Gwnaed
4 Awst 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Awst 2009
Yn dod i rym
1 Medi 2009
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 21(3), 131 a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Yn unol ag adran 131(7) o'r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r rhai o blith y canlynol a oedd yn ymddangos yn briodol yn eu tyb hwy: cymdeithasau o awdurdodau addysg lleol yng Nghymru; awdurdodau addysg lleol yng Nghymru; cyrff yn cynrychioli buddiannau cyrff llywodraethu yng Nghymru; a chyrff yn cynrychioli buddiannau athrawon yng Nghymru.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Diwygio) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Medi 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall–
ystyr "Rheoliadau 2002" yw Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002(2).
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn–
(a) at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Rheoliadau 2002; a
(b) at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddo.
3. Diwygir Rheoliadau 2002 fel a ganlyn.
4.–(1) Yn rheoliad 3(1) mewnosoder y canlynol yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor–
"ystyr "athro neu athrawes ddigyswllt" ("unattached teacher") yw athro neu athrawes a gyflogir gan yr awdurdod ac sy'n cwympo o fewn un o'r categorïau canlynol–
athro neu athrawes nad yw'n gysylltiedig ag ysgol benodol;
athro neu athrawes a gyflogir i ddarparu addysg gynradd neu uwchradd heblaw mewn ysgol;
athro neu athrawes a gyflogir mewn uned cyfeirio disgyblion (gan gynnwys athro neu athrawes sydd â gofal uned);
ond nid yw'n cynnwys athro neu athrawes a gyflogir ar gontract cyfnod byr;
ystyr "awdurdod" ("authority") mewn perthynas ag athro neu athrawes ddigyswllt yw'r awdurdod addysg lleol sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes ac os yw ef neu hi yn gyflogedig gan fwy nag un awdurdod, yna pob awdurdod o'r fath;
ystyr "contract cyfnod byr" ("short term contract") yw contract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai nag un tymor ysgol;
ystyr "y dyddiad perthnasol" ("relevant date") yw 1 Medi 2009;
mae "tymor ysgol" ("school term") yn cynnwys (a) cyfnod o amser sydd heb fod fwy nac wythnos yn fyrrach na thymor ysgol llawn a (b) dau hanner tymor olynol.".
(2) Yn y diffiniad o "athro neu athrawes ysgol" ("school teacher") o linell 6 ymlaen, hepgorer "o dan gontract cyfnod penodol os yw'r cyfnod yn llai na blwyddyn" a mewnosoder "o dan gontract cyfnod byr".
5. Yn rheoliad 4 mewnosoder y canlynol ar ôl (2)–
"(3) Pan fo ysgol wedi'i phenodi yn werthuswr yn unol â rheoliad 36(2) mae'n ddyletswydd ar y corff llywodraethu a phennaeth yr ysgol honno i arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn gyda golwg ar sicrhau bod perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt dan sylw wrth gyflawni ei ddyletswyddau neu ei dyletswyddau yn yr ysgol ac mewn ysgolion eraill yn cael ei werthuso'n rheolaidd yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(4) Mae'n ddyletswydd ar yr awdurdod i arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn gyda golwg ar sicrhau bod perfformiad athrawon digyswllt wrth gyflawni eu dyletswyddau tuag at yr awdurdod yn cael ei werthuso'n rheolaidd yn unol â'r Rheoliadau hyn.".
6. Yn rheoliad 15(1) hepgorer "ac" o linell 3 o (b) a mewnosoder y canlynol ar ddiwedd llinell 3 o (c)–
"; ac
penderfynu a fu yna adolygiad llwyddiannus o berfformiad cyffredinol.".
7.–(1) Diwygier rheoliad 22 fel a ganlyn.
(2) Yn (2) llinell 2 mewnosoder cyn "(3)", "(2A)" a mewnosoder ar ôl (2)–
"(2A) Yn achos athro neu athrawes ysgol a gyflogir o dan gontract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai na blwyddyn, hyd y cylch gwerthuso yw cyfnod y cyfnod penodol."
(3) Mewnosoder y canlynol ar ôl (4)–
"(4A) Yn achos athro neu athrawes mewn ysgol feithrin sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol, caiff y pennaeth benderfynu bod hyd y cylch gwerthuso cyntaf yn gyfnod heblaw blwyddyn ar yr amod nad yw'n dod i ben yn gynharach na 30 Ebrill 2010 nac yn ddiweddarach na 30 Medi 2010.
(4B) Yn achos athro neu athrawes ysgol a gyflogir o dan gontract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai na blwyddyn sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol, rhaid i'w berfformiad neu ei pherfformiad gael ei reoli drwy gydol y cyfnod sy'n weddill o'r contract megis ar y dyddiad perthnasol ac fe'i hadolygir ar ddiwedd y cyfnod penodol.".
8.–(1) Yn rheoliad 29(1) hepgorer "ac" o linell 3 o (b) ac yn (c) ar ôl "hynny" mewnosoder–
"; ac
penderfynu a fu yna adolygiad llwyddiannus o berfformiad cyffredinol.".
9. Mewnosoder y canlynol fel Rhan IV ar ôl rheoliad 33–
34.–(1) Mae rheoliadau 35 i 45 yn gymwys i werthuso athrawon digyswllt.
(2) Yn y Rhan hon, sef Rhan IV, mae "ysgol" yn cynnwys uned cyfeirio disgyblion ac mae cyfeiriadau at bennaeth yn cynnwys cyfeiriad at athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion.
35.–(1) Rhaid i'r awdurdod, a hynny heb fod yn ddiweddarach na 1 Tachwedd 2009, sefydlu polisi ysgrifenedig ("y polisi rheoli perfformiad") sy'n gosod sut mae gwerthuso athrawon digyswllt i gael ei weithredu.
(2) Rhaid i'r awdurdod adolygu'r polisi rheoli perfformiad bob blwyddyn ysgol.
(3) Yn sgil adolygiad o'r fath rhaid i'r awdurdod, os gwêl yn dda, ddiwygio'r polisi rheoli perfformiad.
(4) Cyn sefydlu neu cyn diwygio'r polisi rheoli perfformiad rhaid i'r awdurdod ymgynghori â phob un o'i athrawon digyswllt ynghylch ffurfio'r polisi rheoli perfformiad neu ei ddiwygio.
(5) Rhaid i'r awdurdod weithredu'r polisi rheoli perfformiad.
(6) Rhaid i'r awdurdod beri fod copi o'r polisi rheoli perfformiad ar gael i'w archwilio ar unrhyw adeg resymol gan:
(a) unrhyw athro neu athrawes ddigyswllt;
(b) unrhyw berson sy'n ymwneud ag arolygu gweithrediad y gyfundrefn o werthuso athrawon digyswllt;
(c) unrhyw werthuswr a benodir yn unol â'r Rheoliadau hyn.
36.–(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol yr awdurdod yw'r gwerthuswr ar gyfer pob athro neu athrawes ddigyswllt.
(2) Caiff yr awdurdod ddirprwyo rhai o'r dyletswyddau a osodir ar werthuswr, neu'r cyfan ohonynt, i athro neu athrawes yn yr ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio prif ran ei amser gwaith neu ei hamser gwaith, neu i berson arall o'r fath ag y mae'r awdurdod yn ei ystyried sydd yn y sefyllfa orau i reoli ac adolygu perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt.
(3) Caiff yr awdurdod benodi gwerthuswr newydd yn lle gwerthuswr presennol ar unrhyw adeg neu caiff wneud y dyletswyddau hynny ei hun.
37.–(1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod benderfynu amseriad y cylch gwerthuso ar gyfer pob athro neu athrawes ddigyswllt a gyflogir ganddo.
(2) Ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraffau (3), (4) a (5) blwyddyn yw hyd cylch gwerthuso.
(3) Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ddigyswllt sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol o dan y Rheoliadau hyn, caiff yr awdurdod benderfynu bod hyd y cylch gwerthuso hwnnw'n gyfnod heblaw blwyddyn.
(4) Yn achos cylch gwerthuso cyntaf athro neu athrawes ddigyswllt sydd heb fod yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol o dan y Rheoliadau hyn, caiff yr awdurdod benderfynu bod hyd y cylch gwerthuso cyntaf yn gyfnod o lai na blwyddyn.
(5) Yn achos athro neu athrawes ddigyswllt a gyflogir o dan gontract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai na blwyddyn, rhaid i berfformiad yr athro hwnnw neu'r athrawes honno gael ei reoli drwy gydol cyfnod y contract a chael ei adolygu ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
(6) Rhaid i'r awdurdod gymryd pob cam rhesymol i sicrhau fod y cylch gwerthuso cyntaf ar gyfer pob athro neu athrawes ddigyswllt sydd yn ei swydd ar y dyddiad perthnasol yn dechrau heb fod yn ddiweddarach na 31 Hydref 2010.
(7) Pan fyddant wedi dechrau, bydd y cylchoedd gwerthuso ar gyfer pob athro neu athrawes ddigyswllt yn barhaus.
(8) Ni fydd penodiad gwerthuswr newydd yn peri bod cylch gwerthuso athro neu athrawes ddigyswllt yn dechrau eto ac eithrio fel y dichon paragraff (9) ddarparu ar ei gyfer.
(9) Pan fydd athro neu athrawes ddigyswllt yn trosglwyddo i swydd newydd o fewn yr awdurdod wedi iddo ef neu hi fynd yn rhannol drwy gylch gwerthuso, rhaid i'r awdurdod benderfynu a fydd y cylch yn dechrau eto ac os felly a ddylid penodi gwerthuswr newydd.
38.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i reoliadau 39 i 43 rhaid i'r awdurdod benderfynu ar y gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso athrawon digyswllt.
(2) Os yw rhai o ddyletswyddau'r awdurdod neu'r cyfan ohonynt mewn perthynas ag athro neu athrawes ddigyswllt wedi cael eu dirprwyo i athro neu athrawes yn yr ysgol yn unol â rheoliad 36(2) yna yn ddarostyngedig i reoliadau 39 i 41 caiff y gweithdrefnau ar gyfer gwerthuso'r athro neu'r athrawes ddigyswllt hwnnw neu honno fod yn rhai a benderfynir gan gorff llywodraethu'r ysgol yn unol â rheoliad 25.
39.–(1) Cyn y cylch gwerthuso neu ar ddechrau'r cylch gwerthuso, rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gyfarfod er mwyn cynllunio'r gwerthusiad a pharatoi ar ei gyfer a cheisio cytuno ar amcanion sy'n gorfod cynnwys amcanion ynghylch–
(a) datblygu a gwella arferion proffesiynol yr athro neu'r athrawes ddigyswllt;
(b) cynnydd y disgyblion.
(2) Os na chytunir ar amcanion o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig yr amcanion hynny y mae'n credu eu bod yn briodol, a chaiff yr athro neu'r athrawes ddigyswllt ychwanegu sylwadau ysgrifenedig.
(3) Rhaid i'r amcanion y cytunir arnynt o dan baragraff (1), neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2), a sylwadau ysgrifenedig yr athro neu'r athrawes ddigyswllt, gael eu cofnodi mewn datganiad amcanion ysgrifenedig.
(4) Rhaid i gopi o'r datganiad amcanion gael ei anfon i'r awdurdod (pan nad yr awdurdod yw'r gwerthuswr) ac i benaethiaid ysgolion lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu ei hamser gwaith yn rheolaidd wrth gyflawni ei ddyletswyddau neu ei dyletswyddau.
40.–(1) Caiff amcanion athro neu athrawes ddigyswllt gael eu hadolygu ar unrhyw adeg yn ystod y cylch gwerthuso os yw'r athro neu'r athrawes ddigyswllt a'r gwerthuswr yn cytuno.
(2) Os yw amcanion athro neu athrawes ddigyswllt yn cael eu hadolygu o dan baragraff (1)–
(a) rhaid diwygio'r datganiad amcanion i ddangos yr adolygiadau y cytunwyd arnynt;
(b) darllener cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt fel cyfeiriadau at yr amcanion fel y'u hadolygwyd; ac
(c) darllener cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddatganiad amcanion yr athro neu'r athrawes ddigyswllt fel cyfeiriadau at y datganiad amcanion fel y'i diwygiwyd.
41.–(1) Rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt mewn cyfarfod a gynhelir o dan reoliad 39 geisio cytuno ar y gweithdrefnau ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt yn erbyn yr amcanion y cytunir arnynt o dan reoliad 39(1) neu os nad oes amcanion wedi'u cytuno, yr amcanion sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan reoliad 39(2).
(2) Os na chytunir ar weithdrefnau o dan baragraff (1), rhaid i'r gwerthuswr nodi'n ysgrifenedig y gweithdrefnau hynny ar gyfer monitro perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt y mae'n credu eu bod yn briodol.
(3) Rhaid i'r gweithdrefnau sydd naill ai wedi'u cytuno dan baragraff (1) neu wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2) gynnwys:
(a) gofyniad bod y gwerthuswr wrth werthuso'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn arsylwi unwaith o leiaf yn ystod y cylch gwerthuso ar yr athro neu'r athrawes ddigyswllt wrth i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt addysgu.
(b) gofyniad bod y gwerthuswr yn ceisio gwybodaeth oddi wrth y rheini sydd â gwybodaeth broffesiynol berthnasol ynghylch yr athro neu'r athrawes ddigyswllt mewn mannau eraill lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu ei hamser gwaith yn rheolaidd wrth gyflawni ei ddyletswyddau neu ei dyletswyddau.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5) ni chaiff gwerthuswr gael gwybodaeth, p'un ai yn ysgrifenedig neu ar lafar, sy'n berthnasol i berfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt oddi wrth unrhyw berson arall oni bai bod yr athro neu'r athrawes ddigyswllt yn cytuno neu bod yr wybodaeth wedi'i chael yn unol â'r gweithdrefnau y cytunir arnynt o dan baragraff (1) neu os nad oes gweithdrefnau wedi'u cytuno y gweithdrefnau sydd wedi'u nodi'n ysgrifenedig o dan baragraff (2).
(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae gan werthuswr hawl i'w chael o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn.
42.–(1) Ar ddiwedd y cylch gwerthuso neu yn agos i'w ddiwedd rhaid i'r gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt gynnal adolygiad gwerthuso, gyda'r bwriad–
(a) o adolygu perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt a nodi ei gyraeddiadau neu ei chyraeddiadau ac unrhyw agweddau lle byddai cynnydd pellach yn ddymunol;
(b) o asesu i ba raddau y mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt wedi bodloni'r amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion;
(c) o nodi unrhyw anghenion o ran hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny; ac
(ch) o benderfynu a fu yna adolygiad llwyddiannus o berfformiad cyffredinol.
(2) Rhaid i'r dyddiad y mae adolygiad gwerthuso i gael ei gynnal arno gael ei benderfynu gan y gwerthuswr, ond rhaid rhoi o leiaf 10 niwrnod ysgol o rybudd (ysgrifenedig) i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt am y dyddiad hwnnw.
(3) O leiaf bum niwrnod ysgol cyn yr adolygiad gwerthuso, caiff yr athro neu'r athrawes ddigyswllt, gyflwyno i'r gwerthuswr–
(a) asesiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt ei hunan o'i berfformiad neu o'i pherfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd yn y datganiad amcanion;
(b) manylion unrhyw hyfforddiant y mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn credu y byddai'n ddymunol ei gael o ystyried yr asesiad hwnnw; ac
(c) manylion unrhyw ffactorau y mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn credu eu bod wedi effeithio ar ei berfformiad neu ei pherfformiad yn erbyn yr amcanion a gofnodwyd;
a rhaid i unrhyw asesiad o'r fath a gwybodaeth arall a gyflwynir i'r gwerthuswr o dan y paragraff hwn gael eu hystyried yn yr adolygiad gwerthuso.
(4) Cyn pen 10 niwrnod ysgol ar ôl pob adolygiad gwerthuso rhaid i'r gwerthuswr baratoi datganiad ysgrifenedig yn cofnodi'r prif bwyntiau a wnaed gan y gwerthuswr a'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn yr adolygiad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt, a rhaid cofnodi mewn atodiad i'r datganiad (sef atodiad a fydd yn rhan o'r datganiad) yr anghenion hyfforddi a datblygu a ffyrdd o ddiwallu'r anghenion hynny a nodwyd yn yr adolygiad.
(5) Gall adolygiad gwerthuso o dan baragraff (1) gael ei gyfuno â chyfarfod o dan reoliad 39 mewn perthynas â'r cylch gwerthuso canlynol.
(6) Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad a baratoir o dan baragraff (4) i'r athro neu'r athrawes ddigyswllt cyn pen 10 niwrnod ysgol ar ôl yr adolygiad gwerthuso.
(7) Caiff yr athro neu'r athrawes ddigyswllt, cyn pen 10 niwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad hwnnw, ychwanegu ei sylwadau ysgrifenedig ato, a rhaid i'r sylwadau hynny fod yn rhan o'r datganiad gwerthuso.
(8) Os nad yr awdurdod yw'r gwerthuswr, rhaid i'r gwerthuswr anfon copi o'r datganiad gwerthuso i'r awdurdod ac i bennaeth unrhyw ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd wrth gyflawni ei ddyletswyddau neu ei dyletswyddau.
(9) Os mai'r awdurdod yw'r gwerthuswr, rhaid i'r awdurdod anfon copi o'r datganiad gwerthuso i bennaeth unrhyw ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd wrth gyflawni ei ddyletswyddau neu ei dyletswyddau.
43.–(1) Mae gan athro neu athrawes ddigyswllt hawl i apelio yn erbyn ei werthusiad neu ei gwerthusiad o dan y Rheoliadau hyn cyn pen 10 niwrnod ysgol ar ôl cael copi o'r datganiad gwerthuso o dan reoliad 42(6).
(2) Pan fydd y gwerthuswr yn athro neu'n athrawes yn yr ysgol bydd darpariaethau rheoliad 30(2) i (12) yn gymwys, ond y bydd cyfeirio yn y paragraffau hynny at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratowyd o dan reoliad 42(4) gan gynnwys at ddibenion rheoliadau 31 a 32 unrhyw sylwadau a ychwanegwyd gan swyddog apelau o dan baragraff (6)(a) o reoliad 30.
(3) Os mai'r awdurdod yw'r gwerthuswr gwneler unrhyw apêl yn ysgrifenedig i'r awdurdod yn unol â'r gweithdrefnau apêl sy'n gymwys i'r holl staff ac eithrio fel a ddichon fod yn anghyson â'r rheoliad hwn.
(4) Rhaid i'r swyddog apêl gynnal a chwblhau adolygiad o'r gwerthusiad cyn pen 10 niwrnod ysgol ar ôl cael y datganiad gwerthuso o dan reoliad 44(2)(b) a rhaid iddo gymryd unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan yr athro neu'r athrawes ddigyswllt i ystyriaeth.
(5) Caiff y swyddog apêl–
(a) gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn sefyll gyda sylwadau'r swyddog apêl neu hebddynt; neu
(b) diwygio'r datganiad gwerthuso gyda chytundeb y gwerthuswr; neu
(c) gorchymyn bod y datganiad gwerthuso yn cael ei ddileu a gorchymyn gwerthusiad newydd.
(6) Pan fydd gwerthusiad newydd yn cael ei orchymyn o dan baragraff (5)(c) rhaid i werthuswr newydd gael ei benodi yn unol â rheoliad 36 a rhaid i'r swyddog apêl benderfynu pa weithdrefnau gwerthuso y mae'n rhaid eu hailadrodd.
(7) Os yw'n ymddangos i'r swyddog apêl nad oes athro neu athrawes ysgol mewn ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio prif ran ei amser gwaith neu ei hamser gwaith sy'n addas i fod yn werthuswr newydd y gellir ei benodi ar gyfer yr athro neu'r athrawes ddigyswllt, rhaid i'r swyddog apêl benodi fel gwerthuswr newydd ar gyfer yr athro neu'r athrawes ddigyswllt aelod o gorff llywodraethu'r ysgol honno (heblaw llywodraethwr sy'n athro neu'n athrawes neu'n aelod arall o staff) neu unrhyw berson arall sy'n addas i reoli ac adolygu perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt.
(8) Rhaid cwblhau pob gweithdrefn werthuso y penderfynir ei hailadrodd o dan baragraff (7) cyn pen 15 niwrnod ysgol ar ôl dyddiad gorchymyn y swyddog apêl o dan baragraff (5)(c).
(9) Ni chaiff y swyddog apêl–
(a) penderfynu bod amcanion newydd i gael eu cytuno neu eu pennu; na
(b) penderfynu bod yr amcanion y cytunwyd arnynt neu a bennwyd o dan reoliad 39 i gael eu hadolygu.
(10) Mae'r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn ac yn rheoliadau 44 a 45 at ddatganiad gwerthuso yn gyfeiriadau at ddatganiad a baratoir o dan reoliad 42(4), gan gynnwys, yn achos rheoliadau 44 a 45, unrhyw sylwadau a ychwanegir gan swyddog apêl o dan baragraff (5)(a).
44.–(1) Rhaid i'r gwerthuswr roi copi o'r datganiad gwerthuso:
(a) i'r pennaeth ymhob ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd wrth gyflawni ei ddyletswyddau neu ei dyletswyddau;
(b) i'r awdurdod.
(2) Rhaid i'r awdurdod drefnu bod y datganiad gwerthuso ar gael os gwneir cais amdano:
(a) i'r gwerthuswr;
(b) i unrhyw swyddog apêl ac unrhyw gynghorydd allanol sy'n rhoi cymorth i'r swyddog apêl cyn pen pum niwrnod ysgol ar ôl i'r awdurdod gael hysbysiad apêl o dan reoliad 43, ac mae'n rhaid rhoi iddynt hefyd gopi o'r datganiad amcanion;
(c) i'r Prif Swyddog Addysg neu unrhyw swyddog neu gynghorydd a ddynodir yn benodol gan y Prif Swyddog Addysg i fod yn gyfrifol am gynghori am ddyrchafiad athrawon digyswllt, neu am ddefnyddio unrhyw ddisgresiwn ynghylch cyflog, neu am wneud penderfyniadau mewn perthynas â hynny.
(3) Rhaid i'r awdurdod ddarparu copi o'r atodiad i'r datganiad gwerthuso y cyfeirir ato yn rheoliad 42(4) i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am gynllunio hyfforddi a datblygu athrawon ysgol yn unrhyw ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio rhan o'i amser gwaith neu o'i hamser gwaith yn rheolaidd wrth gyflawni ei ddyletswyddau neu ei dyletswyddau.
(4) Rhaid i'r awdurdod drefnu bod datganiad amcanion cyfredol athro neu athrawes ddigyswllt ar gael i werthuswr newydd a benodir heblaw ar ddechrau cylch gwerthuso.
(5) Rhaid i ddatganiad gwerthuso athro neu athrawes ddigyswllt gael ei gadw gan yr awdurdod am o leiaf dair blynedd ar ôl i'r datganiad gwerthuso nesaf gael ei gwblhau.
45.–(1) Gall gwybodaeth berthnasol a ddaw o ddatganiadau gwerthuso gael ei chymryd i ystyriaeth gan awdurdod, Prif Swyddogion Addysg neu unrhyw swyddogion neu gynghorwyr a ddynodir yn benodol gan Brif Swyddog Addysg o dan reoliad 44(2)(c) wrth iddynt wneud penderfyniadau, ac wrth iddynt gynghori'r rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ynghylch dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu athrawon digyswllt neu ynghylch arfer unrhyw ddisgresiwn mewn perthynas â chyflog.
(2) Rhaid i weithdrefnau gwerthuso beidio â bod yn rhan o unrhyw weithdrefnau disgyblu neu ddiswyddo.".
11.–(1) Diwygir Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000(3) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)–
(a) yn y diffiniad o "athro neu athrawes ysgol" yn lle "dim mwy na dwy ysgol" rhodder "un ysgol"; yn lle "gontract cyfnod penodol os yw'r cyfnod yn llai na blwyddyn" rhodder "gontract cyfnod byr";
(b) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder–
"mae "tymor ysgol" ("school term") yn cynnwys (a) cyfnod o amser sydd heb fod fwy nac wythnos yn fyrrach na thymor ysgol llawn a (b) dau hanner tymor olynol;";
(c) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder–
"ystyr "contract cyfnod byr" ("short term contract") yw contract cyflogaeth am gyfnod penodol o lai nag un tymor ysgol;".
(3) Yn rheoliad 2(2) yn (a) hepgorer "a" ac ar ôl "ysgol feithrin a gynhelir" yn (b) mewnosoder–
"; ac
bydd athrawon ysgol yn rheoliad 10 yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw athrawon digyswllt fel y'u diffinnir yn Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 y mae'r pennaeth neu athro neu athrawes ysgol arall yn yr ysgol honno am y tro yn werthuswr ar eu cyfer yn unol â rheoliad 36 o'r Rheoliadau hynny.".
(4) Dileer paragraff (11) o reoliad 10.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
4 Awst 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 (O.S. 2002 Rhif 1394 (Cy. 137)) ("Rheoliadau 2002").
Mae'r Rheoliadau hyn yn dwyn o fewn cwmpas Rheoliadau 2002 werthuso perfformiad athrawon ysgol (gan gynnwys athrawon ysgolion meithrin) a gyflogir gan awdurdodau lleol am fwy nag un tymor ysgol ac athrawon a gyflogir gan awdurdodau lleol nad ydynt yn gysylltiedig ag ysgol benodol neu sy'n addysgu y tu allan i sefydliadau ysgol.
Bydd Rhan IV, sydd i'w mewnosod yn Rheoliadau 2002, yn darparu mai awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am werthuso perfformiad athrawon digyswllt. Caiff awdurdodau lleol ddirprwyo rhai o'u cyfrifoldebau i'r ysgol lle mae'r athro neu'r athrawes ddigyswllt yn treulio prif ran ei amser gwaith neu ei hamser gwaith, neu i berson arall addas. Caiff y rheini sy'n gyfrifol am werthuso athrawon digyswllt gael gwybodaeth o fannau eraill lle mae'r athro neu'r athrawes yn gweithio.
Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi polisi rheoli perfformiad a pharhau i'w adolygu. Rhaid i amcanion ymwneud â datblygiad personol, a chynnydd disgyblion.
Y cylch gwerthuso ar gyfer athrawon a gyflogir ar gontract cyfnod penodol o lai na blwyddyn fydd cyfnod y contract. Ar gyfer pob athro neu athrawes arall a ddygir o fewn cwmpas Rheoliadau 2002 y cylch gwerthuso fydd blwyddyn. Mae yna rai eithriadau ar gyfer y rheini sy'n dod i'r cylch gwerthuso am y tro cyntaf neu'r rheini sy'n newid swyddi yn ystod cylch gwerthuso.
I bob athro neu athrawes ysgol sydd o fewn cwmpas Rheoliadau 2002, rhaid i'r adolygiad gwerthuso benderfynu a fu yna adolygiad llwyddiannus o berfformiad cyffredinol.