Gwnaed
15 Medi 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 245(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae darpariaethau canlynol Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, yn dod i rym ar 1 Hydref 2009–
(a) adran 126 (cyfeirio materion trosedd ac anhrefn at bwyllgorau trosedd ac anhrefn, etc.);
(b) y cofnod yn Rhan 6 o Atodlen 18 (diddymiadau) sy'n ymwneud â Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p.48); ac
(c) adran 241(diddymiadau) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cofnod a bennir yn (b) uchod.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 126 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (p.28) ("Deddf 2007") ar 1 Hydref 2009 o ran Cymru.
Mae adran 126 yn gwneud diwygiadau i adran 19 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 ("Deddf 2006"), gan gynnwys yn benodol roi is-adrannau 19(3) i (8B) newydd yn lle'r hen rai. Mae'r darpariaethau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol sicrhau bod gan ei bwyllgor trosedd ac anhrefn (fel y cafodd ei greu o dan adran 19 o Ddeddf 2006) y pŵer i lunio adroddiad neu wneud argymhellion ynghylch materion perthnasol i'r awdurdod lleol, ac iddo sicrhau bod gan unrhyw aelod o'r awdurdod lleol nad yw'n aelod o'r pwyllgor y pŵer i gyfeirio materion perthnasol at y pwyllgor. Mae'r darpariaethau newydd hefyd yn nodi gweithdrefnau penodol y mae'n rhaid eu dilyn pan yw person yn cyfeirio mater perthnasol at yr awdurdod lleol.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn cychwyn diddymiad cysylltiedig.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Rhan 1 | 01.11.2007 | 2007/3136 |
Adran 75 | 13.02.2008 | 2008/337 |
Adran 76 (yn rhannol) | 01.04.2008 | 2008/917 |
77 (yn rhannol) | 01.04.2008 | 2008/917 |
(y gweddill) | 31.12.2008 | 2008/3110 |
Adran 78 | 31.12.2008 | 2008/3110 |
Adrannau 79 i 102 | 13.02.2008 | 2008/337 |
Adran 116 | 01.04.2008 | 2008/461 |
Adran 119 (yn rhannol) | 12.12.2008 | 2008/3110 |
(y gweddill) | 01.04.2009 | 2008/3110 |
Adran 120 | 01.04.2009 | 2008/3110 |
Adran 121 | 01.04.2009 | 2008/3110 |
Adran 122 | 01.04.2009 | 2008/3110 |
Adran 123 | 01.04.2009 | 2008/3110 |
Adran 124 | 01.04.2009 | 2008/3110 |
Adran 125 | 12.12.2008 | 2008/3110 |
Adran 127 | 01.04.2009 | 2008/3110 |
Adran 128 | 01.04.2009 | 2008/3110 |
Adran 136 | 01.04.2008 | 2008/917 |
Adran 137 (yn rhannol) | 01.04.2008 | 2008/917 |
(y gweddill) | 01.04.2008 | 2008/591 (Cy.60) |
Adran 138 | 01.04.2009 | 2008/917 |
Adran 139 | 01.04.2008 | 2008/917 |
Adran 140 (yn rhannol) | 01.04.2008 | 2008/917 |
(y gweddill) | 01.04.2008 | 2008/591 (Cy.60) |
Adran 144 | 01.04.2008 | 2008/917 |
Adran 145 | 01.08.2009 | 2008/3110 |
Adrannau 146 a 147 | 01.04.2008 | 2008/172 |
Adran 148 | 31.03.2008 | 2008/172 |
Adran 149 | 31.01.2008 | 2008/172 |
Adran 150 | 01.04.2008 | 2008/172 |
Adran 151 | 31.01.2008 | 2008/172 |
Adran 152 | 01.04.2008 | 2008/172 |
Adrannau 153 i 155 | 31.01.2008 | 2008/172 |
Adrannau 156 a 157 | 01.04.2008 | 2008/172 |
Adran 158 | 01.08.2009 | 2008/3110 |
Adrannau 159 i 163 | 01.04.2008 | 2008/172 |
Adran 164 | 31.01.2008 | 2008/172 |
Adran 165 | 01.04.2008 | 2008/172 |
Adrannau 166 a 167 | 31.01.2008 | 2008/172 |
Adrannau 168 i 179 | 01.04.2008 | 2008/917 |
Adran 180 | 01.04.2009 | 2008/917 |
Adrannau 181 a 182 | 01.04.2008 | 2008/917 |
Adran 183 (yn rhannol) | 31.01.2008 | 2008/172 |
Adran 184 | 31.01.2008 | 2008/172 |
Adran 185 (yn rhannol) | 31.01.2008 | 2008/172 |
(y gweddill) | 08.05.2008 | 2008/1265 |
Adran 186 | 08.05.2008 | 2008/1265 |
Adran 187 | 01.04.2008 | 2008/172 |
Adrannau 188 i 190 | 31.01.2008 | 2008/172 |
Adran 191 (yn rhannol) | 31.01.2008 | 2008/172 |
(y gweddill) | 01.04.2008 | 2008/172 |
Adran 192 (yn rhannol) | 31.01.2008 | 2008/172 |
(y gweddill) | 12.12.2008 | 2008/3110 |
Adrannau 193 i 195 | 31.01.2008 | 2008/172 |
Adran 196 | 01.04.2008 | 2008/172 |
Adran 197 | 12.12.2008 | 2008/3110 |
Adran 198 (yn rhannol) | 31.01.2008 | 2008/172 |
(y gweddill) | 12.12.2008 | 2008/3110 |
Adran 199 | 12.12.2008 | 2008/3110 |
Adrannau 200 a 201 | 01.04.2008 | 2008/172 |
Adran 202 (yn rhannol) | 31.01.2008 | 2008/172 |
(y gweddill) | 01.04.2008 | 2008/172 |
Adran 203 | 01.04.2008 | 2008/172 |
Adran 204 | 31.01.2008 | 2008/172 |
Adrannau 205 i 209 | 01.04.2008 | 2008/917 |
Adran 210 | 01.04.2008 | 2008/591 (Cy.60) |
Adran 211 | 01.04.2008 | 2008/917 |
Adran 219 (yn rhannol) | 01.04.2008 01.04.2008 | 2008/917 2008/3110 |
12.12.2008 | 2008/3110 | |
(y gweddill) | 01.10.2009 | 2008/3110 |
Adran 220 (yn rhannol) | 01.04.2008 | 2008/917 |
(y gweddill) | 01.10.2009 | 2008/3110 |
Adrannau 221 a 222 | 01.04.2008 | 2008/461 |
Adrannau 223 a 224 | 21.02.2008 | 2008/461 |
Adran 225 | 31.01.2008 | 2008/172 |
Adran 226 (yn rhannol) | 21.02.2008 | 2008/461 |
(y gweddill) | 01.04.2008 | 2008/461 |
Adran 227 (yn rhannol) | 10.03.2008 | 2008/461 |
(y gweddill) | 01.04.2008 | 2008/461 |
Adran 228 (yn rhannol) | 21.02.2008 | 2008/461 |
(y gweddill) | 01.04.2008 | 2008/461 |
Adran 229 | 31.01.2008 | 2008/172 |
Adrannau 230 a 231 | 01.04.2008 | 2008/461 |
Adran 232 (yn rhannol) | 01.04.2008 | 2008/461 |
(y gweddill) | 30.06.2008 | 2008/461 |
Adran 233 (yn rhannol) | 26.09.2008 | 2008/2434 |
(y gweddill) | 03.11.2008 | 2008/2434 |
Adran 234 | 03.11.2008 | 2008/2434 |
Adran 236 (yn rhannol) | 12.12.2008 | 2008/3110 |
(y gweddill) | 01.04.2009 | 2008/3110 |
Adran 237 | 12.12.2008 | 2008/3110 |
Adran 238 | 31.01.2008 | 2008/172 |
Adran 239 | 01.04.2008 | 2008/917 |
Adran 241 (yn rhannol) | 01.11.2007 | 2007/3136 |
31.01.2008 | 2008/172 | |
13.02.2008 | 2008/337 | |
01.04.2008 | 2008/172 | |
01.04.2008 | 2008/461 | |
01.04.2008 | 2008/591 (Cy.60) | |
01.04.2008 | 2008/917 | |
30.06.2008 | 2008/461 | |
Adran 243 | 21.02.2008 | 2008/461 |
Atodlen 1 | 01.11.2007 | 2007/3136 |
Atodlen 5 (yn rhannol) | 13.02.2008 | 2008/337 |
(y gweddill) | 31.12.2008 | 2008/3110 |
Atodlenni 7 ac 8 | 01.04.2008 | 2008/917 |
Atodlen 9 | 01.04.2008 | 2008/172 |
Atodlen 10 | 31.03.2008 | 2008/172 |
Atodlen 11 | 31.01.2008 | 2008/172 |
Atodlenni 12 ac 13 | 01.04.2008 | 2008/917 |
Atodlen 15 (yn rhannol) | 01.04.2008 | 2008/917 |
12.12.2008 | 2008/3110 | |
01.10.2009 | 2008/3110 | |
Atodlen 16 (yn rhannol) | 01.04.2008 | 2008/917 |
01.10.2009 | 2008/3110 | |
Atodlen 18 (yn rhannol) | 01.11.2007 | 2007/3136 |
13.02.2008 | 2008/337 | |
31.01.2008 | 2008/172 | |
01.04.2008 | 2008/172 | |
01.04.2008 | 2008/461 | |
01.04.2008 | 2008/917 | |
30.06.2008 | 2008/461 | |
01.06.2008 | 2008/591 (Cy.60) |
2007 p.28. Back [1]