yn gyflogai neu ymddiriedolwr y sefydliad hwnnw;
(ch) os yw P yn berthynas i berson sy'n dod o fewn is-baragraff (a), (b) neu (c);
(d) os yw'r sefydliad a wnaeth y penderfyniad cymhwysol wedi lleoli plentyn gyda P ar gyfer ei fabwysiadu, neu wedi lleoli plentyn gyda P fel rhiant maeth awdurdod lleol;
(e) pan fo P wedi ei fabwysiadu neu'i faethu pan oedd yn blentyn, os y sefydliad a wnaeth y penderfyniad cymhwysol oedd y sefydliad a drefnodd i fabwysiadu neu faethu P; neu
(f) os yw P yn adnabod y ceisydd yn bersonol neu yn rhinwedd ei broffesiwn.
(2) Yn y rheoliad hwn –
(a) mae "cyflogedig" ("employee") yn cynnwys cyflogedig pa un a dderbynnir tâl ai peidio a pha un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau neu fel gwirfoddolwr; a
(b) mae P yn berthynas i berson arall ("A") os yw P –
(i) yn aelod o aelwyd A, neu'n briod ag A neu'n bartner sifil i A;
(ii) yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i A; neu
(iii) yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i'r person sy'n briod ag A neu sydd wedi ffurfio partneriaeth sifil gydag A.
12.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r penderfyniad cymhwysol a adolygir yn benderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu.
(2) Rhaid i banel a gyfansoddir yn unol â rheoliad 6 adolygu'r penderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu ac –
(a) pan fo paragraff (3) yn gymwys, gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol ynglŷn ag a yw'r ceisydd yn addas ai peidio i fabwysiadu plentyn; neu
(b) pan fo paragraff (4) yn gymwys, cyflwyno i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol argymhelliad-
(i) y dylai'r asiantaeth baratoi adroddiad darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliad 26(4), a phan fo'n gymwys, rheoliad 26(5) o'r Rheoliadau Asiantaethau, a fyddai'n cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol gan y rheoliad hwnnw; neu
(ii) nad yw'r ceisydd yn addas i fabwysiadu plentyn.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r adroddiad darpar fabwysiadydd yn cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol gan reoliad 26(4), a phan fo'n gymwys, rheoliad 26(5) o'r Rheoliadau Asiantaethau.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan nad oedd adroddiad y darpar fabwysiadydd, yn unol â rheoliad 26(4), a phan fo'n gymwys rheoliad 26(5), o'r Rheoliadau Asiantaethau yn cynnwys yr holl wybodaeth a oedd yn ofynnol gan reoliad 26(4) neu, os yw'n gymwys, rheoliad 26(5) o'r Rheoliadau Asiantaethau.
(5) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud -
(a) rhaid i'r panel bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a basiwyd ymlaen iddo yn unol â rheoliad 29 o'r Rheoliadau Asiantaethau;
(b) caiff y panel ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu gaffael unrhyw wybodaeth berthnasol arall a ystyrir yn angenrheidiol gan y panel, neu darparu unrhyw gymorth arall y gofynnir amdano gan y panel; ac
(c) caiff y panel gaffael unrhyw gyngor yr ystyria'n angenrheidiol ynglŷn â'r achos, gan y cynghorwyr y cyfeirir atynt yn rheoliad 9.
(6) Pan fo'r panel yn gwneud argymhelliad i'r perwyl bod y ceisydd yn addas i fabwysiadu plentyn, caiff y panel ystyried y nifer o blant y gallai'r ceisydd fod yn addas i'w mabwysiadu, eu hystod oedran, eu rhyw, eu hanghenion tebygol a'u cefndir, a chynghori'r asiantaeth fabwysiadu ynglŷn â hynny.
13.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r penderfyniad cymhwysol a adolygir yn benderfyniad ar ddatgelu.
(2) Rhaid i banel a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 7 adolygu'r penderfyniad ar ddatgelu, a chyflwyno i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad ar ddatgelu argymhelliad ynglŷn ag a ddylai'r asiantaeth fynd ymlaen â'i benderfyniad gwreiddiol ai peidio.
(3) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud -
(a) rhaid i'r panel bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a basiwyd ymlaen iddo yn unol â rheoliad 13A o'r Rheoliadau Datgelu;
(b) caiff y panel ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu gaffael unrhyw wybodaeth berthnasol arall a ystyrir yn angenrheidiol gan y panel, neu darparu unrhyw gymorth arall y gofynnir amdano gan y panel;
(c) caiff y panel fanteisio ar unrhyw gyngor yr ystyria'n angenrheidiol ynglŷn â'r achos, gan y cynghorwyr y cyfeirir atynt yn rheoliad 9; ac
(ch) rhaid i'r panel ystyried lles unrhyw berson a fabwysiedir, ac os yw'r person yn blentyn mabwysiedig rhaid rhai'r rhoi'r lle blaenaf i les y plentyn hwnnw. Yn achos unrhyw blentyn arall, rhaid i'r panel roi sylw penodol i'w les.
14.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r penderfyniad cymhwysol a adolygir yn benderfyniad ar faethu.
(2) Rhaid i banel a gyfansoddir yn unol â rheoliad 8 adolygu'r penderfyniad ar faethu, a chyflwyno i'r darparydd gwasanaeth maethu a wnaeth y penderfyniad ar faethu –
(a) argymhelliad ynglŷn ag a yw'r ceisydd yn addas ai peidio i weithredu fel rhiant maeth; neu
(b) pan fo'r penderfyniad cymhwysol yn ymwneud â thelerau cymeradwyaeth y ceisydd fel rhywun addas i weithredu fel rhiant maeth, argymhelliad i'r darparydd gwasanaeth maethu ynglŷn â'r telerau hynny.
(3) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud -
(a) rhaid i'r panel bwyso a mesur yr holl wybodaeth a basiwyd ymlaen iddo yn unol â rheoliad 29A o'r Rheoliadau Maethu;
(b) caiff y panel ofyn i'r darparydd gwasanaeth maethu gaffael unrhyw wybodaeth berthnasol arall a ystyrir yn angenrheidiol gan y panel, neu darparu unrhyw gymorth arall y gofynnir amdano gan y panel; ac
(c) caiff y panel gaffael unrhyw gyngor yr ystyria'n angenrheidiol ynglŷn â'r achos, gan y cynghorwyr y cyfeirir atynt yn rheoliad 9.
(4) Pan fo'r panel yn gwneud argymhelliad i'r perwyl bod y ceisydd yn addas i weithredu fel rhiant maeth, caiff y panel hefyd wneud argymhelliad i'r darparydd gwasanaeth maethu ynglŷn â thelerau unrhyw gymeradwyaeth.
15.–(1) Caiff y panel ohirio gwrandawiad gan y panel yn yr amgylchiadau canlynol –
(a) pan fo'r panel o'r farn bod yr wybodaeth sydd ganddo'n annigonol i'w alluogi i wneud argymhelliad i'r sefydliad perthnasol yn unol â rheoliadau 12(2), 13(2) ac 14(2); a
(b) pan fo'r panel yn dymuno gofyn am wybodaeth bellach.
(2) Rhaid ailgynnull y panel cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol pan fydd yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) ar gael, ond ddim hwyrach beth bynnag na 28 diwrnod calendr ar ôl dyddiad y gwrandawiad a ohiriwyd gan y panel
16. Rhaid i'r panel gael ei weinyddu gan Weinidogion Cymru, a rhaid iddynt wneud darpariaeth addas ar gyfer trefniadau clercio i'r panel.
17. Caiff Gweinidogion Cymru dalu i unrhyw aelod o banel unrhyw ffioedd a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru.
18. Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y delir gafael ar gofnod ysgrifenedig o adolygiad panel o benderfyniad cymhwysol, gan gynnwys y rhesymau dros argymhelliad y panel, ac a oedd yr argymhelliad yn unfrydol ynteu'n argymhelliad mwyafrif –
(a) am gyfnod o 5 mlynedd o'r dyddiad y gwneir yr argymhelliad; a
(b) o dan amodau diogelwch priodol.
19.–(1) Rhaid i gais i Weinidogion Cymru am adolygiad o benderfyniad cymhwysol gael ei wneud gan y ceisydd mewn ysgrifen, a rhaid iddo gynnwys y sail dros ei wneud.
(2) Yn achos penderfyniad ar addasrwydd i fabwysiadu yn unig, caiff darpar fabwysiadydd, o fewn cyfnod o 40 diwrnod gwaith sy'n dechrau gyda'r dyddiad yr anfonodd yr asiantaeth fabwysiadu yr hysbysiad o'r penderfyniad cymhwysol mewn perthynas â'r darpar fabwysiadydd, wneud cais i Weinidogion Cymru am i banel gael ei gyfansoddi i adolygu'r penderfyniad hwnnw.
20.–(1) Ar ôl cael cais a wnaed yn unol â rheoliad 19, rhaid i Weinidogion Cymru -
(a) o fewn 5 diwrnod gwaith, hysbysu'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol fod y cais wedi'i wneud, drwy anfon copi o'r cais at yr asiantaeth;
(b) o fewn 5 diwrnod gwaith, anfon cydnabyddiaeth ysgrifenedig o'r cais at y ceisydd, a'i hysbysu o'r camau a gymerwyd o dan is-baragraff (a);
(c) o fewn 25 diwrnod gwaith, penodi panel yn unol â rheoliad 5 a phennu dyddiad, amser a lleoliad i'r panel gyfarfod at ddibenion cyfarfod adolygu ("cyfarfod adolygu");
(ch) Ar ôl cymryd y camau a ragnodwyd yn is-baragraff (c), ac o fewn dim llai na 5 diwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer adolygu, hysbysu mewn ysgrifen y ceisydd a'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol –
(i) o'r ffaith bod y panel wedi'i benodi; a
(ii) o ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod adolygu.
(2) Ni chaiff y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad fod yn hwyrach na 3 mis ar ôl i'r cais ddod i law Gweinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y panel yn cael yr holl bapurau perthnasol sy'n ymwneud â'r adolygiad cyn gynted ag y bo modd, ond beth bynnag ym mhen dim llai na 5 diwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer yr adolygiad.
21. Rhaid i'r sefydliad a wnaeth y penderfyniad cymhwysol ddarparu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, unrhyw wybodaeth a chymorth y gofynnir amdanynt gan y panel o dan reoliad 12, 13, 14 neu 15, yn ôl fel y digwydd.
22.–(1) Pan na fydd argymhelliad y panel yn unfrydol, rhaid i'r argymhelliad fod yn argymhelliad y mwyafrif.
(2) Caniateir i'r argymhelliad naill ai gael ei wneud a'i gyhoeddi ar ddiwedd yr adolygiad, neu ei gadw yn ôl.
(3) Rhaid i'r argymhelliad a'r rhesymau drosto, a pha un a oedd yr argymhelliad yn unfrydol ynteu'n argymhelliad mwyafrif, gael eu cofnodi'n ddi-oed mewn dogfen sydd i'w llofnodi a'i dyddio gan y cadeirydd.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddi-oed a ddim hwyrach beth bynnag na 10 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y gwneir yr argymhelliad, anfon copi o'r argymhelliad a'r rhesymau drosto at y ceisydd ac at yr asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol.
23. Rhaid i'r sefydliad a wnaeth y penderfyniad cymhwysol dalu i Weinidogion Cymru pa bynnag gostau mewn cysylltiad â'r adolygiad o'r penderfyniad cymhwysol hwnnw ag a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru.
24.–(1) Diwygir rheoliad 24 o'r Rheoliadau Maethu fel a ganlyn:
(2) Ym mharagraff (3)(b)(i) ar ôl 'unigolyn hwnnw' mewnosoder "neu gyflogai'r asiantaeth sy'n ymwneud â rheolaeth yr asiantaeth neu, pan nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, person arall (nad oes rhaid iddo fod yn gyflogai'r asiantaeth) sydd â phrofiad o ddarparu gwasanaeth maethu".
(3) Yn lle paragraff (6) rhodder–
"(6) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6A) a (6B)–
(a) caiff aelod o banel maethu ddal ei swydd am gyfnod na fydd yn hwy na thair blynedd; a
(b) ni chaiff neb ddal swydd fel aelod o banel maethu yr un darparydd gwasanaeth maethu am fwy na thri thymor heb gyfnod cyfamserol".
(4) Ar ôl paragraff (6) mewnosoder–
"(6A) Pan fo –
(a) aelod o'r panel maethu yn dal swydd fel aelod o'r panel maethu hwnnw yn unol â pharagraff 3(b)(i) ac yntau yn ei ail dymor mewn swydd yn olynol fel aelod o'r panel maethu hwnnw; a
(b) y tymor mewn swydd hwnnw i fod i ddod i ben ar neu ar ôl 2 Ebrill 2010, caiff yr aelod hwnnw barhau i ddal swydd fel aelod o'r panel maethu hwnnw am gyfnod pellach na fydd yn hwy na 12 mis.".
(5) Ar ôl paragraff (6A) mewnosoder–
"(6B) Pan fo tymor mewn swydd aelod o banel wedi ei estyn am gyfnod pellach o dan baragraff (6A) a'r aelod hwnnw o'r panel yn cael ei benodi am drydydd cyfnod mewn swydd heb gyfnod cyfamserol, ni chaiff y tymor mewn swydd hwnnw fod yn hwy na chyfnod o dair blynedd llai cyfnod sy'n hafal i'r estyniad a wnaed i'r ail gyfnod.
(6C) At ddibenion paragraffau (6) a (6B), ystyr "cyfnod cyfamserol" ("intervening period") yw cyfnod di-dor o dair blynedd o leiaf, pan nad oedd yr unigolyn dan sylw, drwy gydol y cyfnod, yn aelod o'r panel maethu.".
25. Yn rheoliad 26 o'r Rheoliadau Maethu, ar ôl paragraff (1), mewnosoder–
"(1A) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud o dan baragraff (1)–
(a) rhaid i'r panel maethu bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a basiwyd ymlaen iddo yn unol â rheoliad 27, 28 neu 29, yn ôl fel y digwydd;
(b) caiff y panel maethu ofyn i'r darparydd gwasanaeth maeth gaffael unrhyw wybodaeth berthnasol arall a ystyrir yn angenrheidiol gan y panel maethu, neu darparu unrhyw gymorth arall y gofynnir amdano gan y panel; ac
(c) caiff y panel maethu gaffael unrhyw gyngor cyfreithiol neu gyngor meddygol yr ystyria'n angenrheidiol mewn perthynas â'r achos.
(1B) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gaffael pa bynnag wybodaeth a ystyrir yn angenrheidiol gan y panel maethu, anfon yr wybodaeth honno ymlaen at y panel, a darparu pa bynnag gymorth arall y gofynnir amdano gan y panel, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol.".
26. Yn lle rheoliadau 28 a 29 o'r Rheoliadau Maethu, rhodder –
28.–(1) Rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu beidio â chymeradwyo person sydd wedi'i gymeradwyo fel rhiant maeth gan ddarparydd gwasanaeth maethu arall, ac nad yw ei gymeradwyaeth wedi'i therfynu.
(2) Rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu beidio â chymeradwyo person fel rhiant maeth–
(a) oni fydd wedi cwblhau ei asesiad o addasrwydd y person hwnnw; a
(b) oni fydd ei banel maethu wedi ystyried y cais.
(3) Rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu, wrth benderfynu a ddylid cymeradwyo person fel rhiant maeth a phenderfynu ynghylch telerau unrhyw gymeradwyaeth, gymryd i ystyriaeth argymhelliad ei banel maethu.
(4) Ni chaiff unrhyw aelod o'i banel maethu gymryd rhan mewn unrhyw benderfyniad a wneir gan ddarparydd gwasanaeth maethu o dan baragraff (3).
(5) Os yw darparydd gwasanaeth maethu yn penderfynu cymeradwyo person fel rhiant maeth rhaid iddo –
(a) rhoi i'r person hwnnw hysbysiad ysgrifenedig sy'n pennu telerau'r gymeradwyaeth, er enghraifft, a yw'r gymeradwyaeth yn ymwneud â phlentyn neu blant penodol a enwir, neu â nifer ac ystod oedran plant, neu â lleoliadau o unrhyw fath penodol, neu a yw'n gymeradwyaeth o dan unrhyw amgylchiadau penodol; a
(b) gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda'r person hwnnw sy'n ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 5 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel y "cytundeb gofal maeth").
(6) Os yw darparydd gwasanaeth maethu o'r farn nad yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth rhaid iddo, yn ddarostyngedig i baragraff (7) –
(a) rhoi i'r person hwnnw hysbysiad ysgrifenedig i'r perwyl ei fod yn bwriadu peidio â'i gymeradwyo fel person addas i fod yn rhiant maeth (sef ei "benderfyniad"), ynghyd â'i resymau a chopi o argymhelliad y panel maethu; a
(b) hysbysu'r person hwnnw y caiff, o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad –
(i) cyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig y dymuna'r person hwnnw eu gwneud i'r darparydd gwasanaeth maethu, neu
(ii) gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o'r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol.
(7) Nid yw paragraff (6)(b)(ii) yn gymwys mewn achos pan fo'r darparydd gwasanaeth maethu yn ystyried yn unol â rheoliad 27(6) nad yw'r person yn addas i weithredu fel rhiant maeth.
(8) O fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b) –
(a) os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau; a
(b) os nad yw'r person yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o'r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol,
caiff y darparydd gwasanaeth maethu fynd ymlaen i wneud ei benderfyniad.
(9) Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b), rhaid iddo –
(a) gyfeirio'r achos at y panel maethu i'w ystyried ymhellach; a
(b) gwneud ei benderfyniad, gan ystyried unrhyw argymhelliad newydd a wneir gan y panel maethu.
(10) Os yw'r person, o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b) yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o'r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu wneud ei ddyfarniad terfynol gan gymryd i ystyriaeth argymhelliad y panel maethu yn ogystal ag argymhelliad y panel adolygu annibynnol.
(11) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y dyfarniad terfynol y cyfeirir ato ym mharagraff (8), (9)(b) neu (10), yn ôl fel y digwydd, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu roi hysbysiad ysgrifenedig i'r darpar riant maeth ac –
(a) os y penderfyniad yw cymeradwyo'r person fel rhiant maeth, cydymffurfio â pharagraff (5) mewn perthynas â'r person; neu
(b) os y penderfyniad yw peidio â chymeradwyo'r person, darparu rhesymau ysgrifenedig am ei benderfyniad.
(12) Mewn achos pan fo panel adolygu annibynnol wedi gwneud argymhelliad, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu anfon copi at Weinidogion Cymru o'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (11).
29.–(1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu adolygu cymeradwyaeth pob rhiant maeth yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Rhaid cynnal adolygiad o fewn un flwyddyn fan hwyaf ar ôl cymeradwyo, ac wedi hynny pan fo'r darparydd gwasanaeth maethu yn ystyried bod angen, ond beth bynnag fesul cyfnod o ddim mwy nag un flwyddyn.
(3) Wrth ymgymryd ag adolygiad rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu –
(a) gwneud pa bynnag ymholiadau a chaffael pa bynnag wybodaeth yr ystyria'n angenrheidiol er mwyn adolygu a yw'r person yn parhau'n addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y person yn parhau'n addas;
(b) canfod a chymryd i ystyriaeth farn y canlynol–
(i) y rhiant maeth;
(ii) (yn ddarostyngedig i oedran a dealltwriaeth y plentyn) unrhyw blentyn a leolwyd â'r rhiant maeth; a
(iii) unrhyw awdurdod cyfrifol sydd, o fewn y flwyddyn flaenorol, wedi lleoli plentyn gyda'r rhiant maeth.
(4) Ar ddiwedd yr adolygiad rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu baratoi adroddiad ysgrifenedig, sy'n nodi –
(a) a yw'r person yn parhau'n addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y person yn parhau'n addas; a
(b) a yw telerau cymeradwyaeth y person yn parhau'n briodol.
(5) Ar achlysur yr adolygiad cyntaf o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gyfeirio'i adroddiad i'w ystyried gan y panel maethu, a chaiff wneud hynny pan gynhelir unrhyw adolygiad dilynol.
(6) Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn penderfynu, ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw argymhelliad gan y panel maethu, bod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau'n addas a bod telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth yn parhau'n briodol, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'i benderfyniad i'r rhiant maeth.
(7) Os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu, ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw argymhelliad gan y panel maethu, bellach wedi'i fodloni bod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau'n addas, neu fod telerau'r gymeradwyaeth yn briodol, rhaid iddo (yn ddarostyngedig i baragraff (9)) –
(a) rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant maeth i'r perwyl ei fod yn bwriadu terfynu cymeradwyaeth, neu, yn ôl fel y digwydd, adolygu telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth (sef ei "benderfyniad"), ynghyd â'i resymau a chopi o'r argymhelliad a wnaed gan y panel maethu; a
(b) hysbysu'r rhiant maeth y caiff, o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad –
(i) cyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig y dymuna'r rhiant maeth eu gwneud i'r darparydd gwasanaeth maethu; neu
(ii) gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o'r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol.
(8) Nid yw paragraff (8)(b)(ii) yn gymwys mewn achos pan, yn unol â rheoliad 27(6), nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu bellach wedi ei fodloni bod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau'n addas, neu fod telerau'r gymeradwyaeth yn briodol.
(9) O fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b) –
(a) os nad yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau; a
(b) os nad yw'r rhiant maeth yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o'r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol;
caiff y darparydd gwasanaeth maethu fynd ymlaen i wneud ei ddyfarniad terfynol.
(10) Os yw'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), rhaid iddo –
(a) gyfeirio'r achos at y panel maethu i'w ystyried; a
(b) gwneud ei ddyfarniad terfynol gan gymryd i ystyriaeth unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu.
(11) Os yw'r person, o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b) yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o'r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu wneud ei ddyfarniad terfynol gan gymryd i ystyriaeth argymhelliad y panel maethu yn ogystal ag argymhelliad y panel adolygu annibynnol.
(12) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y dyfarniad terfynol y cyfeirir ato ym mharagraff (9), (10)(b) neu (11) rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant maeth, gan ddatgan (yn ôl fel y digwydd) –
(a) bod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau'n addas, a bod telerau'r gymeradwyaeth yn parhau'n briodol;
(b) bod cymeradwyaeth y rhiant maeth wedi ei therfynu o ddyddiad penodedig, a'r rhesymau dros y terfynu; neu
(c) telerau diwygiedig y gymeradwyaeth a'r rhesymau dros y diwygio.
(13) Caiff rhiant maeth roi hysbysiad ysgrifenedig i'r darparydd gwasanaeth maethu ar unrhyw adeg, i'r perwyl nad yw'r rhiant maeth bellach yn dymuno gweithredu fel rhiant maeth, ac yna terfynir cymeradwyaeth y rhiant maeth ymhen 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y daw'r hysbysiad i law'r darparydd gwasanaeth maethu.
(14) Rhaid anfon copi o unrhyw hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn at yr awdurdod sy'n gyfrifol am unrhyw blentyn a leolir gyda'r rhiant maeth (onid y darparydd gwasanaeth maethu yw'r awdurdod cyfrifol hwnnw), a hefyd at yr awdurdod ardal.
(15) Mewn achos pan fo panel adolygu annibynnol wedi gwneud argymhelliad, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu anfon copi at Weinidogion Cymru o'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (13).".
27. Ar ôl rheoliad 29 o'r Rheoliadau Maethu, mewnosoder –
29A.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r darparydd gwasanaeth maethu yn cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru i'r perwyl bod person wedi gwneud cais am adolygiad o penderfyniad gan banel adolygu annibynnol.
(2) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), anfon at Weinidogion Cymru y dogfennau a'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3).
(3) Y canlynol yw'r dogfennau a'r wybodaeth a bennir at ddibenion paragraff (2) –
(a) copi o unrhyw adroddiad a baratowyd ar gyfer, ac o unrhyw ddogfennau eraill a gyfeiriwyd at, y panel maethu at ddibenion rheoliad 27, 28 neu 29, yn ôl fel y digwydd;
(b) unrhyw wybodaeth berthnasol ynglŷn â'r person, a ddaeth i law'r darparydd gwasanaeth maethu ar ôl y dyddiad y paratowyd yr adroddiad neu y cyfeiriwyd yr wybodaeth at y panel maethu; ac
(c) copi o'r hysbysiad ac o unrhyw ddogfennau eraill a anfonwyd yn unol â rheoliad 28(6)(a) neu 29(7)(a).".
28.–(1) Mewn perthynas ag unrhyw gais gan ddarpar fabwysiadydd am adolygiad o benderfyniad cymhwysol a wnaed cyn y diwrnod penodedig, rhaid, ar ac ar ôl y diwrnod penodedig, trin unrhyw weithred neu benderfyniad a wnaed cyn y diwrnod penodedig o dan ddarpariaeth o Reoliadau Adolygu Annibynnol 2006 fel be bai'n weithred neu benderfyniad o dan y ddarpariaeth gyfatebol yn y Rheoliadau hyn.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr "diwrnod penodedig" ("appointed day") yw 2 Ebrill 2010.
29. Dirymir drwy hyn Rheoliadau Adolygu Annibynnol 2006.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("Deddf 2002") a Deddf Plant 1989 ("Deddf 1989"). Maent yn darparu ar gyfer adolygu gan banel annibynnol mewn tri math o achos. Yn gyntaf, penderfyniad a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 i'r perwyl ei bod yn bwriadu peidio â chymeradwyo darpar fabwysiadydd fel un sy'n addas i fabwysiadu plentyn, neu benderfyniad, yn dilyn adolygiad, i'r perwyl nad yw darpar fabwysiadydd mwyach yn addas i fabwysiadu plentyn. Yn ail, penderfyniadau a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu o dan Reoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005. Yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn, pennir bod penderfyniadau o'r math hwnnw yn benderfyniadau cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o Ddeddf 2002. Yn drydydd, penderfyniad a wnaed gan ddarparydd gwasanaeth maethu o dan Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 i'r perwyl nad yw'r darparydd yn bwriadu cymeradwyo darpar riant maeth fel un sy'n addas i faethu plentyn, neu benderfyniad i derfynu, neu ddiwygio telerau cymeradwyaeth person fel rhywun sy'n addas i fod yn rhiant maeth. Yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, pennir bod penderfyniadau o'r math hwnnw yn benderfyniadau cymhwysol at ddibenion paragraff 12A(2)(b) o Ddeddf 1989.
Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddi panelau a'u haelodaeth, eu swyddogaethau a thalu ffioedd, cyfarfodydd a chadw cofnodion y panelau a benodir gan Weinidogion Cymru i adolygu penderfyniadau cymhwysol.
Yn Rhan 3 gwneir darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn pan wneir cais am adolygiad o benderfyniad cymhwysol, gan banel a gyfansoddwyd o dan Ran 2; a darperir ar gyfer i'r sefydliad a wnaeth y penderfyniad cymhwysol dalu pa bynnag gostau i Weinidogion Cymru a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru.
Mae Rhan 4 yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003. Diwygir rheoliad 24 o'r Rheoliadau hynny mewn perthynas â'r tymhorau y caiff aelodau o banelau aros yn eu swydd. Diwygir rheoliad 25 mewn perthynas â swyddogaethau'r panel maethu. Disodlir rheoliadau 28 a 29 o'r Rheoliadau hynny gan reoliadau newydd sy'n darparu ar gyfer hawl i gael adolygiad annibynnol o rai penderfyniadau a wneir gan wasanaeth maethu. Mewnosodir rheoliad 29A newydd, sy'n cyfeirio at yr wybodaeth y mae'n rhaid ei hanfon at y panel adolygu annibynnol.
2002 p.38. Diwygiwyd adran 12 gan adran 57 o Ddeddf Plant 2004 (p.31) a chan adran 34 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23). Back [1]
1989 p.41. Mae adran 8(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23) a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi yn darparu bod effaith i Ddeddf Plant 1989 fel petai paragraff 12A wedi ei fewnosod ar ol paragraph 12. Back [2]
2000 p.14. Back [3]
1971 p.80. Back [4]
Mae rheoliad 13A (1) o'r Rheoliadau Datgelu yn pennu'r penderfyniadau canlynol gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol mewn perthynas â chais o dan adran 61 o Ddeddf 2002: (a) peidio â bwrw ymlaen â chais gan unrhyw berson am ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir; (b) datgelu gwybodaeth i geisydd yngl?n â pherson pan fo'r person hwnnw wedi gwrthod cydsynio i ddatgelu'r wybodaeth; ac (c) peidio â datgelu gwybodaeth am berson i'r ceisydd pan fo'r person hwnnw wedi rhoi ei gydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth. Back [5]
O.S.2006/3100 (Cy.284). Back [6]
O.S.2005/1313 (Cy.95) fel y'i diwygiwyd gan O.S.2006/362, O.S. 2009/1891 ac O.S.2009/2541 (Cy.205). Back [7]
O.S. 2005/2689 (Cy.189) fel y'i diwygiwyd gan O.S.2006/3100 (Cy.284) ac O.S.2009/1892. Back [8]
O.S. 2003/237 (Cy.35) fel y'i diwygiwyd gan O.S.2003/891 (Cy.116), O.S.2004/1016 (Cy.113), O.S.2005/3302 (Cy.256), O.S.2006/878 (Cy.83), O.S.2006/3251 (Cy.295) ac O.S.2009/2541 (Cy.205). Back [9]