Gwnaed
21 Rhagfyr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
20 Ionawr 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, rhoesant sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (2), ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ensymau Bwyd (Cymru) 2009, a deuant i rym ar 20 Ionawr 2010.
(2) Maent yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–
Ystyr "awdurdod bwyd" ("food authority") yw'r ystyr a roddir iddo gan adran 5(1A) o'r Ddeddf;
ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority"), mewn perthynas ag unrhyw ranbarth iechyd porthladd a sefydlir drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(3), yw awdurdod iechyd porthladd a sefydlir ar gyfer y rhanbarth hwnnw drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
ystyr "y Ddeddf " ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990; a
ystyr "y Rheoliad EC" ("the EC Regulation") yw Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud ag ensymau bwyd ac yn diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 83/417/EEC, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999, Cyfarwyddeb 2000/13/EC, Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC a Rheoliad (EC) Rhif 258/97(4).
(2) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo yn y Rheoliad EC, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag y sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad EC.
(3) Oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliad EC.
3.–(1) Mae person sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliad EC a bennir ym mharagraff (2), fel y'u darllenir ar y cyd â'r trefniadau trosiannol a gynhwysir yn Erthygl 18 ac Erthygl 24, yn euog o dramgwydd.
(2) Y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw–
(a) Erthygl 4 (cyfyngu ar osod ar y farchnad a defnyddio ensymau bwyd nad ydynt ar y rhestr y darperir ar ei chyfer yn Erthygl 17);
(b) Erthygl 5 (gwahardd rhoi ar y farchnad ensymau bwyd nad ydynt yn cydymffurfio, neu fwydydd sy'n cynnwys ensymau o'r fath);
(c) Erthygl 10(1) (gofynion o ran labelu ensymau bwyd a pharatoadau nas bwriedir ar gyfer eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol);
(ch) Erthygl 12(1) (gofynion o ran labelu ensymau bwyd a pharatoadau a fwriedir ar gyfer eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol); a
(d) Erthygl 14 (1) a (2) (gofyniad i ddarparu gwybodaeth benodedig i'r Comisiwn).
(3) Mae unrhyw un a geir yn euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
4. Mae gweithredu a gorfodi'r rheoliadau hyn a'r Rheoliad EC yn ddyletswydd ar bob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ranbarth.
5.–(1) Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn–
(a) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(b) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), gyda'r addasiad bod–
(i) is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3(1) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, a
(ii) yn is-adran (4) ystyrir bod y cyfeiriadau at "sale" yn cynnwys cyfeiriadau at "placing on the market";
(c) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(ch) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3)(b);
(d) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3)(c);
(dd) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(e) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd).
(2) Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad), at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli'r cyfeiriad at y Ddeddf yn is-adran (1) fel pe bai'n cynnwys cyfeiriadau at y Rheoliad EC.
(3) Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at y Ddeddf yn y darpariaethau hynny i'w ddehongli fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at y Rheoliad EC a'r Rheoliadau hyn–
(a) adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl) gyda'r addasiad yr ystyrir bod y cyfeiriadau at "sold" a "sale" yn cynnwys cyfeiriadau at "placed on the market" a "placing on the market", yn eutrefn;
(b) adran 33(1) (rhwystro swyddogion);
(c) adran 33(2), gyda'r addasiad yr ystyrir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b); a
(d) adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(4) Mae adran 34 o'r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyniadau) yn gymwys i dramgwyddau o dan reoliad 3 fel y mae'n gymwys i dramgwyddau cosbadwy o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.
6. Pan fo dadansoddwr bwyd yn ardystio bod unrhyw fwyd yn fwyd y byddai'n dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ei roi ar y farchnad, caniateir trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf (adran y caniateir odani ymafael mewn bwyd a'i ddinistrio ar orchymyn ynad heddwch) fel pe na bai'r bwyd hwnnw yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
7.–(1) Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(5) yn unol â pharagraffau (2) i (5).
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)–
(a) i ddilyn y diffiniad o "follow-on formula" mewnosoder y diffiniad canlynol–
""food enzyme" has the meaning that it bears in Regulation (EC) No 1332/2008 of the European Parliament and of the Council on food enzymes(6);"; a
(b) yn y diffiniad o "ingredient", ar ôl yr ymadrodd "any additive" mewnosoder yr ymadrodd ", any food enzyme".
(3) Yn rheoliad 14 (enwau cynhwysion) ar ôl paragraff (9) mewnosoder y canlynol fel paragraff (9A)–
"(9A) A food enzyme other than one referred to in regulation 17(b) or (c) is identified by the appropriate category in Schedule 4 followed by the specific name of that enzyme.".
(4) Yn rheoliad 17 (cynhwysion nad oes angen eu henwi)–
(a) ym mharagraffau (b) ac (c), bob tro ar ôl yr ymadrodd "any additive" mewnosoder "or food enzyme"; a
(b) ym mharagraff (d) ar ôl yr ymadrodd "an additive" mewnosoder "or food enzyme".
(5) Yn y pennawd i Atodlen 4, yn lle'r gair "additives" rhodder "ingredients".
8. Yn yr Atodlen i'r Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau 1985(7), yng ngholofn 2 o Ran II (cyfryngau cynorthwyol technolegol a meithriniadau bacteriol) ar ôl yr ymadroddion "rennet" ac "other milk-coagulating enzymes" ychwaneger bob tro yr ymadrodd "meeting the requirements of Regulation (EC) No 1332/2008 of the European Parliament and of the Council on food enzymes".
9. Yn Atodlen 4 (triniaethau a sylweddau ychwanegol a ganiateir) i Reoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003(8), ar ôl yr ymadroddion "Ensymau pectolytig", "Ensymau proteolytig" ac "Ensymau amylolytig" ym mharagraffau 4, 5 a 6 yn eu trefn, ychwaneger bob tro yr ymadrodd "sy'n bodloni gofynion Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ensymau bwyd".
10. Yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwyd Newydd 1997(9), yn lle'r diffiniad o "Regulation (EC) No 258/97" rhodder y diffiniad canlynol–
""Regulation (EC) No 258/97" means Regulation (EC) No 258/97 of the European Parliament and of the Council concerning novel foods and food ingredients(10) as last amended by Regulation (EC) No 1332/2008 of the European Parliament and of the Council on food enzymes; and".
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Rhagfyr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch ensymau bwyd ac yn diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 83/417/EEC, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999, Cyfarwyddeb 2000/13/EC, Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC a Rheoliad (EC) Rhif 258/97 (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.7), ("y Rheoliad EC").
2. Mae'r Rheoliadau'n darparuei fod yn dramgwydd–
(a) unwaith y bydd y rhestr o ensymau bwyd a grybwyllir yn Erthygl 17 o'r Rheoliad EC wedi ei mabwysiadu, rhoi ar y farchnad neu ddefnyddio fel ensymau bwyd unrhyw rai nad ydynt ar y rhestr honno (rheoliad 3(2)(a));
(b) rhoi ar y farchnad ensym bwyd (neu unrhyw fwyd sy'n cynnwys ensym o'r fath) nad yw'n cydymffurfio â'r Rheoliad EC a'r mesurau sy'n ei weithredu (rheoliad 3(2)(b));
(c) peidio â labelu ensymau bwyd neu baratoadau ensymau yn unol â'r gofynion perthnasol ar gyfer trafodion o fusnes i fusnes (rheoliad 3(2)(c)) neu ar gyfer gwerthiannau i ddefnyddwyr terfynol (rheoliad 3(2)(ch)); neu
(ch) peidio â darparu gwybodaeth dechnegol benodol i'r Comisiwn mewn amgylchiadau penodol (rheoliad 3(2)(d)).
3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd–
(a) yn dynodi'r awdurdodau sydd dan ddyletswydd i orfodi'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad EC (rheoliad 4);
(b) yn cymhwyso rhai o ddarpariaethau penodol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddiben y Rheoliadau hyn (rheoliad 5); ac
(c) yn darparu, pan nad yw bwyd yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn a hynny'n golygu y byddai'n dramgwydd ei roi ar y farchnad, y caniateir ei drin fel pe na bai'n cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd, at ddibenion ymafael a dinistrio o dan adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 6).
4. Mae'r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau canlyniadol–
(a) o ran Cymru yn unig, yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 7), Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau 1985 (rheoliad 8) a Rheoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwyd Newydd 1997( (rheoliad 10); a
(b) yn Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 (rheoliad 9).
5. Gwnaed asesiad effaith rheoleiddiol llawn mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn, ac y mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, 11 lawr, Ty Southgate, Caerdydd CF10 1EW.
1990 p.16. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Ddeddf lywodraeth Cymru 2006 (p.32) ac Atodlen 11 i'r Ddeddf honno. Back [1]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau yn ddarostynedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad yn ôl Penderfyniad y Cyngor 1999/ 68 mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu – Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.1 ). Back [2]
1984 p.22 Back [3]
OJ Rhif L.354, 31.12.2008, t.7. Back [4]
O.S. 1996/1499 fel y'i diwygiwyd. Back [5]
OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.7. Back [6]
O.S. 1985/2026 fel y'i diwygiwyd. Back [7]
O.S. 2030/3041 (Cy.286). Back [8]
O.S. 1997/1335 fel y'i diwygiwyd. Back [9]
OJ Rhif L43, 14.2.1997, t.1, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau (EC) Rhif 1829/2003 (OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.1), Rhif 1882/2003 (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1) a Rhif 1332/2008 (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.7). Back [10]