Gwnaed
2 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Chwefror 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 154(5) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(1), mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002(2) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 3(1)(a)(i), yn lle "adran 509 o Ddeddf Addysg 1996" rhodder "adrannau 3, 4 a 6 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008".
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002 ("Rheoliadau 2002").
Mae Rheoliadau 2002 yn diffinio "gwasanaethau bws cymwys" at ddibenion adran 154 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Mae'r adran honno yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau i weithredwyr gwasanaethau bws cymwys. Mae gwasanaeth bws cymwys, mewn amgylchiadau penodedig, yn cynnwys gwasanaeth a ddarperir neu a sicrheir gan awdurdod lleol at ddibenion teithio gan ddysgwyr.
Gosododd adran 509 o Ddeddf Addysg 1996 ("y Ddeddf") rwymedigaeth ar awdurdodau addysg lleol yng Nghymru i wneud trefniadau ar gyfer darparu cludiant i hwyluso presenoldeb personau sy'n derbyn addysg mewn ysgolion a sefydliadau penodol eraill. Disodlwyd adran 509 o'r Ddeddf yng Nghymru gan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ("y Mesur"). Adrannau 3, 4 a 6 o'r Mesur sydd bellach yn gwneud darpariaeth o ran swyddogaethau awdurdod lleol mewn perthynas â threfniadau teithio i ddysgwyr.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3(1)(a)(i) o Reoliadau 2002 er mwyn cyfeirio at adrannau 3, 4 a 6 o'r Mesur yn hytrach nag adran 509 o'r Ddeddf.