Gwnaed
7 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
22 Rhagfyr 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7, 87(2) a (5)(a) ac 88(2) a (4)(a) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) (Diwygio) 2009. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 22 Rhagfyr 2009
2. Mae Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 2008(2) wedi ei ddiwygio fel y'i nodir yn y Gorchymyn hwn.
3. Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (Pathogenau anifeiliaid penodedig) ar ôl 34 (Feirws peste des petits ruminants) mewnosoder–
"34A. genoteip feirws Syndrom Atgenhedlu ac Anadlu'r Moch".
4. Ym mharagraff 2 o Atodlen 2 (ymafael mewn pathogenau) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder–
"(3) Nid yw is-baragraffau (1) na (2) yn gymwys yn achos pathogen o'r enw genoteip feirws Syndrom Atgenhedlu ac Anadlu'r Moch 2.".
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
7 Rhagfyr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid (Cymru) 2008 O.S. 2008/1270 (Cy.129)) i ychwanegu pathogen arall (genoteip feirws Syndrom Atgenhedlu ac Anadlu'r Moch 2) at restr Rhan 1 yn Atodlen 1. Ni fydd y pŵer i ymafael yn y pathogen penodedig hwn yn gymwys gan nad yw'r afiechyd sy'n deillio ohono yn un a gwmpesir gan ofyniad cigydda o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Hysbyswyd drafft o'r Gorchymyn hwn i'r Comisiwn Ewropeaidd yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC (darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC.
1981 p.22. Trosglwyddodd swyddogaethau'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [1]
O.S. 2008/1270 (Cy.129). Back [2]