Gwnaed
24 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 15(7), 50(1) a (3) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 1 Ebrill;
ystyr "cynllun gwella" ("improvement plan") yw cynllun perfformiad o fewn ystyr adran 15(6) o'r Mesur; ac
ystyr "y Mesur" ("the Measure") yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
(3) Dim ond i awdurdodau gwella Cymreig sy'n awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, wedi'u cyfansoddi gan gynllun o dan adran 2 o'r Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(2) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys.
2. Rhaid i awdurdodau gwella Cymreig gyhoeddi eu cynllun gwella cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Medi yn y flwyddyn cyn y flwyddyn ariannol y mae'r cynllun gwella yn berthnasol iddi.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Rhan 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i gyhoeddi cynllun (sy'n cael ei alw'n "gynllun gwella" yn y Gorchymyn hwn) ar gyfer cyflawni eu dyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) ac 8(7) o'r Mesur ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i gynllun gwella awdurdod tân ac achub ar gyfer blwyddyn ariannol gael ei gyhoeddi.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful CF48 1UZ (ffôn 01685 729221).