Gwnaed
2 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Chwefror 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 16 a 27 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2009(2) wedi'u diwygio drwy ychwanegu ar ôl paragraff 3 o Ran 1 o'r Atodlen y canlynol –
"4. Y cod ymddygiad wrth deithio a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o'r Mesur.".
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2009 sy'n gosod yr wybodaeth y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ei chyhoeddi am drefniadau teithio a wneir o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
Mae'r diwygiad yn ychwanegu'r cod ymddygiad wrth deithio, a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o'r Mesur, at yr wybodaeth sydd i'w chyhoeddi.