Gwnaed
14 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
31 Ionawr 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 134(6) o Ddeddf Trafnidiaeth Leol 2008(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2010 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Trafnidiaeth Leol 2008.
2. 31 Ionawr 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym-
(a) Adran 13 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym).
(b) Adrannau 14–18.
(c) Adran 68(2).
(ch) Adran 131 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r canlynol –
Rhan 1 o Atodlen 7,
Yn Rhan 2 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud ag adran 116(2) ac Atodlen 10 i Ddeddf Trafnidiaeth 2000(2),
Yn Rhan 2 o Atodlen 7, y diddymiad sy'n ymwneud â Deddf Fenter 2002(3),
Yn Rhan 3 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud ag Adrannau 74, 75 a 79 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985(4),
Yn Rhan 3 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud â Deddf Trafnidiaeth 2000,
Yn Rhan 5 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud â Deddf Trafnidiaeth 2000,
ac felly â'r diddymiadau hynny.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
14 Rhagfyr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 31 Ionawr 2010 ddarpariaethau canlynol Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 ("y Ddeddf")(5).
Adrannau 13 i 18 (ac eithrio adran 13(1) a 13(2) a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2009) sy'n diwygio pwerau yn Neddf Trafnidiaeth 2000(6) i awdurdodau trafnidiaeth lleol wneud cynlluniau partneriaeth ansawdd.
Adran 68(2) sy'n estyn pwerau Gweinidogion Cymru i roi nawdd ar gyfer darparu gwasanaethau penodol i gludo teithwyr.
Adran 131 i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymiadau yn Atodlen 7 ac felly â'r diddymiadau hynny.