Gwnaed
24 Hydref 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Hydref 2009
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 4(4), 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2).
Yn unol ag adran 4(5) o'r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r awdurdodau penodedig ac unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol ganddynt(3) ac yn unol ag adran 4(7)(a) o'r Ddeddf honno maent wedi sicrhau fod pob awdurdod cyfunol a phob awdurdod priodol arall yn cytuno â gwneud y Gorchymyn hwn(4):
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Cyfunol y Gwasanaethau Tân ac Achub (Amrywio) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "cynlluniau perthnasol" ("relevant schemes") yw–
(a) Cynllun Cyfuno Gwasanaethau Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, a osodir yn yr Atodlen i Orchymyn Gwasanaethau Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995(5);
(b) Cynllun Cyfuno Gwasanaethau Tân Gogledd Cymru a osodir yn yr Atodlen i Orchymyn Gwasanaethau Tân Gogledd Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995(6); ac
(c) Cynllun Cyfuno Gwasanaethau Tân De Cymru a osodir yn yr Atodlen i Orchymyn Gwasanaethau Tân De Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995(7).
2. Mae pob un o'r cynlluniau perthnasol yn cael eu hamrywio fel a ganlyn–
(a) yn is-baragraff (9) o baragraff 21, dileer–
", but may, for the purposes of preparing the estimate referred to in sub-paragraph (2) and if the Authority so resolve, include such amount or amounts as the Authority considers appropriate with a view to minimising any upward revision of an estimate under sub-paragraph (6)";
(b) ar ôl paragraff 21, mewnosoder–
"21A.–(1) The Authority´s net expenses for the purposes of paragraph 21 may include such sum as is determined by the Authority for the purpose of providing reserves.
(2) The power for the Authority to create or hold reserves is without prejudice to any specific statutory power or duty which it may have to establish any other reserve.".
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Hydref 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn amrywio tri Chynllun Cyfunol Gwasanaethau Tân Cymru 1995 ("y Cynlluniau"), sef Cynllun Cyfuno Gwasanaethau Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cynllun Cyfuno Gwasanaethau Tân Gogledd Cymru a Chynllun Cyfuno Gwasanaethau Tân De Cymru a osodir yn yr Atodlenni i O.S. 1995/3229, O.S. 1995/3218 ac O.S. 1995/3230 yn eu trefn.
Mae erthygl 2 yn amrywio pob un o'r Cynlluniau drwy ddarparu y caiff pob awdurdod tân ac achub cyfunol yng Nghymru ddal cronfeydd ariannol wrth gefn.
2004 p.21. Back [1]
Mae pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
Mae adran 4(5) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn pennu'r cyrff a'r personau y mae'n rhaid ymgynghori â hwy. Back [3]
Mae adran 4(6) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn ei gwneud yn ofynnol bod ymchwiliad yn cael ei gynnal cyn bod gorchymyn yn cael ei wneud o dan adran 4(4) yn amrywio neu'n dirymu cynllun cyfuno. Mae adran 4(7) yn disgrifio dan ba amgylchiadau y gellir osgoi ymchwiliad, ac un ohonynt yw fod y cyrff a bennir yn adran 4(7)(a) yn cytuno â'r dirymiad neu'r amrywiad. Back [4]
O.S. 1995/3229. Back [5]
O.S. 1995/3218. Back [6]
O.S. 1995/3230. Back [7]