Gwnaed
8 Rhagfyr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
1 Ionawr 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1) a (2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at Atodiad i Gyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag atchwanegiadau bwyd(3) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4) cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau a ganlyn yn cael eu llunio.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2010.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003(5) yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad "Cyfarwyddeb 2002/46" rhodder y diffiniadau canlynol–
ystyr "Cyfarwyddeb 90/496" ("Directive 90/496") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC ar labelu maethiad ar gyfer bwydydd(6) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/100/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC ar labelu maethiad ar gyfer bwydydd o ran lwfansau dyddiol a argymhellir, ffactorau trosi ynni a diffiniadau(7);
ystyr "Cyfarwyddeb 2001/83" ("Directive 2001/83") yw Cyfarwyddeb 2001/83/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar god y Gymuned sy'n ymwneud â chynhyrchion meddyginiaethol i'w defnyddio gan bobl(8) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2009/53/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2001/82/EC a Chyfarwyddeb 2001/83/EC, o ran amrywiadau i delerau awdurdodiadau marchnata ar gyfer cynhyrchion meddyginiaethol(9);
ystyr "Cyfarwyddeb 2002/46" ("Directive 2002/46") yw Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1170/2009 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y rhestrau o fitamin a mwynau a'r ffurfiau arnynt y caniateir eu hychwanegu at fwydydd, gan gynnwys ychwanegion bwyd(10);".
(3) Yn union ar ôl paragraff (3) o reoliad 2 (dehongli) mewnosoder y paragraff a ganlyn-
"(4) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i Gyfarwyddeb 2002/46 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.".
(4) Yn rheoliad 3 (cwmpas y Rheoliadau), yn lle paragraff (2), rhodder y paragraff canlynol-
"(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion meddyginiaethol fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/83.".
(5) Yn rheoliad 5 (gwaharddiadau gwerthu sy'n ymwneud â chyfansoddiad ychwanegion bwyd)–
(a) ym mharagraff (1) hepgorer y geiriau "Yn ddarostyngedig i baragraff (3)"
(b) yn is-baragraff (a) o baragraff (1), yn lle'r geiriau "yng ngholofn 1 o Atodlen 1" rhodder y geiriau "yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/46";
(c) yn is-baragraff (b)(i) o baragraff (1), yn lle'r geiriau "Atodlen 2" rhodder y geiriau "Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/46"; ac
(ch) hepgorer paragraff (3).
(6) Yn rheoliad 6 (cyfyngiadau ar werthu sy'n ymwneud â labelu etc ychwanegion bwyd)–
(a) yn lle is-baragraff (b) o baragraff (3) rhodder yr is-baragraff a ganlyn–
"(b) cael ei rhoi, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/46, drwy ddefnyddio'r uned berthnasol a bennir mewn cromfachau ar ôl enw'r fitamin neu'r mwyn hwnnw;"; a
(b) yn lle is-baragraff (d) o baragraff (3) rhodder yr is-baragraff canlynol–
"(d) cael ei mynegi hefyd, yn achos fitamin neu fwyn a restrir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 90/496, fel canran (y caniateir ei rhoi hefyd ar ffurf graff) o'r lwfans dyddiol a argymhellir ac sy'n berthnasol ac a bennir yn yr Atodiad hwnnw.".
(7) Yn union ar ôl rheoliad 11 (cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf) ychwaneger y rheoliad a ganlyn–
12. Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan reoliad 9 sy'n ymwneud â thorri rheoliad 6 neu 7 drwy fynd yn groes i reoliad 6(3)(d) neu fethu â chydymffurfio ag ef, bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad–
(a) bod yr ychwanegiad bwyd o dan sylw wedi ei werthu cyn 31 Hydref 2012; a
(b) na fyddai'r materion sy'n dramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hynny pe na fyddai'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(2) a (6)(b) o Reoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) ac Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) (Diwygio) 2009 wedi bod yn weithredol pan werthwyd y bwyd.".
(8) Hepgorer Atodlen 1 (fitaminau a mwynau y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd) ac Atodlen 2 (ffurf ar sylweddau fitamin a mwyn y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu ychwanegion bwyd).
3.–(1) Diwygir Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007(11) yn unol â'r paragraff a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad "y Rheoliad CE", rhodder y diffiniad canlynol–
"ystyr "y Rheoliad CE" ("the EC Regulation") yw Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau penodol eraill at fwydydd(12) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1170/2009 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y rhestrau o fitamin a mwynau a'r ffurfiau arnynt y caniateir eu hychwanegu at fwydydd, gan gynnwys atchwanegiadau bwyd.".
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1719 fel y'i diwygiwyd eisoes gan O.S. 2005/2759, O.S. 2005/3254 (Cy.247) ac O.S. 2007/1076 (Cy.114)) a Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1984 (Cy.165)) er mwyn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1170/2009 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y rhestrau o fitamin a mwynau a'r ffurfiau arnynt y caniateir eu hychwanegu at fwydydd, gan gynnwys atchwanegiadau bwyd (OJ Rhif L314, 1.12.2009, t.36). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diweddaru'r cyfeiriadau at gyfarwyddebau y cyfeirir atynt yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003–
(a) drwy roi diffiniad diwygiedig o Gyfarwyddeb 2002/46 yn lle'r hen un a thrwy fewnosod diffiniadau o Gyfarwyddeb 90/496 a Chyfarwyddeb 2001/83 (rheoliad 2(2));
(b) drwy ddarparu bod cyfeiriad at Atodiad i Gyfarwyddeb 2002/46 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(3));
(c) drwy ddiwygio cyfeiriadau at gyfarwyddebau fel eu bod yn cyfeirio at y diffiniadau o'r cyfarwyddebau hynny (rheoliad 2(4) a (6)(b));
(ch) drwy ddileu'r darpariaethau hynny a roddodd ar waith ran o Gyfarwyddeb 2002/46 sy'n mynd yn ddi-rym ar 1 Ionawr 2010 (rheoliad 2(5)(a) ac (ch));
(d) drwy ddarparu bod y Rheoliadau hynny'n cyfeirio at yr Atodiadau i Gyfarwyddeb 2002/46 yn hytrach nag at yr Atodlenni i'r Rheoliadau hynny a thrwy wneud diwygiadau canlyniadol (rheoliad 2(5)(b) ac (c), (6)(a) ac (8)); ac
(dd) drwy ddarparu cyfnod pontio ar gyfer dwyn i rym fesul cam y darpariaethau newydd sy'n ymwneud â Chyfarwyddeb 90/496 (rheoliad 2(7)).
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007 drwy roi diffiniad diwygiedig o Reoliad (EC) Rhif 1925/2006 (rheoliad 3(2)).
4. Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi ei wneud mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.
1990 p.16. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac fe'u trosglwyddwyd wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [1]
1972 p.68. Back [2]
OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.51, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1170/2009 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y rhestrau o fitamin a mwynau a'r ffurfiau arnynt y caniateir eu hychwanegu at fwydydd, gan gynnwys atchwanegiadau bwyd ( OJ Rhif L314, 1.12.2009, t.36). Back [3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o Gytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468 o ran y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu – Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14). Back [4]
O.S. 2003/1719 (Cy.186), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/2759, O.S. 2005/3254 (Cy.247) ac O.S. 2007/1076 (Cy.114). Back [5]
OJ Rhif L276, 6.10.1990, t.40. Back [6]
OJ Rhif L285, 29.10.2008, t.9. Back [7]
OJ Rhif L311, 28.11.2001, t.67. Back [8]
OJ Rhif L168, 30.6.2009, t.33. Back [9]
OJ Rhif L314, 1.12.2009, t.36. Back [10]
O.S. 2007/1984 (Cy.165). Back [11]
OJ Rhif L404, 30.12.2006. t.26. Back [12]