Gwnaed
7 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) (Diwygio) 2010.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Diwygir Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2008(3) yn unol â'r rheoliad a ganlyn.
3. Yn rheoliad 2, yn lle paragraff (b) o'r diffiniad o "cwrs dynodedig", rhodder –
"(b) sy'n cael ei ariannu gan–
(i) Llywodraeth Cynulliad Cymru;
(ii) y Cyngor Dysgu a Sgiliau o dan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(4);
(iii) Asiantaeth Ddysgu Pobl Ifanc Lloegr o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(5);
(iv) y Prif Weithredwr Ariannu Sgiliau o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009; neu
(v) awdurdod cyhoeddus sy'n gyfrifol am ariannu addysg (ac eithrio addysg uwch) a hyfforddiant sy'n addas at ofynion personau 19 oed neu drosodd o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;".
4. Diwygir Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2009(6) yn unol â'r rheoliad a ganlyn.
5. Yn rheoliad 2, yn lle paragraff (b) o'r diffiniad o "cwrs dynodedig", rhodder–
"(b) sy'n cael ei ariannu gan–
(i) Llywodraeth Cynulliad Cymru;
(ii) y Cyngor Dysgu a Sgiliau o dan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(7);
(iii) Asiantaeth Ddysgu Pobl Ifanc Lloegr o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(8);
(iv) y Prif Weithredwr Ariannu Sgiliau o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009; neu
(v) awdurdod cyhoeddus sy'n gyfrifol am ariannu addysg (ac eithrio addysg uwch) a hyfforddiant sy'n addas at ofynion personau 19 oed neu drosodd o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;".
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2008 ("Rheoliadau 2008") a Rheoliadau Grant Dysgu'r Cynulliad (Addysg Bellach) 2009 ("Rheoliadau 2009").
Mae Rheoliadau 2008 a Rheoliadau 2009 yn darparu ar gyfer talu grant i fyfyrwyr cymwys sy'n dilyn cyrsiau addysg bellach dynodedig yn ystod y blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 ac ar neu ar ôl 1 Medi 2009 yn y drefn honno. Mae cyrsiau dynodedig fel y'u diffinnir yn y rheoliadau hynny'n cynnwys cyrsiau sy'n cael eu hariannu gan Gyngor Dysgu a Sgiliau Lloegr.
Mae Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22) yn gwneud darpariaeth ar gyfer diddymu Cyngor Dysgu a Sgiliau Lloegr ac ar gyfer sefydlu Asiantaeth Ddysgu Pobl Ifanc Lloegr a'r Prif Weithredwr Ariannu Sgiliau i ariannu cyrsiau addysg bellach yn Lloegr.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2008 a Rheoliadau 2009 er mwyn gwneud darpariaeth i'r cyrsiau dynodedig a ddiffinnir yn y rheoliadau hynny gynnwys cyrsiau a ariennir gan Asiantaeth Ddysgu Pobl Ifanc Lloegr a chan y Prif Weithredwr Ariannu Sgiliau.
Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'n effeithio o gwbl ar gostau busnesau, elusennau neu gyrff gwirfoddol. Bach iawn yw'r effaith ar y sector cyhoeddus.
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), adrannau 146, 153 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), adran 722 ac Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p.14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adrannau 42, 43, 50 ac Atodlen 7. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), adran 148 ac Atodlen 12 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8) adran 49 ac Atodlen 6. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac mae Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159) (C. 56)) yn cyfeirio at hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
(1.) O.S. 2008/538 (Cy.51). Back [3]
2000 p. 21. Back [4]
2009 p. 22. Back [5]
O.S. 2009/2158 (Cy.182). Back [6]
2000 p. 21. Back [7]
2009 p. 22. Back [8]