Gwnaed
27 Hydref 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Hydref 2009
Yn dod i rym
18 Tachwedd 2009
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran mesurau sy'n ymwneud ag atal, cwtogi a dileu llygredd a achosir gan wastraff. Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 18 Tachwedd 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Diwygir Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(3) fel a ganlyn.
3. Yn rheoliad 5(1), yn lle'r diffiniad o "mangre" ("premises"), rhodder–
"mae "mangre" ("premises") yn cynnwys tir ac unrhyw long ac unrhyw ffurf arall ar drafnidiaeth y gweithredir gwasanaeth symudol oddi arni;".
4. Yn lle rheoliad 12(2), rhodder–
"(2) Ac eithrio fel y darperir yn rheoliadau 13 (gwastraff asbestos) a 14 (ffracsiynau domestig a wahanwyd), nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff domestig.".
5. Yn lle rheoliad 13, rhodder–
13.–(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff asbestos boed yn wastraff domestig ai peidio.
(2) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gosod rhwymedigaethau ar feddiannydd mangre ddomestig mewn cysylltiad â gwastraff asbestos a gynhyrchwyd yn y fangre honno.
(3) Mae contractwr a gafodd ei gymryd ymlaen i wneud unrhyw waith mewn mangre ddomestig sy'n cynhyrchu gwastraff asbestos, neu sy'n ymwneud â gwastraff asbestos i'w drin fel cynhyrchwr y gwastraff asbestos hwnnw, ac, os nad yw'r contractwr yn cymryd ymlaen berson arall i fod yn draddodwr, fel traddodwr y gwastraff asbestos hwnnw.".
6. Yn lle rheoliad 14, rhodder–
14.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw ffracsiwn domestig a wahanwyd, sef, gwastraff peryglus–
(a) sy'n wastraff domestig; a
(b) sydd wedi'i wahanu oddi wrth wastraff domestig arall.
(2) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gosod rhwymedigaethau ar feddiannydd mangre ddomestig mewn cysylltiad â ffracsiynau domestig a wahanwyd a gynhyrchwyd yn y fangre honno.
(3) Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ffracsiynau domestig a wahanwyd o'r adeg pan gaiff y gwastraff ei dderbyn ar gyfer ei gasglu, ei waredu neu ei adfer–
(a) o'r fangre ddomestig lle cafodd y gwastraff ei gynhyrchu; neu
(b) o safle ar gyfer derbyn gwastraff domestig y cymerir y ffracsiynau domestig a wahanwyd iddo gan feddiannydd mangre ddomestig.
(4) Ar ôl i ffracsiynau domestig a wahanwyd gael eu symud ymaith o'r fangre lle cynhyrchwyd y gwastraff a chael ei gludo i fangre arall ar gyfer ei gasglu, ei waredu neu ei adfer, rhaid trin unrhyw sefydliad neu ymgymeriad sy'n derbyn y ffracsiynau domestig a wahanwyd ar gyfer eu casglu, eu gwaredu neu eu hadfer, o'r adeg pan dderbynnir y gwastraff felly, fel cynhyrchydd y gwastraff at ddibenion y Rheoliadau hyn.".
7. Ar ôl rheoliad 14, mewnosoder–
"14A–(1) Caiff gwastraff peryglus a gynhyrchwyd mewn mangre siop gan gwsmeriaid y meddiannydd ei drin at ddibenion y Rheoliadau hyn megis petai'r meddiannydd wedi'i gynhyrchu.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, mae i "mangre siop" yr ystyr a roddir i "shop premises" gan adran 1(3) o Ddeddf Swyddfeydd, Siopau a Mangreoedd Rheilffyrdd 1963(4).".
8. Yn rheoliad 21(1), ar ôl "oddi yno" mewnosoder "neu ei gasglu oddi yno".
9. Yn lle rheoliad 23, rhodder–
23.–(1) Nid oes angen hysbysu mangre esempt i'r Asiantaeth yn unol â'r Rhan hon.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae mangre yn fangre esempt os yw'n cydymffurfio â'r amod ym mharagraff (3) ac â'r naill neu'r llall o'r amodau ym mharagaff (4) neu (5).
(3) Yr amod yn y paragraff hwn yw nad oes unrhyw wastraff peryglus yn cael ei symud ymaith o'r fangre gan unrhyw berson heblaw–
(a) cludwr a gofrestrwyd o dan Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989(5); neu
(b) cludwr sydd wedi'i eithrio rhag y gofyniad i gofrestru o dan y Ddeddf honno.
(4) Yr amod yn y paragraff hwn yw fod y fangre yn llong.
(5) Yr amod yn y paragraff hwn yw fod y terfynau cymwys yn gymwys.".
10. Yn lle rheoliad 26(8), rhodder–
"(8) Rhaid i'r Asiantaeth, os caiff gais i wneud hynny, hysbysu person sy'n ddeiliad gwastraff peryglus neu sy'n cynnal busnes traddodi neu gasglu gwastraff peryglus, os yw unrhyw fangre lle mae'r person hwnnw yn bwriadu symud ymaith ohoni, peri symud ymaith ohoni neu'n bwriadu cludo unrhyw wastraff peryglus yn fangre a hysbyswyd, ac os felly, y manylion sydd gan yr Asiantaeth ynghylch–
(a) cyfeiriad y fangre, gan gynnwys y cod post;
(b) cod y fangre;
(c) enw deiliad cod y fangre; ac
(ch) y dyddiad y daw cod y fangre i ben arno, sef diwedd y cyfnod hysbysu.".
11. Yn lle rheoliad 30, rhodder–
30.–(1) Y terfynau cymwys ar gyfer–
(a) gwasanaeth symudol yw bod cyfanswm yr holl wastraff peryglus a gynhyrchir yn y fangre, neu a gesglir ynddi neu a symudir ohoni wrth gynnal y gwasanaeth hwnnw mewn unrhyw set unigol o fangreoedd cysylltiedig yn llai na 500kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis; a
(b) unrhyw fangre esempt, yw bod cyfanswm yr holl wastraff peryglus a gynhyrchir yn y fangre neu a gesglir ynddi neu a symudir ohoni yn llai na 500kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis.
(2) Wrth gyfrifo swm yr holl wastraff peryglus rhaid peidio â rhoi cyfrif am unrhyw swm o wastraff peryglus yn erbyn mwy nag un o'r gweithgareddau ym mharagraff (1)(a) neu (b).".
12. Yn rheoliad 32–
(a) hepgorer y diffiniadau a ganlyn–
"cludwr cofrestredig" ("registered carrier"),
"cyfarpar gwastraff trydanol ac electronig" ("waste electrical and electronic equipment"),
"Deddf 1963" ("the 1963 Act"),
"mangre siop" ("shop premises"), a
"mangre swyddfa" ("office premises"); a
yn y man priodol mewnosoder–
"mae i'r ymadrodd "cod mangre" ("premises code") yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 27(1);
mae i'r ymadrodd "terfynau cymwys" ("qualifying limitation") yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 30;".
13. Yn rheoliad 42–
(a) ym mharagraff (3)(a), yn lle "dangos ar Ran E", rhodder "dangos, yn y rhan ag iddo'r pennawd "tystysgrif y traddodai"";
(b) yn lle paragraff (6)(a) rhodder–
"(a) i wneud trefniadau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i drosglwyddo'r llwyth neu'r rhan o'r llwyth a wrthodwyd i draddodai penodedig arall sy'n dal trwydded gwastraff neu sy'n gwneud gwaith gwastraff esempt ar gyfer adfer neu waredu'r gwastraff; a,"; ac
(c) ar ôl paragraff (7) mewnosoder–
"(8) Yn y rheoliad hwn, mae i "gwaith gwastraff esempt" yr ystyr a roddir i "exempt waste operation" yn rheoliad 5 o Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007(6).".
14. Yn lle rheoliad 48(3)(c), rhodder–
"(c) y dull gwaredu neu adfer mewn perthynas â'r gwastraff drwy gyfeirio at y Rhif a'r disgrifiad cymwys yn unol ag Atodiad IIA neu IIB o'r Gyfarwyddeb Gwastraff; a".
15. Yn rheoliad 49(1), ar ôl y geiriau "os yw'n wahanol i'r cynhyrchydd," mewnosoder "neu'r deiliad".
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
27 Hydref 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) (O.S. 2005/1806) (Cy.138) ("Rheoliadau 2005"), sy'n rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus (OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t.20).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Mae rheoliad 3 yn diwygio'r diffiniad o "mangre" yn rheoliad 5(1) er mwyn ei gwneud yn eglur fod y term yn cynnwys tir.
Mae rheoliad 5 yn disodli rheoliad 13 o Reoliadau 2005 gyda rheoliad 13 newydd sy'n ei gwneud yn eglur nad oes dim yn Rheoliadau 2005 yn gosod rhwymedigaethau ar rai sy'n meddiannu mangre ddomestig o ran gwastraff asbestos a gynhyrchir yn y fangre honno ac y bydd contractwr sy'n gwneud gwaith mewn cysylltiad â gwastraff asbestos yn cael ei drin fel cynhyrchydd y gwastraff hwnnw.
Mae rheoliad 6 yn disodli rheoliad 14 o Reoliadau 2005 gyda rheoliad 14 newydd. Mae hyn er mwyn ei gwneud yn eglur fod meddiannydd mangre ddomestig wedi'i eithrio o'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â ffracsiynau domestig wedi'u gwahanu o wastraff peryglus. Mae'r rheoliad hefyd yn ei gwneud yn eglur fod y cyfyngiadau ar gymysgu gwastraff peryglus a geir yn Rhan 4 o Reoliadau 2005 yn gymwys o'r adeg pan ddigwydd naill ai fod y gwastraff yn cael ei dderbyn ar gyfer ei gasglu, ei waredu neu ei adfer o fangre ddomestig neu fod y gwastraff yn cael ei dderbyn ar safle ar gyfer gwastraff domestig pan eir ag ef yno gan feddianwyr mangreoedd domestig.
Mae rheoliad 7 yn mewnosod rheoliad 14A newydd yn Rheoliadau 2005. Mae hyn yn ymestyn cymhwysiad darpariaeth a gynhwysid gynt yn rheoliad 30 o Reoliadau 2005 sy'n ymwneud â chynhyrchu gwastraff peryglus gan gwsmeriaid mewn mangre siop dros y cyfan o Reoliadau 2005.
Mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 21(1) o Reoliadau 2005 fel y bydd y gofyniad i hysbysu'r fangre yn gymwys pan fo gwastraff peryglus yn cael ei gasglu mewn unrhyw fangre ag eithrio mangre esempt.
Mae rheoliad 9 yn disodli rheoliad 23 o Reoliadau 2005 gyda rheoliad 23 newydd sy'n estyn yr esemptiad rhag y gofyniad i hysbysu'r fangre lle cynhyrchir gwastraff peryglus o fod ar gyfer mathau dynodedig o fangreoedd i fod ar gyfer unrhyw fangre sy'n llong neu sy'n fangre y mae'r terfynau cymwys yn gymwys iddi, cyn belled ag mai dim ond cludwr gwastraff sydd wedi'i gofrestru neu sy'n esempt sy'n symud ymaith y gwastraff peryglus.
Mae rheoliad 10 yn diwygio rheoliad 26 o Reoliadau 2005 er mwyn cwtogi ar swm yr wybodaeth y mae'n ofynnol i Asiantaeth yr Amgylchedd ei rhyddhau ynghylch mangre a hysbyswyd iddi.
Mae rheoliad 11 yn disodli rheoliad 30 o Reoliadau 2005 gyda rheoliad 30 newydd sy'n codi'r terfynau cymwys o 200kg i 500kg. Mae'r rheoliad newydd yn hepgor y cyfeiriad at wastraff peryglus a gynhyrchir gan gwsmeriaid mewn mangre siop gan y bydd hyn bellach wedi'i gymhwyso i'r cyfan o Reoliadau 2005.
Mae rheoliad 13 yn diwygio rheoliad 42 o Reoliadau 2005 er mwyn cywiro'r cyfeiriad at y rhan honno o ffurflen y nodyn traddodi amlgasgliad sy'n ffurfio tystysgrif y traddodai. Mae'r rheoliad hefyd yn cynnwys diwygiadau sy'n eglurhau cyfeiriadau at Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007.
Mae rheoliad 14 yn diwygio rheoliad 48(3) o Reoliadau 2005 i'w gwneud yn ofynnol i'r cofnod o wastraff peryglus gynnwys, fel sy'n gymwys, fanylion o'r dull gwaredu a fu ar y gwastraff yn ychwanegol at y dull adfer ar gyfer y gwastraff.
Mae rheoliad 15 yn cywiro rheoliad 49(1) o Reoliadau 2005 fel y bydd y rheoliad hwnnw yn gymwys pan nad yr un fydd traddodwr gwastraff peryglus a'i gynhyrchydd neu ei ddeiliad.
Mae Asesiad Effaith o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gost cydymffurfiaeth i fusnesau a'i fudd amgylcheddol ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
O.S. 2005/850. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]
1972 p.68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51). Back [2]
O.S. 2005/1806 (Cy.138), a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/3538; y mae offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol. Back [3]
1963 p. 41. Back [4]
1989 p. 14. Back [5]
O.S. 2007/3538. Back [6]