Gwnaed
4 Rhagfyr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2009
2.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3.–(1) Yn yr Atodlen (Tanwyddau Awdurdodedig) i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008(3), ar ôl paragraff 8, mewnosoder–
"8A. Brics glo Briteheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire–
(a) wedi'u cyfansoddi o lo carreg (yn cyfateb i ryw 60% i 85% o gyfanswm eu pwysau), golosg petrolewm (yn cyfateb i ryw 30% o gyfanswm eu pwysau), glo rhwym (yn cyfateb i ryw 15% o gyfanswm eu pwysau), a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (yn cyfateb i weddill eu pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C;
(c) sy'n frics glo ar siâp clustogau a chanddynt linell wedi'i hindentio'n rhedeg o'u cwmpas ac sy'n pwyso 30 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac
(ch) nad yw sylffwr yn cyfateb i fwy na 2% o gyfanswm eu pwysau."
(2) Ar ôl paragraff 41 o'r Atodlen, mewnosoder–
"41A. Brics glo Therma, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf–
(a) wedi'u cyfansoddi o ronynnau glo caled (yn cyfateb i ryw 84% o gyfanswm eu pwysau), golosg petrolewm (yn cyfateb i ryw 12% o gyfanswm eu pwysau) a rhwymwr starts (yn cyfateb i weddill eu pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C;
(c) sy'n frics glo hirgrwn/ar siâp deigryn a chanddynt linell drwy'r canol ac sy'n pwyso 26 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(ch) nad yw sylffwr yn cyfateb i fwy na 2% o gyfanswm eu pwysau."
(3) Ar ôl paragraff 42 o'r Atodlen, mewnosoder–
"42A. Boncyffion tân Tiger Tim, a weithgynhyrchir gan De Lange B V., Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem, yr Iseldiroedd–
(a) wedi'u cyfansoddi o gŵyr hydrin (yn cyfateb i ryw 50% o gyfanswm eu pwysau) a blawd llif (yn cyfateb i ryw 50% o gyfanswm eu pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;
(c) sy'n foncyffion tân rhyw 280 o filimetrau o hyd a 75 o filimetrau x 75 o filimetrau x 75 o filimetrau a chanddynt un rhigol yn rhedeg ar hyd pob un o'u pedwar wyneb sy'n 280 o filimetrau o hyd ac sy'n pwyso 1.1 kilogram y boncyff ar gyfartaledd; a
(ch) nad yw sylffwr yn cyfateb i fwy na 0.2% o gyfanswm eu pwysau.".
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
4 Rhagfyr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3100 (Cy.274)) er mwyn ychwanegu tri thanwydd newydd (Brics glo Briteheat, Brics glo Therma a Boncyffion tân Tiger Tim) at y rhestr o danwyddau y datganwyd eu bod yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993.
Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 ("Deddf 1993") yn darparu, pan fo simnai naill ai–
(a) yn simnai adeilad; neu
(b) yn simnai sy'n gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol,
fod meddiannydd yr adeilad, neu (yn ôl y digwydd) y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r periannau yn euog o dramgwydd os yw'r simnai mewn ardal rheoli mwg ac yn gollwng mwg. Er hynny, mae'n amddiffyniad os gellir profi mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.
Yng Nghymru, ystyr tanwydd awdurdodedig yw tanwydd y datganwyd ei fod yn awdurdodedig gan Reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
Cafodd asesiad effaith rheoleiddiol ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1993 (p.11). Back [1]
Trosglwyddwyd pwerau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i'r Cynulliad Cenedlaethol gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]
O.S. 2008/3100 (Cy.274). Back [3]