Gwnaed
5 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2010 sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr "Rheoliadau 2009" ("the 2009 Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2009(2);
ystyr "y Rheoliadau Optegol" ("the Optical Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(3).
2. Yn rheoliad 1(2) o'r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o "NHS sight test fee"–
(a) yn lle "£55.93" rhodder "£57.16"; a
(b) yn lle "£20.26" rhodder "£20.70".
3. Yn nhestun Cymraeg rheoliad 7 o Reoliadau 2009, ar ôl "Yn rheoliad 13(2)(l)(ii)" rhodder "o Reoliadau 1986".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("y Rheoliadau Optegol") sy'n penderfynu lefel ffioedd profion golwg y GIG. Yn ogystal, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Cymru) 2009 ("Rheoliadau 2009").
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 1 o'r Rheoliadau Optegol er mwyn cyfeirio at gynnydd o 2.2% yn y ffioedd ar gyfer profion golwg GIG.
Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2009.