Gwnaed
9 Rhagfyr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
1 Ionawr 2010
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, ac maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno a pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at offeryn y Gymuned Ewropeaidd gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau yw Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) (Diwygio) 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2010.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006 (3) yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2–
(a) Dileer diffiniad o "gweithrediad a gymeradwywyd",
(b) Yn y man priodol mewnosoder y diffiniadau canlynol–
"ystyr "gweithrediad a gymeradwywyd neu gost sefydlu a gymeradwywyd" ("approved operation or approved setting up cost") yw gweithrediad neu gost sefydlu y mae Gweinidogion Cymru wedi'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ar gyfer cael cymorth ariannol, ac mae "cymeradwyo" ("approve") a "cymeradwyaeth" ("approval) i'w dehongli'n unol â hynny;
ystyr "cost sefydlu" ("setting up cost") yw gwariant a dynnir neu sydd i'w dynnu wrth sefydlu ffermwyr ifanc yn unol ag Erthygl 7 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1857/2006 ar 15 Rhagfyr 2006 ar gymhwysiad Erthyglau 87 ac 88 o'r Cytuniad i gymorth gwladwriaethol i fusnesau bach a chanolig sy'n weithgar ym maes cynhyrchu cynhyrchion amaethyddol ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 70/2001."(4).
(3) Yn rheoliadau 3(1), 6(1), 7(1)(a), 7(1)(b), 7(2)(a), 7(7), 8(1) 9(1), 9(1)(ch), 9(1)(e), 9(1)(f), 9(1)(ff), 9(1)(h), 9(2)(b) ar ôl "gweithrediad a gymeradwywyd" mewnosoder "neu gost sefydlu a gymeradwywyd".
(4) Yn rheoliadau 4(1) a 9(2)(a) ar ôl "gweithrediad" mewnosoder "neu gost sefydlu".
(5) Yn lle rheoliad 4(2), rhodder–
"4–(2) Caiff Gweinidogion Cymru,
(i) ar yr amod eu bod wedi'u bodloni bod gweithrediad y mae'r cais yn ymwneud ag ef yn gymwys i gael cymorth Cymunedol, gymeradwyo'r gweithrediad hwnnw, neu
(ii) gymeradwyo'r gost sefydlu ar gyfer cael cymorth ariannol, a chaniateir rhoi cymeradwyaeth o'r fath yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y caiff Gweinidogion Cymru eu penderfynu.".
(6) Yn rheoliad 8(1) yn lle "â'r gweithrediad hwnnw" mewnosoder " â gweithrediad neu gost sefydlu".
(7) Yn yr Atodlen–
(a) Ym mharagraff 4 disodler y cofnod gan y testun canlynol–
"4. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1120/2009 dyddiedig 29 Hydref 2009 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu'r cynllun taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Nheitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr."(5);
(b) Ym mharagraff 5 disodler y cofnod gan y testun canlynol–
"5. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1122/2009 dyddiedig 30 Tachwedd 2009 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 o ran trawsgydymffurfio, modiwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli, o dan y cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad hwnnw, yn ogystal â gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran trawsgydymffurfio o dan y cynllun cymorth a ddarperir i'r sector gwin."(6);
(c) Ym mharagraff 6 disodler y cofnod gan y testun canlynol–
"6. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 dyddiedig 19 Ionawr 2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr."(7).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3343 (Cy. 304) ("y prif Reoliadau").
Diben y diwygio yw rhoi pwerau i Weinidogion Cymru o ran Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid i fyd ffermio ("y Cynllun") a fydd yn agor yn 2010. Bydd y Cynllun yn caniatáu rhoi cymorth i newydd-ddyfodiaid ifanc o'r fath yn unol ag Erthygl 7 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1857/2006 ar 15 Rhagfyr 2006 ar gymhwysiad Erthyglau 87 ac 88 o'r Cytuniad i gymorth gwladwriaethol i fusnesau bach a chanolig sy'n weithgar ym maes cynhyrchu cynhyrchion amaethyddol ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 70/2001. Rhaid i'r newydd-ddyfodiaid fodloni meini prawf a osodir yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 ar 20 Medi 2005 ar gymorth i ddatblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Diwygir y prif Reoliadau i ganiatáu i Weinidogion Cymru, o ran y Cynllun, wneud y canlynol: cymeradwyo gwariant ar gyfer cael cymorth ariannol; clymu amodau wrth unrhyw gymeradwyaeth o'r fath; talu cymorth ariannol; gosod yr amgylchiadau y caniateir dirymu cymeradwyaeth o'r gwariant ac y caniateir atal neu adennill unrhyw gymorth ariannol i fuddiolwr odanynt; darparu pwerau mynediad a phwerau archwilio i bersonau awdurdodedig o ran tir neu ddogfennau sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd; ei gwneud yn ofynnol i fuddiolwyr cymorth ariannol gadw cofnodion perthnasol am gyfnod penodol, rhoi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r gwariant a gymeradwywyd a chynorthwyo personau awdurdodedig; ei gwneud yn dramgwydd os bydd buddiolwyr yn gwneud datganiadau anwir, yn fwriadol yn rhwystro person awdurdodedig wrth iddo arfer pwerau'r person hwnnw, methu â chadw cofnodion perthnasol am y cyfnod y mae ei angen, methu â rhoi cymorth i'r person awdurdodedig; ei gwneud yn ofynnol i fuddiolwr roi ymgymeriad pan fo'n briodol.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diweddaru'r cyfeiriadau at offerynnau deddfwriaethol Ewropeaidd penodol a restrir yn y prif Reoliadau.
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Polisi Cefn Gwlad, Adran Materion Gwledig, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3UR.
O.S. 2005/2766. Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o ac Atodlen 11 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [1]
1972 p.68. Back [2]
O.S. 2006/3343 (Cy. 304), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/2900 (Cy. 251). Back [3]
OJ Rhif 358, 16.12.2006, t. 3. Back [4]
OJ Rhif 316, 2.12.09, t. 1. Back [5]
OJ Rhif 316, 2.12.09, t. 65. Back [6]
OJ Rhif 30, 31.1.09, t. 16. Back [7]