Gwnaed
11 Tachwedd 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Tachwedd 2009
Yn dod i rym
7 Rhagfyr 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 124 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 7 Rhagfyr 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989(2).
2. Yn Atodlen 2 i'r prif Reoliadau dileer y geiriau-
"Guernsey and its bailiwick", a
"Jersey".
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Tachwedd 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (O.S. 1989/306) ("Rheoliadau 1989"). Mae'r Rheoliadau'n tynnu Guernsey a'i beilïaeth a Jersey i ffwrdd o Atodlen 2 i Reoliadau 1989. Ni fydd ymwelwyr o'r tiriogaethau hyn i Gymru bellach yn esempt o dan reoliadau 4 a 5 o Reoliadau 1989 rhag ffioedd am ofal iechyd a ddarperir o fewn y GIG.