Gwnaed
15 Medi 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
21 Medi 2009
Yn dod i rym
12 Hydref 2009
Sefydliadau ac asiantaethau, gwasanaethau a chyfleusterau – gofal cymdeithasol ac iechyd oedolion
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 68(1) a (2), 79C(2) a (3), 79M(1)(c) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1) a pharagraff 4 o Atodlen 9A iddi, adrannau 12(2)(a), 16(1)(a), 22(1), (2)(a), (b), (d) ac (e), 48(1)(a) ac 118(1), (6)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) ac adrannau 9(1), 10(1)(a), (3)(a) ac (e), 140(1) a (7) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(3):
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 12 Hydref 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002(4) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (y person cofrestredig – ei addasrwydd)–
(a) yn lle paragraff 3(c) rhodder–
"(c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person–
(i) ac eithrio os yw paragraff (5) yn gymwys, mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;
(ii) os yw paragraff (5) yn gymwys, mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2 a 4 o Atodlen 2.";
(b) hepgorer paragraff (4).
(3) Yn rheoliad 4B(5) (y person â gofal – ei addasrwydd)–
(a) yn lle paragraff (3)(c) rhodder–
"(c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.";
(b) hepgorer paragraff (4).
(4) Yn rheoliad 16 (addasrwydd gweithwyr)–
(a) yn lle paragraff (2)(ch) rhodder–
"(ch) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.";
(b) ym mharagraff (4)(b), yn lle'r geiriau "oni bai bod paragraff (5) yn gymwys" rhodder "oni bai bod paragraff (5) neu (5A) yn gymwys.";
(c) yn lle paragraff (5)(b) rhodder–
"(b) y cafwyd gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw mewn cysylltiad â'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 2.".
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio gweithredu fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd neu'n ceisio gweithio drostynt)–
(a) yn lle paragraff 2 rhodder–
"2. Naill ai–
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 10A o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002(6) tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(7) ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2)(8) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A(9) o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi";
(b) hepgorer paragraffau 7 ac 8.
3.–(1) Diwygier yr Atodlen i Reoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004(10) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 3, yn lle "78C" rhodder "79C"
(3) Yn lle paragraff 33 rhodder–
33. Person sy'n ddarostyngedig i gyfarwyddyd a wnaed, neu y mae iddo effaith fel pe bai wedi'i wneud, o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002(11) ar y seiliau a osodir yn is-adran (4)(a), (b) neu (d) o'r adran honno."
(4) Yn lle paragraff 34 rhodder–
34. Person sydd wedi'i wahardd rhag gweithgaredd a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(12)"
4.–(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(13) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (1) o reoliad 23 (gofyniad i wneud gwiriadau gyda'r heddlu) rhodder–
"(1) Mewn cysylltiad â'r darpar fabwysiadydd ac unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar fabwysiadydd sy'n 18 oed neu drosodd, rhaid i asiantaeth fabwysiadu gael tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno).".
5.–(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005(14) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae'n ofynnol ei chael am yr unigolyn cyfrifol neu am bersonau sy'n ceisio rheoli neu weithio at ddibenion asiantaeth) rhodder–
"2. Naill ai–
(a) os yw'r dystysgrif yn ofynnol at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.".
6.–(1) Mae Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(15) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)–
(a) Ym mharagraff (3)(c) rhodder–
"(c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 5 a 6 o Atodlen 2.";
(b) hepgorer paragraff (4).
(3) Yn rheoliad 8 (ffitrwydd y rheolwr)–
(a) yn lle paragraff (2)(c) rhodder–
"(c) oni bai bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2."
(b) yn lle paragraff (2E)(16) rhodder–
"(2E) Ni fydd person yn ffit i reoli cartref plant onid yw wedi ei gofrestru'n rheolwr gyda Chyngor Gofal Cymru.";
(c) hepgorer paragraff (3).
(4) Yn rheoliad 26 (ffitrwydd gweithwyr)–
(a) yn lle paragraff (2)(ch) rhodder–
"(ch) yn ddarostyngedig i baragraff (2G), bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2"
(b) ym mharagraff (4)(b), yn lle'r geiriau "oni bai bod paragraff (5) yn gymwys" rhodder "oni bai bod paragraff (5) neu (5A) yn gymwys.";
(c) yn lle paragraff (5) (b) rhodder–
"(b) y cafwyd gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw mewn cysylltiad â'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 2 o Atodlen 2.".
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli cartref plant neu weithio mewn un) –
(a) yn lle paragraff 2 rhodder–
"2. Naill ai–
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol safonol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.";
(b) hepgorer paragraffau 7 ac 8.
7.–(1) Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(17) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 1 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli gwasanaeth maethu neu weithio at ddibenion y gwasanaeth hwnnw) rhodder–
"2. Naill ai–
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.".
(3) Yn lle paragraff 13 o Atodlen 3 ( gwybodaeth am ddarpar riant maeth ac aelodau eraill o aelwyd a theulu'r darpar riant maeth) rhodder–
"13. Mewn cysylltiad â'r darpar riant maeth ac unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar riant maeth sy'n 18 oed neu drosodd, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno).".
8.–(1) Mae Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007(18) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 3 (gwybodaeth y mae ei hangen am bersonau sy'n gwneud cais am reoli neu weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu) rhodder–
"2. Naill ai–
(a) os oes angen y dystysgrif ar gyfer swydd sy'n dod o dan reoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.".
9.–(1) Mae Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003(19) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)–
(a) yn lle paragraff (3)(c) rhodder–
"(c) bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r unigolyn mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2.";
(b) hepgorer paragraff (4)
(3) Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y rheolwr)–
(a) yn lle paragraff (2)(c) rhodder–
"(c) bod gwybodaeth a dogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl fel y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person mewn cysylltiad â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2."
(b) hepgorer paragraff (3).
(4) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli canolfan breswyl i deuluoedd neu weithio mewn un) –
(a) yn lle paragraff 2 rhodder–
"2. Naill ai–
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.";
(b) hepgorer paragraff 7.
10.–(1) Mae Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion Cymru 2004(20) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 3 (gwybodaeth a dogfennau sydd i fod ar gael mewn perthynas â gofalwyr lleoliadau oedolion, personau sy'n darparu gwasanaethau gofal at ddibenion lleoliad oedolion, personau sy'n darparu ac yn rheoli cynlluniau lleoli oedolion) rhodder–
"2. Naill ai–
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.".
11.–(1) Mae Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(21) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)–
(a) yn lle paragraff (3)(c)(ii) rhodder–
"(ii) os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 6 o Atodlen 2;";
(b) yn lle paragraff (3)(c)(iii) rhodder–
"(iii) ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).";
(c) yn lle paragraff (4) rhodder–
"(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys –
(a) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(b) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.".
(3) Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr cofrestredig)–
(a) yn lle paragraff (2)(c)(ii) rhodder–
"(ii) pan fydd paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 6 o Atodlen 2.";
(b) yn lle paragraff (2)(c)(iii) rhodder–
"(iii) ac ymhellach, pan fydd paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).";
(c) yn lle paragraff (3) rhodder–
"(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys –
(a) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(b) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.".
(4) Yn rheoliad 19 (ffitrwydd y gweithwyr)–
(a) yn lle paragraff (2)(ch)(ii) rhodder–
"(ii) pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 6 o'r Atodlen honno;";
(b) ar ôl paragraff (2)(ch)(ii) mewnosoder–
"(iii) ac ymhellach, pan fydd paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).";
(c) yn lle paragraff (3) rhodder–
"(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys –
(i) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(ii) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.";
(ch) yn lle paragraff (5)(b)(iii) rhodder–
"(iii) pan fydd paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).";
(d) ar ôl paragraff (5A)(b) mewnosoder–
"(ba) bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno);";
(dd) hepgorer is-baragraff (6).
(5) Yn lle paragraff (5) o reoliad 43 (marwolaeth person cofrestredig) rhodder–
"(5) Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i reoli'r cartref gofal yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant, yn unol â pharagraff (3), yn rhedeg y cartref gofal heb fod wedi eu cofrestru mewn cysylltiad ag ef.".
(6) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth a'r dogfennau sydd i fod ar gael mewn perthynas â phersonau sy'n rhedeg neu reoli cartrefi gofal neu weithio ynddynt)–
(a) yn lle paragraff 2 rhodder–
"2. Naill ai–
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.";
(b) hepgorer paragraffau 7 ac 8.
12.–(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004(22) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â darparwyr a rheolwyr cofrestredig asiantaeth a phersonau sydd wedi'u henwi i ddirprwyo ar gyfer person cofrestredig)
(a) yn lle paragraff 3 rhodder–
"3. Naill ai–
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.";
(b) hepgorer paragraff 11.
(3) Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth a'r ddogfennaeth sydd i fod ar gael mewn perthynas â gweithwyr gofal cartref) –
(a) yn lle paragraff 4 rhodder–
"4. Naill ai–
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys gwybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) ac, os yw'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno); neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.";
(b) hepgorer paragraff 13.
13.–(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru)2003(23) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)–
(a) yn lle paragraff (3)(c)(ii) rhodder–
"(ii) os yw paragraff (4) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2;";
(b) ar ôl paragraff (3)(c)(ii) mewnosoder–
"(iii) ac ymhellach, os yw paragraff (4) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).";
(c) yn lle paragraff (4) rhodder–
"(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys –
(a) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(b) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.".
(3) Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr)–
(a) yn lle paragraff (2)(c)(ii) rhodder–
"(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2;";
(b) ar ôl paragraff (2)(c)(ii) mewnosoder–
"(iii) ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).";
(c) yn lle paragraff (3) rhodder–
"(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys –
(a) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(b) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.".
(4) Yn rheoliad 12 (ffitrwydd y nyrsys sy'n cael eu cyflenwi gan asiantaeth)–
(a) yn lle paragraff (1)(ch)(ii) rhodder–
"(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 i 3 a 6 i 13 o Atodlen 3;";
(b) ym mharagraff (1)(ch) mewnosoder ar ôl paragraff (1)(ch)(ii)–
"(iii) ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).";
(c) yn lle paragraff (2)(ii) rhodder–
"(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, am bob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 8 o Atodlen 2;";
(ch) ar ôl paragraff (2)(ii) mewnosoder–
"(iii) ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).";
(d) yn lle paragraff (3) rhodder–
"(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys –
(a) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(b) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.".
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â darparwyr a rheolwyr cofrestredig asiantaeth a nyrsys sy'n gyfrifol am ddewis nyrsys i'w cyflenwi i ddefnyddwyr gwasanaeth)–
(a) yn lle paragraff 2 rhodder–
"2. Naill ai–
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.";
(b) hepgorer paragraffau 9 ac 10.
(6) Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â nyrsys sydd i'w cyflenwi gan asiantaeth)–
(a) yn lle paragraff 4 rhodder–
"4. Naill ai–
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno neu'r ddwy; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997.";
(b) hepgorer paragraffau 5 ac 14.
14.–(1) Mae Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002(24) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)–
(a) yn lle paragraff (3)(c)(ii) rhodder–
"(ii) os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;".
(b) yn lle paragraff (3)(c)(iii) rhodder–
"(iii) ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).";
(c) yn lle paragraff (4) rhodder–
"(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys –
(a) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(b) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.".
(3) Yn rheoliad 11 (ffitrwydd y rheolwr)–
(a) yn lle paragraff (2)(c)(ii) rhodder–
"(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;";
(b) yn lle paragraff (2)(c)(iii) rhodder–
"(iii) ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).";
(c) yn lle paragraff (3) rhodder–
"(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys –
(a) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(b) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant."
(4) Yn rheoliad 18 (ffitrwydd y gweithwyr)–
(a) yn lle paragraff (2)(ch)(ii) rhodder–
"(ii) os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;";
(b) ar ôl paragraff (2)(ch)(ii) mewnosoder–
"(iii) ac ymhellach, os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).";
(c) yn lle paragraff (3), rhodder–
"(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys –
(i) pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi ei dyroddi; a
(ii) pan na fydd yr unigolyn yn ymgymryd â gweithgaredd wedi ei reoli sy'n ymwneud â phlant.";
(ch) ym mharagraff (4)(b) yn lle'r geiriau "oni bai bod paragraff (5) yn gymwys" rhodder "oni bai bod paragraff (5) neu (5A) yn gymwys";
(d) yn lle paragraff (5)(b)(iii) rhodder–
"(iii) os yw paragraff (3) yn gymwys, bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).";
(dd) ym mharagraff (5A) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder–
"(ba) bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno);".
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sydd am redeg neu reoli sefydliad neu weithio ynddo) –
(a) yn lle paragraff 2 rhodder–
"2. Naill ai–
(a) os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu os yw'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.";
(b) hepgorer paragraffau 8 ac 9 .
15.–(1) Mae Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008(25) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (2)(g) o reoliad 5 (gwybodaeth a dogfennau sydd i'w darparu gan geisydd) rhodder–
"(g) tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy, ac y cydlofnodwyd y cais amdani ar ran yr awdurdod cofrestru;".
(3) Yn lle paragraff (4) o reoliad 13 (ffitrwydd person cofrestredig) rhodder–
"(4) Caiff yr awdurdod cofrestru ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig wneud cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl wedi ei dyroddi o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy, a rhaid i'r cyfryw gais gael ei gydlofnodi ar ran yr awdurdod cofrestru.".
(4) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 2 (gwybodaeth a dogfennau a fydd ar gael ynghylch personau cofrestredig) rhodder–
"2. Tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth am addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi."
16.–(1) Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(26) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 (y dogfennau i'w cyflenwi wrth i berson wneud cais am gael ei gofrestru'n berson sy'n rhedeg sefydliad neu asiantaeth)–
(a) yn lle paragraff 4 rhodder–
"4. In relation to the responsible person–
(a) an enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes, as applicable, suitability information in relation to vulnerable adults (within the meaning of section 113BB (2) of that Act) or suitability information relating to children (within the meaning of section 113BB (2) of that Act) or both; and
(b) the application for that certificate which was countersigned by the Welsh Ministers."
(b) yn lle paragraff 9A rhodder–
"9A Notwithstanding paragraph 4, where the responsible person has applied for a certificate referred to in paragraph 4, but the certificate has not been issued and the responsible person will not be engaging in regulated activity related to children–
(a) a statement confirming that the documents specified in paragraph 4 have been applied for and that the applicant, or where the applicant is an organisation, the responsible individual, will advise the Welsh Ministers on receipt that they are available for inspection; and
(b) notification under section 113E (4) (a) of the Police Act 1997 that the individual is not included on a specified adults' list (within the meaning of section 113E of that Act)
(c) yn lle paragraff 10(2) rhodder–
"(2) The following documents are specified–
(a) where the position falls within regulation 5A of the Police Act 1997 (Criminal Records) Regulations 2002, an enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes, as applicable, suitability information relating to vulnerable adults (within the meaning of section 112BB (2)of that Act) or suitability information relating to children (within the meaning of section 113BA (2) of that Act) or both; or
(b) in any other case, a criminal record certificate issued under section 113A of the Police Act 1997;".
(3) Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth a'r dogfennau i'w cyflenwi wrth i berson wneud cais am gael ei gofrestru'n rheolwr sefydliad neu asiantaeth)–
(a) hepgorer paragraff 12.
(b) yn lle paragraff 13, rhodder–
"13.–(1) An enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes, as applicable, suitability information in relation to vulnerable adults (within the meaning of section 113BB (2) of that Act) or suitability information relating to children (within the meaning of section 113BB (2) of that Act) or both; and
(2) the application for that certificate which was countersigned by the Welsh Ministers."
(c) yn lle paragraff 13A rhodder–
"(13A) Notwithstanding paragraph 13, where the responsible person has applied for a certificate referred to in paragraph 13, but the certificate has not been issued and the responsible person will not be engaging in regulated activity related to children–
(a) a statement confirming that the documents specified in paragraph 13 have been applied for and that the applicant, or where the applicant is an organisation, the responsible individual, will advise the Welsh Ministers on receipt that they are available for inspection; and
(b) notification under section 113E (4) (a) of the Police Act 1997 that the individual is not included on a specified adults' list (within the meaning of section 113E of that Act).".
(4) Yn Atodlen 8 (y dogfennau i'w cyflenwi wrth i berson wneud cais am gael ei gofrestru'n warchodwr plant neu'n ddarparydd gofal dydd)–
(a) yn lle paragraff 4 rhodder–
"4. In relation to the responsible person and the person in charge–
(a) an enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes suitability information in relation to children (within the meaning of section 113BA (2) of that Act);
(b) the application for that certificate which was countersigned by the Welsh Ministers.";
(b) hepgorer paragraff 9.
(c) yn lle paragraff 10(2) rhodder–
"(2) The following documents are specified–
(a) where the position falls within regulation 5A of the Police Act 1997 (Criminal Records) Regulations 2002, an enhanced criminal record certificate issued under section 113B of the Police Act 1997 which includes suitability information relating to children (within the meaning of section 113BA (2) of that Act); or
(b) in any other case, a criminal record certificate issued under section 113A of the Police Act 1997.".
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau at Ddeddf yr Heddlu 1997 (p.50) mewn darpariaethau a geir mewn amryw setiau o reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Plant 1989 (p.41), Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14) a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38). Mae'r Rheoliadau sy'n cael eu diwygio'n ymwneud â gwarchod plant, gofal dydd, asiantaethau mabwysiadu, asiantaethau cymorth mabwysiadu, cartrefi plant, asiantaethau maethu, gwasanaethau mabwysiadu llywodraeth leol, canolfannau preswyl i deuluoedd, cynlluniau lleoli oedolion, cartrefi gofal, asiantaethau gofal cartref, asiantaethau nyrsys, sefydliadau ac asiantaethau gofal iechyd preifat a gwirfoddol a gwasanaethau deintyddol preifat.
Gwneir y diwygiadau er mwyn adlewyrchu newidiadau sydd wedi digwydd yn sgil diwygiadau sydd wedi eu gwneud i Ddeddf yr Heddlu 1997 gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Un o'r newidiadau yw na fydd gwybodaeth ynghylch p'un a yw person wedi ei wahardd rhag gweithio gyda grwpiau hyglwyf (gwybodaeth am addasrwydd) ar gael ond mewn achosion rhagnodedig pan wneir cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl. Yn gyfredol, mae'r cyfryw wybodaeth hefyd ar gael mewn amgylchiadau penodedig gyda thystysgrif cofnod troseddol safonol.
Mae mwyafrif y diwygiadau a wneir yn y Rheoliadau hyn yn ymwneud â darpariaethau sy'n pennu pa wybodaeth y mae'n rhaid iddi fod ar gael pan fo person yn bwriadu rhedeg neu reoli asiantaeth neu sefydliad y mae'n ofynnol i berson gael ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â hi neu ag ef, neu weithio at ddibenion asiantaeth neu sefydliad o'r fath. Mae'r Rheoliadau hefyd yn cynnwys diwygiadau sy'n pennu pa wybodaeth y mae'n rhaid iddi fod ar gael pan fo person am weithredu fel gwarchodwr plant neu am ddarparu gofal dydd neu pan fo am weithio i warchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd pan fo'n ofynnol i berson gael ei gofrestru o dan Ran 10A o Ddeddf Plant 1989. Yn ychwanegol at hyn, mae'r Rheoliadau'n cynnwys diwygiadau sy'n ymwneud â darpariaethau yn Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1313) sy'n pennu pa wiriadau y mae'n rhaid i asiantaeth fabwysiadu eu gwneud mewn cysylltiad â darpar fabwysiadydd ac aelodau o aelwyd y darpar fabwysiadydd sy'n oedolion a darpariaethau cyffelyb yn Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 (O.S. 2003/237) mewn perthynas â gwiriadau ar ddarpar rieni maeth ac aelodau o'u haelwyd sy'n oedolion.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diweddaru cyfeiriadau cyffelyb at ddarpariaethau yn Neddf yr Heddlu 1997 yn Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 (O.S. 2002/919). Mae'r Rheoliadau hyn dyddiedig 2002 yn gymwys i sefydliadau ac asiantaethau sy'n ymwneud ag oedolion, iechyd a phlant, gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd ac maent yn llywodraethu'r wybodaeth a'r dogfennau y mae'n rhaid eu darparu pan fyddant yn gwneud cais am gael eu cofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 neu am gael eu cofrestru o dan ran 10A o Ddeddf Plant 1989.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys diwygiadau i reoliadau amrywiol a wnaed o dan Ddeddf Plant 1989, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 drwy ddileu cyfeiriadau at wiriadau heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 gan nad yw'r rhain ar gael mwyach. Mae cyfeiriadau at adroddiadau ar wiriadau ar y rhestrau a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (a elwir yn "rhestr POCA") ac o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (a elwir yn "Rhestr 99") hefyd wedi eu dileu gan na ellir cyrchu'r wybodaeth ar y rhestrau hyn ond drwy dystysgrif cofnod troseddol fanwl. Effaith y diwygiadau hyn yw bod yn rhaid i dystysgrif cofnod troseddol fanwl fod ar gael pan fo person y mae'r rheoliadau perthnasol yn gymwys iddo'n ymgymryd â gweithgaredd a reolir ac sy'n ymwneud â phlant.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys diwygiadau sy'n cyfeirio at hysbysiadau o dan Ddeddf yr Heddlu 1997 sy'n datgan nad yw unigolyn wedi ei gynnwys ar "restr oedolion penodedig". Bydd yr uchod yn cynnwys y rhestr Amddiffyn Oedolion Hyglwyf (POVA) a gedwir o dan adran 89 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a'r rhestr oedolion gwaharddedig o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006. Effaith y diwygiadau yw caniatáu i berson y mae'r rheoliadau perthnasol yn gymwys iddo gael ei gofrestru neu weithio at ddibenion asiantaeth neu sefydliad y mae'n ofynnol iddi gael ei chofrestru neu iddo gael ei gofrestru os gwnaed cais am dystysgrif cofnod troseddol fanwl ond nas dyroddwyd ar yr amod bod y cyfryw hysbysiad wedi dod i law.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2695). Gwneir y diwygiadau er mwyn diweddaru'r seiliau ar gyfer datgymhwyso o dan Reoliadau 2004 er mwyn cynnwys pan fydd person wedi'i gynnwys ar y rhestr waharddedig o ran plant a sefydlwyd gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiad i Reoliadau 2004 ynglŷn â seiliau'r datgymhwysiad pan fydd person wedi'i wahardd rhag addysgu. Disodlir cyfeiriad at restr Deddf Diwygio Addysg gan gyfeiriad at gyfarwyddyd a wneir o dan Ddeddf Addysg 2002. Dilewyd hefyd y cyfeiriad at restr Deddf Addysg 1996 am fod y darpariaethau hyn wedi cael eu diddymu.
Gwneir mân ddiwygiad hefyd i Reoliadau 2004 er mwyn cywiro gwall ynglŷn â thramgwyddau penodedig sy'n sail i ddatgymhwysiad.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau i ddarpariaethau penodol yn Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002. Diben y diwygiadau yw dileu anghysonder mewn perthynas â rheoliad 6 (Ffitrwydd y darparydd cofrestredig); mewn perthynas â rheoliad 8 (Ffitrwydd y rheolwr), dirymu ac ailddeddfu gofyniad mewn perthynas â chofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru ac, mewn perthynas â rheoliad 26 (Ffitrwydd gweithwyr), egluro y caniateir i berson gael ei gyflogi i weithio mewn cartref plant tra bydd yn aros i'w gofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru, ar yr amod bod y gwaith o'i gofrestru'n cael ei gwblhau cyn pen y cyfnod o amser a bennir yn Rheoliadau 2002.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiad i reoliad 43 o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 er mwyn cywiro gwall.
1989 p.41. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 79C(2) a 104(4) i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]
2000 p.14. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
2002 p.38. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [3]
O.S. 2002/812 (Cy.92). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/2171 (Cy.218), O.S. 2002/2622 (Cy.254), O.S. 2003/2708 (Cy.259) ac O.S. 2004/2414 (Cy.222). Back [4]
Mewnosodwyd rheoliad 4B gan O.S. 2003/2708 (Cy.259). Back [5]
O.S. 2002/233. Mewnosodwyd Rheoliad 5A gan O.S. 2006/748. Mae diwygiadau pellach yn cael eu drafftio i reoliad 5A a bydd y rhain mewn grym o 12 Hydref 2009 ymlaen. Back [6]
1997 p.50. Mewnosodwyd adran 113B gan Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.15). Diwygir is-adran (2) o adran 113B gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006. Back [7]
Mewnosodwyd adran 113BA gan adran 63(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) a pharagraff 14 o Atodlen 9 iddi. Back [8]
Mewnosodwyd adran 113A gan Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.15). Back [9]
O.S. 2004/2695 (Cy.235). Back [10]
2002 p.32. Back [11]
2006 p.47. Back [12]
O.S. 2005/1313 (Cy.95). Back [13]
O.S. 2005/1514 (Cy.118). Back [14]
O.S. 2002/327 (Cy.40). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/2622 (Cy.254), O.S. 2004/2414 (Cy.222) ac O.S. 2007/311 (Cy.28). Back [15]
Mewnosodwyd paragraff (2E) o reoliad 8 gan O.S. 2007/311 (Cy.28). Back [16]
O.S. 2003/237 (Cy.35). Back [17]
O.S. 2007/1357 (Cy.128). Back [18]
O.S. 2003/781 (Cy.92). Back [19]
O.S. 2004/1756 (Cy.188). Back [20]
O.S. 2002/324 (Cy.37). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/2622 (Cy.254) ac O.S. 2004/2414 (Cy.222). Back [21]
O.S. 2004/219 (Cy.23). Yr offeryn diwygio perthnasol yw 2004/2414 (Cy.222). Back [22]
O.S. 2003/2527 (Cy.242). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2003/3054 (Cy.292) ac O.S. 2004/2414 (Cy.222). Back [23]
O.S. 2002/325 (Cy.38). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw 2002/2622 (Cy.254) a 2004/2414 (Cy.222). Back [24]
O.S. 2008/1976 (Cy.185). Back [25]
O.S. 2002/919 (Cy.107). Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2002/2622 (Cy.254). Back [26]