Gwnaed
10 Hydref 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Hydref 2009
Yn dod i rym
4 Tachwedd 2009
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 136(c), adran 210(7), ac adran 214(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) 2009 a deuant i rym ar 4 Tachwedd 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) 2007(2) fel a ganlyn.
(2) Yn nhestun Saesneg rheoliad 8(2)(a)(ii), ar ôl "the Police Act 1997", hepgorer y geiriau "of that Act".
(3) Yn nhestun Cymraeg rheoliad 8(2)(a)(ii), yn lle "o'r Ddeddf honno" rhodder "o Ddeddf yr Heddlu 1997".
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
10 Hydref 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Rheoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol) sy'n ymwneud â Diogelu Plant) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2544 (Cy.175) ("Rheoliadau 2009") yn gwneud diwygiadau i amrywiol setiau o reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Addysg 1996 (p.56), y Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.38), a Deddf Addysg 2002 (p.32) er mwyn adlewyrchu newidiadau fydd yn codi o ganlyniad i gychwyn (ar 12 Hydref 2009) y darpariaethau atal yn Neddf Diogelu Grwpiau Hawdd eu Niweidio 2006 (p.47) ("DDGHN") a chychwyn y darpariaethau newydd (a fewnosodwyd gan DDGHN) yn Neddf yr Heddlu 1997 (c. 50).
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2009 er mwyn cywiro dau gamgymeriad ynddynt. Mae Rheoliad 8(2)(a)(ii) o destun Saesneg Rheoliadau 2009 yn dyblygu cyfeiriad at Ddeddf yr Heddlu 1997 drwy gyfeirio at "the Police Act 1997" ac yna drwy gyfeirio at "that Act". Felly, mae rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hyn yn dileu'r cyfeiriad a ddyblygwyd. Mae Rheoliad 8(2)(a)(ii) o destun Cymraeg Rheoliadau 2009 yn hepgor cyfeiriad at Ddeddf yr Heddlu 1997 ac yn cyfeirio yn hytrach at "y Ddeddf honno". Felly mae rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau hyn yn rhoi'r geiriau "o Ddeddf yr Heddlu 1997" yn lle'r geiriau "o'r Ddeddf honno".
2002 p.32. Mae adran 210 wedi'i diwygio gan adran 21(1), (3)(a) ac (c)(i) a (ii) o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2). Back [1]
O.S. 2007/2220 (Cy.175) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2544 (Cy.206)). Back [2]