Gwnaed
6 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Chwefror 2010
Yn dod i rym
3 Mawrth 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62, 143(2) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(3).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2010, a deuant i rym ar 3 Mawrth 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygir Atodlen 2 i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993(4) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1 o Ran 1 o'r Atodlen–
(a) Yn yr is-baragraff sydd â'r pennawd "Rateable Value"–
(i) yn lle "2005", rhodder "2010";
(ii) yn lle "2003", rhodder "2008"; a
(iii) hepgorer y geiriau o "Thus" i "offices".
(b) Yn yr is-baragraff sydd â'r pennawd "Small Business Rate Relief"–
(i) ym mharagraff (a), yn lle "£2,000" rhodder "£2,400";
(ii) ym mharagraff (b), yn lle "£2,001 and £6,500", rhodder "£2,401 and £7,800"; a
(iii) ym mharagraff (e) yn lle "£6,501 and £9,000", rhodder "£7,801 and £11,000".
3. Ym mharagraff 1 o Ran 2 o'r Atodlen–
(a) Yn yr is-baragraff sydd â'r pennawd "Gwerth Ardrethol"–
(i) yn lle "2005", rhodder "2010";
(ii) yn lle "2003", rhodder "2008"; a
(iii) hepgorer y geiriau o "Felly" i "awdurdod".
(b) Yn yr is-baragraff sydd â'r pennawd "Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach"–
(i) ym mharagraff (a) yn lle "£2,000" rhodder "£2,400";
(ii) ym mharagraff (b) yn lle "£2,001 a £6,500", rhodder "£2,401 a £7,800"; a
(iii) ym mharagraff (d) yn lle "£6,501 a £9,000", rhodder "£7,801 a £11,000".
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Chwefror 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (O.S. 1993/252) ("Rheoliadau 1993") yn darparu ar gyfer cynnwys yr hysbysiadau galw am dalu ardrethi, a ddyroddir gan awdurdodau bilio (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) yng Nghymru, a'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chyflenwi wrth gyflwyno hysbysiadau o'r fath.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau 1993 drwy addasu'r wybodaeth sydd i'w chyflenwi yn dilyn yr ailbrisio ar 1 Ebrill 2010 ac ynglŷn â'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/273 (Cy.36)).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yn unig i ardrethi sy'n daladwy ar ôl 31 Mawrth 2010.
1988 p.41. Back [1]
1993 p.38. Back [2]
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno. Back [3]
O.S. 1993/252, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/284, 1996/311, 1996/1880, 1997/356, 1998/155, 2000/793 (Cy.303), 2008/7 (Cy.3) a 2008/3075 (Cy.269). Back [4]