Gwnaed
7 Hydref 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Hydref 2009
Yn dod i rym
1 Tachwedd 2009
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwahardd Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Tachwedd 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Yn y Gorchymyn hwn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall–
ystyr "cragen fylchog" ("scallop") yw cragen o'r rhywogaeth Pecten maximus;
ystyr "cwch pysgota Prydeinig" ("British fishing boat") yw cwch pysgota sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(3) neu sydd dan berchnogaeth lwyr personau sy'n gymwys i berchnogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno;
mae i "Cymru" ("Wales") yr ystyr a roddir i "Wales" yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(4);
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967.
3. Ni chaiff unrhyw berson bysgota, cymryd na lladd cregyn bylchog yng Nghymru yn ystod y cyfnod 1 Tachwedd 2009 i 28 Chwefror 2010 gan gynnwys y dyddiadau hynny drwy unrhyw gyfrwng gan gynnwys plymio.
4.–(1) At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig yng Nghymru.
(2) Caiff y swyddog fynd ar y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar y cwch.
(3) Caiff y swyddog fynnu bod y meistr a phersonau eraill ar y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad neu ymholiad sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol at y diben o orfodi'r Gorchymyn hwn fel y'i darllenir gyda'r Ddeddf ac, yn arbennig–
(a) caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch ac offer y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol bod personau sydd ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;
(b) caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd ar y cwch gynhyrchu unrhyw ddogfen sydd dan gadwad neu ym meddiant y person hwnnw ac sy'n ymwneud â'r cwch, gweithrediadau pysgota'r cwch neu weithrediadau eraill sy'n ategol i hynny neu sy'n ymwneud â'r personau sydd ar y cwch a chaiff wneud copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;
(c) at ddibenion canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan y Ddeddf fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn, caiff archwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu bod unrhyw berson ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sydd, yn nhyb y swyddog, ei angen i hwyluso'r archwiliad; ac
(ch) os oes gan y swyddog reswm dros amau fod y cwch yn un y mae tramgwydd o'r fath wedi ei gyflawni mewn cysylltiad ag ef, caiff yn ddarostyngedig i baragraff (4) ddal gafael ar a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gynhyrchwyd neu a ganfyddwyd ar fwrdd y cwch at y diben o allu defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos llys am y tramgwydd.
(4) Nid oes dim ym mharagraff (3)(ch) yn caniatáu i unrhyw ddogfen, y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, gael ei chipio a'i chadw ac eithrio tra bydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.
(5) Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn wedi'i thorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog–
(a) mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd cyfleus agosaf yn ei dyb ef, neu fynnu bod meistr y cwch yn gwneud hynny; a
(b) cadw'r cwch yn y porthladd, neu fynnu bod meistr y cwch yn gwneud hynny;
a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch neu'n ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn cael ei gadw, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
(6) Yn yr erthygl hon, ystyr "swyddog" ("officer") yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
5. Dirymir Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2005(5).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru.
7 Hydref 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer tymor caeëdig mewn perthynas â physgota cregyn bylchog yng Nghymru yn ystod y cyfnod o 1 Tachwedd 2009 i 28 Chwefror 2010.
Mae erthygl 4 yn gosod pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn, yn ychwanegol at eu pwerau o dan Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 ("y Ddeddf"). Dylid nodi hefyd, yn rhinwedd adran 5(6) o'r Ddeddf (fel y'i diwygiwyd gan adran 22(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981), os, yn ystod unrhyw weithrediadau pysgota a ddigwydd yng Nghymru, caiff pysgod môr (gan gynnwys pysgod cregyn) eu dal yn groes i'r Gorchymyn hwn, ac os cânt eu cymryd ar fwrdd cwch pysgota y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, rhaid dychwelyd y pysgod môr hynny i'r môr ar unwaith (yn ddarostyngedig i adran 9 o'r Ddeddf).
Mae erthygl 5 yn dirymu Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) 2005.
Gwnaed asesiad effaith rheoleiddiol mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn ac mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1967 p.84. Disodlwyd adran 5(1) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p. 29), adran 22(1). Mewnosodwyd adran 5A gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 103(1). Disodlwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77), adran 22(1), Atodlen 1, Rhan II, paragraff 38(3) a'i diwygio gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86), adran 9(1), Atodlen 2, paragraff 16(1) a'i diwygio ymhellach gan O.S. 1999/1820, erthygl 4, Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 43(1) a (2)(b). Gweler adran 22(2) i gael y diffiniadau o "the Ministers". Cafodd adran 22(2) ei diwygio gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adrannau 19(2)(d), a 45(a), (b) ac (c), a 46(2), Atodlen 5, Rhan II a chan O.S. 1999/1820, erthygl 4, Atodlen 2, paragraff 43(1), (12) a Rhan IV a chan Ddeddf Cyfansoddiad Gogledd Iwerddon 1973, adran 40, Atodlen 5, paragraff 8(1). Back [1]
Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adrannau 5, 5A, 15 a 20 o Ddeddf 1967 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru (gan weithredu'n gyfamserol â'r Ysgrifennydd Gwladol o ran adran 15(3)). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [2]
1995 p.21. Back [3]
2006 p.32. Back [4]
O.S. 2005/1717 (Cy.132). Back [5]