Gwnaed
15 Gorffennaf 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Gorffennaf 2009
Yn dod i rym
10 Awst 2009
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 10 Awst 2009.
2. Yn rheoliad (Anifail, dofednod a chig dan gyfyngiadau: diffiniadau) o Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008(3), ym mharagraff 8 o'r fersiwn Saesneg, yn lle "protected" rhodder "protection".
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
15 Gorffennaf 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008 (O.S. 2008 Rhif 1275), drwy roi "protection" yn lle "protected" ym mharagraff 8 yn y fersiwn Saesneg.