Gwnaed
3 Awst 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Awst 2009
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 6, 14(3) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a pharagraff 1(1) a (4) o Atodlen 2 iddi(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru'n unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio Rhif 2) 2009.
(2) Daw'r rheoliad hwn a rheoliad 2 i rym ar 7 Medi 2009.
(3) Daw rheoliad 3 i rym ar 12 Hydref 2009.
2. Dirymir rheoliad 2 o Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2009(3).
3. Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001(4) drwy ychwanegu'r canlynol ar ôl rheoliad 9(1)(b)–
"; neu
bod y Bwrdd Gwahardd Annibynnol, a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(5), wedi cynnwys, neu'n ystyried p'un ai i gynnwys, athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig yn y naill neu'r llall o'r rhestrau o'r gwaharddedig a gedwir o dan adran 2 o'r Ddeddf honno.".
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
3 Awst 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) 2001 ("Rheoliadau 2001") ac yn dirymu diwygiad a wnaed i Reoliadau 2001 gan Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Disgyblu) (Diwygio) 2009.
Mae Rheoliadau 2001 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau disgyblu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
Effaith y diwygiad a'r dirymiad yw bod swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio sy'n perthyn i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn cael eu gwahardd os yw Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn dymuno ystyried achos gyda'r bwriad o arfer pwerau o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002, neu os yw'r Bwrdd Gwahardd Annibynnol wedi cynnwys neu'n dymuno ystyried cynnwys yr athro neu'r athrawes yn y rhestrau o'r gwaharddedig a gedwir o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
Er bod y cynllun gwahardd o dan y Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 yn disodli'r system o roi cyfarwyddiadau o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002, cedwir y cyfeiriad at y system honno gan fod angen gwahardd swyddogaethau Pwyllgor Ymchwilio mewn perthynas ag achosion sy'n cael eu hystyried o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 ond nad ydynt wedi dod i ben ar 12 Hydref 2009.
1998 p.30. Mae adran 6 ac Atodlenni 1 a 2 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911). Diwygiwyd paragraff 1(4) o Atodlen 2 gan baragraff 86(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32) ac fe'i diwygiwyd ymhellach gan baragraffau 2 a 7 o Atodlen 9 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). I ganfod ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1). Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002, ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 2009/1354 (Cy.130). Back [3]
O.S. 2001/1424 (Cy.99) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/503 (Cy.71), 2009/1354 (Cy.130). Back [4]
2006 p.47. Back [5]