Gwnaed
10 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 124 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989(2).
2. Yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau dileer y geiriau–
"Isle of Man".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (O.S. 1989/306) ("Rheoliadau 1989"). Mae'r Rheoliadau'n tynnu Ynys Manaw o'r rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae'r Deyrnas Unedig wedi dod i gytuneb cilyddol â hwy yn Atodlen 2 i Reoliadau 1989.