Gwnaed
10 Tachwedd 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Tachwedd 2009
Yn dod i rym
2 Rhagfyr 2009
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 2 Rhagfyr 2009.
2. Diwygier Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007(3) fel a ganlyn.
3. Yn Rhan CH o Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod), hepgorer paragraff 18.
4. Yn Atodlen 2 (swyddogaethau y caniateir iddynt fod, ond nad oes angen iddynt fod, yn gyfrifoldeb gweithrediaeth awdurdod)–
(a) yn lle paragraff 18 rhodder–
"18. Unrhyw un neu unrhyw rai o'r swyddogaethau canlynol o ran priffyrdd–
(a) gwneud cytundebau ar gyfer gwneud gwaith priffyrdd(4);
(b) y swyddogaethau a geir yn narpariaethau canlynol Rhan III o Ddeddf Priffyrdd 1980(5) (creu priffyrdd)–
(i) adran 25 – creu llwybrau troed, llwybrau ceffylau neu gilffyrdd cyfyngedig drwy gytundeb;
(ii) adran 26 – pwerau gorfodol ar gyfer creu llwybrau troed, llwybrau ceffylau neu gilffyrdd cyfyngedig;
(c) y swyddogaethau a geir yn narpariaethau canlynol Rhan VIII o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cau priffyrdd a gwyro priffyrdd etc)(6)–
(i) adran 116 – pŵer llysoedd ynadon i awdurdodi cau priffordd neu wyro priffordd;
(ii) adran117 – cais am orchymyn o dan adran 116 ar ran person arall;
(iii) adran 118 – cau llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig;
(iv) adran 118ZA – cais am orchymyn diddymu llwybr cyhoeddus;
(v) adran 118A – cau llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig sy'n croesi rheilffyrdd;
(vi) adran 118B – cau priffyrdd penodol at ddibenion atal troseddau etc;
(vii) adran 118C – cais gan berchennog ysgol am orchymyn diddymu arbennig;
(viii) adran 119 – gwyro llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig;
(ix) adran 119ZA – cais am orchymyn gwyro llwybr cyhoeddus;
(x) adran 119A – gwyro llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig sy'n croesi rheilffyrdd;
(xi) adran 119B – gwyro priffyrdd penodol at ddibenion atal troseddau etc;
(xii) adran 119C – cais gan berchennog ysgol am orchymyn gwyro arbennig;
(xiii) adran 119D – gwyro priffyrdd penodol ar gyfer gwarchod safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig;
(xiv) adran 120 – arfer pwerau i wneud gorchmynion diddymu a gwyro llwybrau cyhoeddus;
(xv) adran 121B – cofrestr ceisiadau;
(ch) y swyddogaethau a geir yn narpariaethau canlynol Rhan IX o Ddeddf Priffyrdd 1980 (ymyrraeth gyfreithlon ac anghyfreithlon â phriffyrdd a strydoedd)–
(i) adran 130 – amddiffyn hawliau cyhoeddus;
(ii) adran 139 – rheoli sgipiau adeiladwyr;
(iii) adran 140 – symud sgipiau adeiladwyr i ffwrdd;
(iv) adran 140A(7) – sgipiau adeiladwyr: ffioedd am feddiannu'r briffordd;
(v) adran 142 – trwydded i blannu coed, llwyni etc mewn priffordd;
(vi) adran 147 – pŵer i awdurdodi codi camfeydd etc ar lwybrau troed neu lwybrau ceffylau;
(vii) adran 147ZA(8) – cytundebau ynghylch gwelliannau er lles personau sydd â phroblemau symudedd;
(viii) adran 149 – symud pethau a adawyd ar briffyrdd sy'n peri niwsans etc;
(ix) adran 169 – rheoli sgaffaldiau ar briffyrdd;
(x) adran 171 – rheoli gosod deunyddiau adeiladu ar strydoedd a gwneud gwaith cloddio mewn strydoedd;
(xi) adran 171A(9) a rheoliadau a wneir o dan yr adran honno – gwaith o dan adran 169 neu adran 171: tâl am feddiannu'r briffordd;
(xii) adran 172 – palisau sydd i'w codi yn ystod adeiladu etc;
(xiii) adran 173 – palisau i'w codi'n ddiogel;
(xiv) adran 178 – cyfyngu ar osod rheiliau, trawstiau etc dros briffyrdd;
(xv) adran 179 – rheoli adeiladu selerydd etc o dan strydoedd;
(xvi) adran 180 – rheoli mynedfeydd i selerydd etc o dan strydoedd, a goleuadau palmentydd ac awyryddion;
(d) arfer swyddogaethau o dan adran 34 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(10) (gorchmynion calchbalmentydd); ac
(dd) arfer swyddogaethau o dan adran 53 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(11) (dyletswydd i adolygu mapiau a datganiadau diffiniol yn barhaus).";
(b) yn lle paragraff 24 rhodder–
"24. Swyddogaethau o ran gamblo o dan ddarpariaethau canlynol Deddf Gamblo 2005(12)–
(a) adran 29 – gwybodaeth gan awdurdod trwyddedu;
(b) adran 30 – cyfnewid arall o wybodaeth;
(c) adran 166 – penderfyniad i beidio â dyroddi trwyddedau casino;
(ch) adran 212 a rheoliadau a wneir o dan yr adran honno – ffioedd;
(d) adran 284 – tynnu ymaith esemptiad;
(dd) adran 304 – personau awdurdodedig;
(e) adran 346 – erlyniadau gan awdurdod trwyddedu;
(f) adran 349 – polisi trwyddedu tair blynedd;
(ff) adran 350 – cyfnewid gwybodaeth;
(g) Rhan 5 o Atodlen 11– cofrestru gydag awdurdod lleol.".
5. Yn Atodlen 3 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig)–
(a) yng ngholofn (1) yn lle "Y Cynllun Addysg Sengl" rhodder "Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc";
(b) yng ngholofn (2) yn lle "Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 (O.S. 2006/877 (Cy. 82))" rhodder "Rheoliadau a wnaed o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004(13)";
(c) ar y diwedd–
(i) yng ngholofn (1), mewnosoder "Y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy";
(ii) yng ngholofn (2) mewn perthynas â'r cofnod hwnnw yng ngholofn (1), mewnosoder "Adran 60 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(14).".
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
10 Tachwedd 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod (y mae'n rhaid iddi fod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11(2) i (5) o'r Ddeddf honno) onid yw'r swyddogaethau hynny i beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod. Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/399 (Cy.45)) ("y Prif Reoliadau") yn pennu'r swyddogaethau hynny nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Prif Reoliadau.
Mae Atodlen 2 i'r Prif Reoliadau'n rhestru'r swyddogaethau hynny y caniateir iddynt fod (ond nad oes angen iddynt fod) yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod. Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r rhestr hon drwy fewnosod swyddogaethau penodedig o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a Deddf Gamblo 2005. Effaith y diwygiadau hyn yw bod gan awdurdod lleol ddisgresiwn o ran a ydyw'r swyddogaethau o dan sylw i'w cael eu harfer gan y weithrediaeth.
Mae rheoliad 5 yn diwygio'r Prif Reoliadau drwy ddefnyddio geiriau generig i gyfeirio at gynlluniau plant a phobl ifanc sydd i'w paratoi a'u cyhoeddi gan awdurdodau lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004. Mae hefyd yn darparu bod yn rhaid i gynlluniau gwella hawliau tramwy beidio â bod yn gyfrifoldeb y weithrediaeth yn unig.
2000 p.22. Back [1]
Mae pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 2007/399 (Cy. 45). Back [3]
Amnewidiwyd adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66) gan adran 23 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22). Back [4]
1980 p.66. Back [5]
Mewnosodwyd adrannau 118ZA, 118B, 118C, 119ZA, 119B, 119C, 119D a 121B gan adran 57 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) a Rhan 1 o Atodlen 6 iddi. Mewnosodwyd adrannau 118A a 119A gan adran 47 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith 1992 (p.42), ac Atodlen 2 iddi. Back [6]
Mewnosodwyd adran 140A gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22) (adran 168 a Rhan 1 o Atodlen 8). Back [7]
Mewnosodwyd adran 147ZA gan adran 69(3) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37). Back [8]
Mewnosodwyd adran 171A gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22) (adran 168 a Rhan 1 o Atodlen 8). Back [9]
1981 p.69. Diwygiwyd adran 34 gan baragraff 83 o Atodlen 11 i Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16). Drwy adran 27AA o Ddeddf 1981 mae adran 34 yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at Natural England yn gyfeiriadau at Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Back [10]
Diwygiwyd adran 53 gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) (adran 51 a Rhan 1 o Atodlen 5) a Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16) (adran 70). Back [11]
2005 p.19. Back [12]
2004 p.31. Back [13]
2000 p.37. Back [14]