Gwnaed Rhagfyr
30 Tachwedd 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhagfyr
2 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi(1).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygier Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(2) fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010.
(2) Yn lle Atodlen 4, rhoddir yr Atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
30 Tachwedd 2009
Rheoliad 2
Billing authority area | Prescribed figure |
---|---|
Blaenau Gwent | 54,106 |
Bridgend | 105,734 |
Caerphilly | 133,407 |
Carmarthenshire | 142,757 |
Cardiff | 257,295 |
Ceredigion | 64,378 |
Conwy | 89,672 |
Denbighshire | 77,402 |
Flintshire | 118,412 |
Gwynedd | 94,009 |
Isle of Anglesey | 54,831 |
Merthyr Tydfil | 43,312 |
Monmouthshire | 69,544 |
Neath Port Talbot | 108,821 |
Newport | 107,931 |
Pembrokeshire | 93,178 |
Powys | 105,487 |
Rhondda Cynon Taf | 183,191 |
Swansea | 183,388 |
Torfaen | 71,054 |
Vale of Glamorgan (The) | 96,769 |
Wrexham | 104,557" |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 ("Rheoliadau 1992").
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd yn lle'r un bresennol (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).
1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]
O.S. 1992/3238, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy.47), 2000/3382 (Cy.220), 2001/3910 (Cy.322), 2002/3054 (Cy.289), 2003/3211 (Cy.304), 2004/3232 (Cy.280), 2005/3345 (Cy.259), 2006/3347 (Cy.307), 2007/3343 (Cy.295), a 2008/2929 (Cy.258). Back [2]