Gwnaed
4 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Ebrill 2010.
2.–(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) mae'r diffiniad o "Divisional Veterinary Manager" wedi ei ddirymu.
(3) Yn rheoliadau 13(5) a (6) a 16(8), yn lle'r geiriau "appropriate Divisional Veterinary Manager", ym mhob man y maent yn ymddangos, rhodder "Welsh Ministers".
3. Yn rheoliad 23(1) o Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006(4), yn lle "a'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol o Wasanaeth Milfeddygol y Llywodraeth" rhodder "a Gweinidogion Cymru".
4. Yn rheoliad 13 o Reoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006(5), yn lle "ar unwaith y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer yr ardal lle mae'r aderyn hwnnw" rhodder "Gweinidogion Cymru ar unwaith".
5. Yn lle rheoliad 11 o Reoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006(6) rhodder-
"11. Rhaid i unrhyw berson a ŵyr neu a dybia nad yw aderyn wedi ei frechu, fel sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru, eu hysbysu ar unwaith."
6.–(1) Mae Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Mae rheoliad 8(3) wedi ei ddirymu.
(3) Yn rheoliadau 8(1)(a) a (2) ac 11(b) yn lle "hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol" rhodder "hysbysu Gweinidogion Cymru".
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli cyfeiriadau at "Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol" â chyfeiriadau at "Gweinidogion Cymru" ac, fel y bo'n briodol, yn disodli cyfeiriadau at "Divisional Veterinary Manager" â chyfeiriadau at "Welsh Ministers" yn–
(a) Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996;
(b) Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006;
(c) Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006;
(ch) Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006; a
(d) Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008.
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir y byddant yn effeithio o gwbl ar y sector preifat, y sector cyhoeddus na'r sector gwirfoddol.
O.S 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]
1972 p. 68. Back [2]
O.S. 1996/3124 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [3]
O.S. 2006/180 (Cy. 31). Back [4]
O.S. 2006/2803 (Cy. 242). Back [5]
O.S. 2006/2932 (Cy. 265). Back [6]
O.S. 2008/1090 (Cy. 116). Back [7]